Skip to main content

Y BEDYDDIWR. MAWRTH, 1856. COFIANT Y PARCH. J. HORGANS, BLAENYFF08. (Parhad o'r Rhifyn olaf, tudal. 36.) LLYTHYR VII. Fen'rallt, Awst 4, 1842. "Wele fi unwaith etto yn anfon ychydig o'm helynt yn y byd gofìdus hwn. Yr wyf yn cael iechyd rhyfedd ; ond fy mod yn methu cerdded ond ychydig. Mae genyf gart bychan, fel y gallaf fyned yn rhwydd a diboen lle y mynwyf. Ystyriaf hyn yn fraint fawr i mi. Bedyddiais bedwar y Sabboth w)thnos i'rdiweddaf, yn Mlaeny- ffos, lle na fu un ychwanegiad er ys amryw fisoedd o'r blaen. Yr oeddwn yn mron digaloni, rhag na ehawswn y fraint o fed- yddio neb mwy cyn myned i'r bedd. Mae yma un etto yn ymofyn am y ffordd. Gweddiwch drosof, am i mi gael bod o ryw ddefnydd dros fy Ngheidwad bendigedig tra y byddwyf. Yr wyf yn arswydo rhag bod yn dihoeni, yn ddiles, ac ynfaich iereill, ac i mi fy hun. Mae fy nhymmor ar der- fynu l Yr wyf yn dymuno bod yn ffydd- lawn hyd y diwedd. Rhoddaf yn awr i chwi ychydig o hanesfy NGOLYGIADAU AB. BETHAU CREFYDD. Pan ddechreuais bregethu, Sabeliaeth oedd barn y gweinidogion yn gyffredinol, ac yr oedd yn berygl dweyd, " Tri Pher- son;" ond rywfodd, nis derbyniais i Sabeì- iaeth. Byddwn yn ddigywilydd yn dweyd, " Tri Pherson," yn gyhoeddus mewn Cyrddau Misol a Chwarterol; etto, dieng- ais rhag cael fy ngalw i gyfrif, ond gwenu y byddent ar eu gilydd, a'm galw ynDrini- tariad mawr! Ond byddwn yn gorfod dyoddef dadleu caled oddiwrth Dafydd y gwëydd, hen aelod yn Mlaenyffos, ag oedd yn byw gerllaw Ebenezer. Dyn gwybod- us iawn. Bu Uawer brwydr boeth rhyng- om, ond fe ddaeth i'm goddef o'r diwedd. Pregethid llawer am etholedigaeth a rhad ras yr amser hyny, heb nemawr o son am ddyledswydd dyn fel deiliad llywodraeth foesol Duw. Nid oeddwn, ac nid wyf, yn ammheu etholedigaeth ; ond nid oeddwn yn golygu mai peth i'w bregethu i'rlliaws yw etboledigaeth. Am rad ras, y mae fy enaid yn gorwedd yn hollol ar yr athraw- iaeth hon, trwy aberth gwaedlyd fy anwyl GrÌBt. Am bechod gwreiddiol, byddui llawer o ddweyd fod hwnw yn ddigon ei hun i ddamnio y byd ; ac haerai rhai fod y Rhif. 171.—Cyf. xr. rhan fwyaf o lawer o'r myrdd babanod sydd yn marw yn eu mebyd, yn golledig î Gwnawn i yn wastad wrihwynebu hyn, yn olfy nawn. Nid oeddwn yn gwadupechod gwreiddioi fel llygriad ; ond yn haeru na chai neb ei ddamnio am hwnw yn unig. Felly y mae fy nghred yn bresenol. Medd- yliai rhai pebl, wrth y pethau hyn, fy mod i yn Arminiad perffaith ! a bu Jonah bach am dro yn haeru hyny. Rhaid addef i mi ei anfon ef, ac un arall, i dymher ddrwg weithiau, trwy fy mod, wrth ddadleu, yn rhoi y lliw gwaethaf ar eu golygiadau hwy. Byddwn yn aml yn pregethu mewn angladdau plant bychain, ac yn sicrhau eu bod yn y nejoedd. Ennillodd hyn bawb o'm tu, ag oedd wedi claddu plant. Yn mhen amser, Honyddodd y ddadl yn y gymmydogaeth; daeth pregethwyr yn aml o'r un farn, a Uefarent felly yn gyhoeddus. Peth arall yn fy ngweinidogaeth, agoedd yn wahanol i'r hyn a bregethid yn aml yr amserau hyny, oedd helaethrwydd iawn Crist,—fod galwad yr efengyl ar bawb yn ddiwahaniaeth i gredu yn Nghrist,—acnad oedd un addewid i ddynion digrefydd. O, fe ddywedid am danaf, fy mod yn gosod terfyn ar Sanct yr Israel, ac fod yr athraw- iaeth olaf yn beryglus; a barn îlawer am danaf oedd, fy mod yn delpyn o Faxterian ! Nid oedd son am Fuller yr amser hwnw. Nid wyf yn gwybod am un peth ag yr wyf wedi cyfnewid yn hollol yn ei gylch, ond am deyrnasiad personol Crist ar y ddaearam filo fiynyddoedd cynadgyfodiad yr annuwiol. Bûm yn hoff iawn o'r pwnc hwnw. Byddai yr hen weinidogion yn pregethu Uawer arno. Byddwn yn llettya yn aml yn y Gilfach, ac yr oedd y wraig gall a duwiol hòno yn dra hoff o'r mil blynyddoedd, ac yn ymddyddan yn aml am hyny gydag hyfrydwch ; ond yr wyf fi yn awr, er ys blynyddau, wedi aewid fy medd- wl am hyny. Bûm yn dwyn mwy o sel dros osod dwy- law ar y bedyddiedig, nag a wnaf yn bre- senol. Nid wyf wedi dyfod i benderfyniad etto y dylid ei roddi heibio ; ond yr wyf yn synu ei fod yn cael ei adael heibio wrth neillduo gweinidogion a diaconiaid. -lae arnaf yn awr ofn mai dadfeilio y mae crefydd. v' Cewch hanes peth o'm fbofiad yn y Hythyr nesaf. Terfynaf yn awr trwy enwi y Ueoedd y cefais y fraint a'r hyfrydwch o fedyddio ynddynt y rb»i eedd yn credu. Bedyddiftig yn Mlaenyffos, 367 j amryw