Skip to main content

Y BEDYDDFVYR IMEÜEIFnsr, 1856. COFIANT Y PARCH. J. MORGANS, BLAENTFFOS. LLYTHYR TERFYNOL. [Olygydd hynaws,—Gwedi i mi anfon i chwi y nifer a gyhoeddasoch o Lythyrau hunan-hanesol fy hen Weinidog parchus, meddyliais nad oedd ei Gofiant yn gyf- lawn, fel un llafurus a llwyddiannus yn ngwinllan ei Dduw, heb i'r Llythyr cart' lynol gael ymddangog. Crynodeb yw, fe ddichon, allan o lyfr eglwys Blaenyffos, yr hwn a gadwai ef yn ofalus. Mae yn wir yr ail adrodda rai pethau, ac mai i'r bobl a adwaenant y Ue a'r ardal, yn benaf, y perthyn ; ond gall fod yn addysgiadol a chefnogol i ereill godi, meithrin, ac an- rhydeddu achosion crefydd yn eu hardal- oedd, gan gredu, pwy bynag fyddo " yn diystyru dydd y pethau bychain," na wna Duw ond bendithio pob ymdrech ffydd- lawn ac ysgrythyrol er lles eneidiau. Lle priodol y llythyr hwn yn y Cofìant, yn ol ei ddyddiad, yw i ganlyn yr wythfed. Yn lle rhoddi y cyfnewidiadau^yn flynyddol, fel y maent yn ei ysgrif o fy mlaen, talfyraf grynodeb pum-mîynyddol yn daflen a ddeugys godiad graddol yr achos yn ddigon, 08 nid mwy eglur i'r darllenydd, Ar gyn- nydd yr elo etto yn Mlaenyffos, a thros bob bro a bryn, tra bo daear a dyn arni, yw gweddi eich gwasanaethwr, a charwr ei genedl, er yn nihell.—Shem Eyans.] Pen'rallt, JSbrìll 12, 1843. Anwyl Frawd,—Wele i chwi hanes eglwys Blaenyffos, a'i dygiad yn mlaen. Yn y flwyddyn 1740, dechreuwyd cadw cwrdd prydnawn Sabboth yn Abercerdin, yn nhý Lewis Thomas, (tad Titus Lewis,) un o weinidoglon Cilíowyr. Cedwid y ewrdd bob pythefnos. Yu y Hwyddyn 1748, symudwyd i Flaenyffos, i dý annedd Dafydd Phillip. Beinir iddo baihau yno am 35 o flynyddau. Yna daeth deiíiad newydd i'r tý, o'r enw James Richard; a chafwyd lle i farnu ar frys, nad oedd ef yn caru cael y cwrdd yn ei dý. Yna sym- udwyd i'r Moifa, i dÿ Nicholas Hitson. Bu yno tua dwy Hynedd, nes adeiladwyd yr addoldy bychan cyntaf wrth y groes- ffordd, Blaenyflbs. Tra y cynnaliwyd yr addoliad yn nhý Hitson, gwelodd Duw yn dda i Iwyddo ei achos a chodi tystion dros y gwiriouedd yn y. gymmjdogaeth ; ond byddent yn cael eu Riiif. 174.—Cyf. xvi. bedyddio a'u derbyn yn Nghilfowyr. Caf- wyd caniatâd gan Lord Milford, gyda Uawer o barodrwydd, fel y mae yr hanes, i adeiladu arei dir, a lès o 99 mlynedd, am dair pupren o rent blynyddol ar 32 Hathen o dir yn bedeironglog. Bu y boneddig hefyd mor garedig â rhoddi dau ffini at draul adeiladu y tŷ. Yn mis Hydref, 1785, yr agorwyd y tŷ gyntaf, pan yr anrhegodd Lewis Thomas, y gweinidog, yr areithfa à Bibi newydd, yna gweddiodd. Wedi hyny pregethodd John Williams, Llangloffan, W. Williams, A.berteifi, a Daniel John, Rhydwilym, ar yr achlysur. Yn mhen ychydig aeth y tŷ yn rhy fychan ; helaethwyd ef trwy godi croes yn 1791, a lloft yn y pen gorllewinol yn 1795. Adeiladwyd stabal yn 1797. Üechteuwyd gweinyddu y cymundeb yn 1787, bob dau Hs hyd 1794, yna yn fisol ; ond yn y prydnawn o hyd, yr hyn oedd yn dra anghyHeus yn y gauaf. Yn mis Gor- phenaf, 1794, bu farw Thomas Hitson. Yr oedd ef yn ddyn hynod fywiog ac ym- ilrechol, ac yn bregethwr call a defnyddiol. Mawr oedd y golled, ond ei elw ef, iddo farw ! Yr oedd y cwrdd gweddi nos Iau yn Hodeuog yn ei amser ef, ac ysgol nos wythnosol i ddysgu plant a rha» mewn oed i ddarllen, (cyn fod son am Ysgol Sab- bothol.) yn cael ei chynnal trwy èi ddiwyd- iwydd; ond fe hedodd ymaith pan oedd yr achos yn dechreu blodsuo. Gwanhaodd yr achos dros amser, trwy ytnddygiad anweddus rhai ; etlo, byddai y gynnulleidfa yn lliosog ar y Sabbothau. Ond aeth y cwrdd gweddi ganol y mis yn isel am amser ; dim oud un hen wraig (Betty James) a minau amryw weithiau yn ei gynnal, a dyma y dull o'i gadw :— Yn ol aros atn ryw amser, «« Wel," ebai yr hen wraig, " ddaw yma neb mwy heddy î Do8, fy machgen bach, darllen benuod, a dos i weddi." Minau a gydsyniwn. Gwedi hyny, aros ychydig yn rhagor. •' Wel," ebai hi drachefn, " dos, darllen bennod etto, a dybena y cwrdd trwy weddi." Yna ymadawem. Bu yn edifar genyf gan- waith na fuaswn yn hel yr hen wraig i weddi, canys yr oedd yn eithaf call, ac yr wyf yn credu ei bod yn arfer gweddio Ilawe:-. Wele yn canlyn yr ychwanegiadau a'r cyfnewidiadau yn y gymdeithas, oddiar hyny hyd yn breBenol. [Nid oes hanen beth oedd rhif yr aelodau yn yr ardal cyn