Skip to main content

:r MAWRTH, 1859. DWYFOLDEB Y BIBL. Parhad o tudal. 38. Ond nid at gyssondeb dygwyddiadol ei ffeithiau yr oeddym ni am gyfeirio y darllenydd, ond " at gyssondeb mawr athrawiaetb.au y Bibl. Diau fod cys- sondeb llyfr a ysgrifenwyd mewn cyn- nifer o wahanof oesoedd, a chan gynnifer o wabanol bersonau, yn profì o leiaf fod ynddo rhywbeth yn perthyn iddo na pherthynodd i un llyfr arall yn y byd erioed, a'r rhyw beth hyny nid yn am- gen na dylanwad yr unrhyw Ysbryd ag a gynhyrfodd yr holl ysgrifenwyr i osod i lawr yr hyn a fynai efe ei hun. Cyfansoddwyd yilyfrauysgrythyrol nid gan un ysgrifenydd, ond gan fwy na deg ar hugain o wahanol awduron; nid mewn un oes, ond yn yr ystod maith o un cant ar bymtheg o flynyddau; nid gan ysgrifenwyr cyffelyb i'w gilydd oran sefyìlfa ac amgylehiad, canys yr oedd rhai o honynt yn alluog yn y byd, a j rhai yn iselradd; rhai yn dy wysogion : ac yn freninoedd, a rhai yn fugeiliaid ac yn bysgotwyr; rhai yn ysgolheigion medrus, ae ereill heb eu dwyn i fyny mewn dysgeidiaeth ddynol, ac etto yn eu hysgrifeniadau yn un y maent yn eyt- uno ; er eu bod yn ysgrifenu ar y pwne pwysig o grefydd a moesoldeb, am yr hyn y mae yn y byd filoedd o dybiau gwahanol, nid oes ganddynt hwy ond un gyfundrefn, un farn, ac un dystiol- aeth. Yr un yw eu syniad am Dduw, am ddyn, ae am drefn iachawdwriaeth ; ac felly am bob mater a ddygir gan- ddynt gerbron, yr hyn sydd yn proíi eu bod oll o dan ddylanwad "yrunrhyw ysbryd." Nodwn brif ffeithiau y Bibl:—Cread- igaeth y byd—Gwreiddyn dynolryw—Y dylif—Cymmysgedd Babel — Duw yn galw Abraham—Dinystr y dinasoedd— Hynodrwydd ac ymneülduad hüiogaeth Ismael—FfurfìadhadAbrahamyngenedl ~Eu caethiwedynyr Aifft—Eu gwared- igaeth—Eu corffoliad yn eglwys i'r Duw goruchaf ar Sinai—Rhoddiad y ddeddf Ehif. 207.—Cyf. xviii. ■ i I —Pererindod Israel trwy yr anialwch a'u mynediad i Ganaan—Eu eymmeriad o dan íy wodraeth y barnwyr—Y deml a'i gwasanaeth—Enciliad y deg llwyth—Y caethiwed a'r adferiad o Babilon—Y teulu o ba un yr hanodd Crist—Ei ened- igaeth wyrthiol—Ei gymmeriad ben- digaid a phur—Ei bregethau anghyd- marol a'i wyrthiau anfeidrol—Ei ddy- oddefiadau ingawl a'i angeu iawnol—Ei gladdedigaeth—Ei adgyfodiad a'i es- gyniad i ddeheulaw Duw—Disgyniad yr Ysbryd dydd y Psnteeost, a gweithred- iadau yr apostolion. Wele lawer o brif ffeithiau y llyfr dwyfol; ond pa fodd y gallwn sierhau i ni ein hunain i'r rhaí y dywedir iddynt ysgrifenu y Bibl fod- oli yn wirioneddol yn y byd, ae mai hwy a wnaethant yr ysgrif'au sydd yn dwyn eu henwau ?* Yr ydym yn derbyn cyfrol o'r Coll Gwynfa, ac yn oanfod ar y title page enw Mútou fel awdwr iddo. Yn awr, fe fu y fath yn bodoli neu ynte ni fu yr un. Sut y cawn foddlonrwydd ar y pwnc ? Mae dros dd.au cant o fìyn- yddoedd oddiar y pryd y dywedir i'r bardd ganu y gerdd synfawr hon. Rhaid i ni dderbyn tystiolaethau ei gydoos^yyr, y rhai oeddynt yn ei adnabod ac yn gwybod am dano; nid oes neb na dder- byn y fath broíion. Mae y Bibl yn pro- fiesu iddo gael ei ysgrifenu gan wahanol bersonau ar wahanoí amserau, ac mewn amgylehiadau neillduol; ae hefyd nad yw ei gynnwysiad ond adroddiad syml a gwirioneddol o ffeithiau megis ag y cymuierasant le. Gellir pwyso, mesur, chwüio, a barnu y pethan hyn, pa un ai ffug neu ynte ẁirionedd ydynt. Gwydd- om i'r ysgrythyrauluddewig gael eu cyf- ieithu i'r iaith Roeg yn Alexandria dri chant o flynyddoedd cyn geni Crist, gan hyny rhaid fod yr ysgrythyrau mewn bodolaeth ar y pryd. Ond o ba le y caf- odd yr Iuddewon y llyfrau hyn, na all- asent gael eu hysgrifenu y pryd hwnw, a chan un, sydd amlwg oddíwrth am- rywiaeth y llyfr. Mae y meddyliau, yr arddull, y ffeithiau, yr hanesydd-