Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. ■ATWST, 1866. COFIANT T DIWEDDAR BARCH. DAFYDD REES, GWEINIDOG Y BEDYDDWYR YN ABEP.TEIFI. Gan y Parch. T. E. James, Cwmbach. Pan y dygwydda i ddyn droi raewn cylch cyhoeddus, y raae a fyno y cyhoedd ag ef fel eu gwasanaethydd. Meddant hawl yn ei lafur pan yn fyw, ac yn ei goffadwriaeth ar ol ei farw. Nid peth o ddyfais ddiweddar \w croniclo hanesion arn ein cewri crefydd- ol; na, y mae hwn yn hen orchwyl. Llawer o fywgraffiadau a addurnant y gyfrol ys- brydoledig, fel ag y mae lliaws a hunasant er ys miloedd o flynyddau, yn ymddanjjos yn awr megys pe buasent yn ein hymyl! Megys er döe y canfyddwyd Abraham ar ben Moria, Moses wrth fynydd Sinai, a'r lesu croesboeliedig ar fynydd Calfaria,—y maent oll fel yn ein hymyl! Tueddabyw- graffiadau o wroniaid Seion at lesoli y cyf- undeb Cristionogol. Yr apostol, pan yn anerch yr Hebreaid crediniol, a ddywedai, '• Meddyliwch am eich biaenoriaid, pa rai ft draethasant i chwi air Duw ; ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymar- weddiad hwynt." Salomon, ganrifoedd cyn hyny, a ddywedai, " Coffadwriaeth y cyf- iawn sydd fendigedig." Wrth ddarllen bywgraffiadau gwroniaid crefydd, canfyddwn wahanol ac amryfal symudiadau yr eglwys Gristionogol tra yn yr anialwch, yn nghyd ag amdiliffyniad Rhagluniaeth a gras arni. Gellir dweyd wrth adolygu sefyllfa gythryblus bechgyn y crwyn defaid a'r crwyn geifr, fod yr Ar- glwydd wedi gwneyd i ni bethau mawrion, ar gyfrif rhagoriaeth ein rhyddid ni. Ond fel ag y mae dirywiad wedi cymmeryd lle mewn cysylltiad â llawer o bethau da, felly hefyd y mae raewn perthynas i gofiantau ; y mae yraa yn aâol yr anonestrwydd penaf yn cael ei ddangos tuag at y marw, am na chawsai y gwir, ac at y byw ara na osodid allan y gwir am dano, pan y gofynir eu sylw at yr hyn a ysgrifenir. Mae y cy- hoedd, fel hyn, yn aml mewn dygn am- niheuaeth pan yn darllen cofiantau rhai dynion. Ond hyfrjd yw meddwl nad oes berygl gŵyro llawer ar y tir hwn, wrth ffurfio ein nodiadau parchusaf am wrth- ddrych clodadwy y cofiant hwn ; yr hwn, er wedi marw, sydd etto yn Uefaru. Cydnabydda yr ysgrifenydd ei hun yn dra anghymhwys i'r gorchwyl hwn ; a hyny, Iîiiif. 17G.—Cyf. XV. yn un peth, am iddo ddysgwyl wrth y di- weddar haeddglodus Mr. Joshua Morgan Thomas, o Aberteifi, am ymaflyd yn y gorchwyl, yr hwn a fuasai wedi ei wneyd yn orchestol cyn yma, pe cawsai einioes; eithr y mae efe wedi canlyn ei barchus weinidog i'r " wlad well." Heblaw hyn, methais ddyfod o hyd i'r hyn a ysgrifenodd Mr, Rees ei hun yn ei fywyd, er ymholi llawer, yr hyn, pe cawswn hwy, a wnelai y cofiant hwn yn llawer mwy dyddorawl ; gan hyuy, nid oes geuyf ond ymddibynu ar a gofiwyf, a defnyddio rhai awgrymau a gefais gan gyfeillion caredig. Dafydd Rees a anwyd mewn amaeth- dy, o'r enw Broadlay, yn mhlwyf Llan- Ishmael, ger Glanyfferi, ychydig o filltir- oedd islaw Caerfyrddin, Chwefror 13eg neu y 14eg, 1796. Enwau ei rieni oeddynt John ac Anne Rees, y rhai oeddynt aelod- au parchus gyda'r Bedyddwyr yn Nglan- yfferi; a dywedir fod ganddynt law fawr yn ffurfiad yr achos yn y lle hwnw. Dy- gwyddodd i'r achos gael ei ffurfio yn y lle ar flwyddyn enedigol Mr. Rees, drwy off- eryngarwch y gweinidog llafurus ag a fed- yddiodd Mr. Rees wedi hyny. Yr oedd rhieni Mr. Rees yn meddiannu cymmeriad da, a gadawsant enw da, ac arogl peraidd, ar eu hol. Bu iddynt saith o blant; ond y maent oll erbyn hyn, oddigerth un, wedi canlyn eu rhieni i'r byd mawr tragywydd- ol. Preswylia rhai o'i berthynasau yn Broadlay hyd etto. Siaradai gwrthddrych ein cofiant gyda pharch mawr ain y cyng- horion difrifol, a'r siamplau da, a roddesid iddo yn moreu ei oes, yr hyn a fu yn fodd- ion i greu ynddo archwaeth dda at ddaioni a rhinwedd yn gynnar iawn. Dilynid llettygarwch hefyd gan y teulu hwn, yr hyn a roddodd gyfleusdra i Mr. Ree3 ennill adnabyddiaeth k phregethwyr enwocaf y tymmor hwnw, yr hyn a hoffai yntau yn fawr. Gyda golwg ar ei fywyd bachgeu- aidd, hynodid ef yn benaf gan sirioldeb, moesoldeb, ufydd-dod i rieni, a thra char- iadus gan bawb o'i gymmydogion. Gyda golwg ar fanteision addysg, nid oeddynt ond cyffredin. Dysgwyd ef i ddarllen yn dda yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac i ysgrif- enu yn y ddwy iaith. Pan yn 14 oed, dewisodd ddysgu y gelfyddyd o grydd, yn hytrach nâ dilyn amaethyddiaeth gyda'i dad; ac felly rhwymwyd ef i fod yn eg- wyddor-was i grydd yn y gymmydogaeth. Crydd ydoedd yr enwog Ddr. Carey; bu-