Skip to main content

Y BEDYDDIWR. 3VEEHCEFI3Sr, 1859. DRYGEDD DYLANWAD Y FASNACH FEDDWOL AH Y DOSPAliTH GWEITHGAE. Cydfaddygol t/n Msteddfod Brynhyfryd, Nadolig, 1857. Rhagymadrodd.—Mae dynion yn du- eddol i edrych. ar bethau ac ysgogiadau a fyddont yn cymmeryd lle o'u cwmpas yn rhanol, heb syllu arnynt o bob tu ac yn eu holl gyssylltiadau, ac yn ffurlìo oarn am danynt wrth y goleu maent hwy yn ganfod ar y naill du r"r peth, heb gymharu hyny â'r goleu ellir weled ar y tu arall iddo hefyd. Oherwydd hyn dadleua dynion yn erbyn eu gilydd, a phob un yn tybied ac yn haeru fod y gwirionedd o'i du ef, ac yn erbyn ei wrthwynebydd, tra mewn gwirionedd y dichon fod rhan o hono gan bob un o'r ddau, ond nid yr un rhan, a rhan o hono efallai yn cael ei ddiystyru hefyd gan bob un. Nid yn aml y mae cyfeil- iornadau yn cael eu lledu yn y byd na bydd gan y cyfeiliornwyr rhyw ran o'r gtcirionedd yn cael ei ddangos, tra y maent yn gosod antcir hefyd tan yr un iau âg ef, ac yn ceisio rhoi pelydr y gwirionedd i addurno yr anwir sydd wedi ei gam-ieuo gydag ef, a thrwy y cyfrwystra hwn yn medru twyllo y sawl nas meddant ddigon o grafFder i ganfod y gwahaniaeth sydd rhwng y goleu hanfodol a'r goleu benthyeol." Oher- wydd yr un rheswm mae dynion yn rhedeg i eithafon gyda'r gwirionedd, ac efallai wrth ochel eithafon ar y naill law yn syrthio i eithafon gwrthwyneb ar y llaw arall. Yr achos yw, nad ydynt yn edrych ondar ran o'r gwir yn lle edrych arno oll, a'i " droi yn mhob goleu," ys dywed Doctor Watts. Oddiar yr un egwyddor y cyfyd llawer o'r gwahaniaeth golygiadau o barth y fasnach feddwol. Mae rhyw wirioneddauyn cael eu crybwyll gan ei phleidwyr, megis rhesymau i'w ham- ddiflyn ; ond nia edrychir ganddynt ond ar y naül ochr i'r gwirioneddau byny, a êhîf. 210,—Cyf. ivui. ieuir hwy gyda thwyll, a cheisir cuddio hagrwch y twyll à pheledr y gwirionedd fyddont hwy wedi roddi tan yr un iau âg ef. Gwirionedd yw, fod pob petìi a greodd Duw yn dda, os cymmerir ef trwy dalu diolch ; ond twyll yw dweyd mai at eu llyncu gan ddynion mae y diod- ydd meddwol yn dda, er y gaíìant foà yn dda i ryw ddybenion ereill; er hyny iena dynion y gwirionedd uchod â'r twyll hwn er mwyn i harddweh y gwir- ionedd dafiu ei aden dros y twyll fel nas gwelo dynion ei hagrwch. Gwir- ionedd yw, fod yr efengyl yn ein galw i ryddid, ond myned i eithafon yw defn- yddio y rhyddid hwnw yn achlysur i'r cnawd"; a'thwyll yw dadleu rhyddid dy-n fel rheswm dros iddo ymarfer à pheth sydd yn niwed iddo ei hun, neu i ereill. Dylid edrych ar y gwirionedd yn ei holl gyssylltiadau, ac nid ar ryw un cyssylltiad yn unig. Ar y tir hwn cawn íawer dyn doniol iawn yn dadleu rhyddid dyn—cyfreith- londeb derbyniad rhoddion creadigol— nad yr hyn sydd yn myned i mewn i'r genau sydd yn halogi dyn—fod yn rhaid i'r masnachwyr yn y diodydd meddwol gael lle i fyw—fod elw i'r llywodraeth oddiwrthi—fod y ffarmwr yn cael trwyddi werthu ei haidd, &c, fel rhesymau dros gynhaliad y fasnach. Yn awr, mae y pethau hyn oll yn wir- ioneddau ; ond nid yr holl wirionedd. Mae mor wir a'r ptthau uchod, fod yr hyn sydd niweidiol i ddyn yn llygred- igaeth i gymdeithas, ac yn achìysur i ddianrhydeddu Duw, yn bethau i'w gwrthod", ac i sefyll yn eu herbyn. A hyny ddylid ieuo gyda y gwirioneddau blaenorol, ae nid y gall'dyn gymmeryd pob peth yn y ffordd y myno. Ei'allai mâi y pen-campwaith o ieuo gwirionedd a thwyll yw dadleu digon- oldeb yr efengyl i wella y byd, fel rheswon dros wrthwynebu pob ysgogiad uniongyrchol yn erbyn y fasnach fedd- wol. Gwirionedd yw, fod yr cfengyl yn ddigonol i wella y byd, ond nid ŷr