Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDFWR. CHWEFBOR, 1860. COFIANT Y PAECH. J. MORGANS, BLA.ENYFF08. (Parhad o'r Rhifyn olaf, tudal. 4.) LLYTHYR III. Pen'rallt, Tach. 11,1841. Wedi dechreu pregethu, rhoddwyd oedfa- on arnaf ddau Sabboth y mis, yn Mlaeny- ffos a Chilfowir ; sef y boreu yn y naill, a'r prydnawn yn y llall. Byddwn yn fisol, un boreu Sabboth, yn Nhrefdraeth, ac yn Sychnant y prydnawn, am flynyddau. Yr oeddwn yn gorfod codi yn foreu, a byddai yn llawer o'r nos cyn y delwn adref. Hefyd, yn fisol, am flynyddau, yn Mlaen- ywaen a'r Hendre. Yn fuan wedi cael fy ngalw i bregethu, bu cryn gyfnewidiad yn íy amgylchiadau tymmorol. Daeth Sais o Loegr yn arddwr i Bantyderi. Ni wyddai air o Gymraeg. Ar ddiwrnod fe ddechreuodd ar waith go helaeth o flaen wyneb y tŷ ; ond ni fedrai beri i'r deuddeg gweithiwr oedd dan ei ofal ddeall gair a ddywedai wrthynt mwy nâ phe buasai Roegwr. Gorfyddai ar y gwr ooneddig ddyfod allan i gyfieithu rhyng- ddynt. Ond er fy mawr les i, yr oedd y tywydd yn dwym anarferol. Gorfu arno roi ei waith o gyfieithu heibio, ac anfon ei was i'm hol i yn y mynyd, canys yr oedd y gwaith gwedi sefyll; a'r gwas, wedi dyfod i'r cae lle yr oeddwn, a waeddai nerth ei lais, *' John Morgan, come home to master in a minute ;" a chyda hyny yn troi yn ol, gan redeg, fel nas gellwn ei oddiweddyd nes yn y tŷ. Finau yn rhedeg, heb wybod beth oedd yr achos. Er fy mawr les, myned igyfieithu rhyngddoâ'r gŵeithwyr, oedd i mi wneyd, goreu medrwn. Dyn fine oedd y dyn, ac fe fu o lawer o les i dynu y rhwd oddiar yr ychydig Saesneg oedd genyf wedi ei ddysgu pan yn yr ys- gol, a dysgais lawer mwy ganddo ef. Bûm gydag ef yn agos i flwyddyn ; yna darfu i'r gwr boneddig, mewn rhyw fodd, anghy- tuno ag ef, a chafodd ei dalu ymaith. Cefais inau fy nghadw yn yr ardd yn ei le ; a bûm yn y sefyllfa hon ddwy flynedd a rhagor. Dyna yr amgylchiad goreu a fu arnaf yn fy holl fywyd, sef gyda'r Sais, ac yn yr ardd. Gweddiais a gwnes lawer pregeth yn yr ardd, dan y pren a alwent y palm tree. Yr oedd yn bren uchel iawn, ac yn gangenau bron o'i fôn i'w frig. Rhif. 170.—Cyf. xv. Byddwn tan gysgod hwnw pan fyddai yn gwlawio, a rhyw lyfr a fyddai yn wastad yn fy Uogell; a phan elai yn hindda, byddwn yn ymiôi ati, i ddod i mewn â'r golled. Dywedai fy meistr fy mod yn gweithio cymmaint â thri o'r dynion goreu. Gwedi hyn, darfu i fy meistr gwympo allan â'i steward, a gorfu arnaf fi gymmeryd gofal y fferm. Yr oedd yn anhawdd genyf ddewis hyn, gan fy mod dan enw pregethwr yn awr. Y gofal yn fawr,—o ddeuddeg i bymtheg o weithwyr bob dydd, o wyth i ddeg o hen wragedd, pedwar o fechgyn, dwy o ferched, a phedwar o grytiaid bych- aiu yn cethrain yr amser hwnw ; ond trwy daer gais fy meistr, cymmerais eu gofal. Trefnodd yn serchus i fi gael ceffyl i fyned i bregethu ar y Sabbothau, a chawn geffyl yn wastad i fyned i'r Cwrdd Chwarter a'r Gymmanfa ; ac arosai ef gartref ei hun, ond i fi ddweyd fy mod am fyned, er ei fod ef yn gyfreithiwr, ac yn myned ddwy waith bob wythnos i Aberteifi. Bu y gofal oedd arnaf yn llawer o rwystr i fy myfyrdod mewn pethau crefyddol; ond yr oedd genyf ystafell lle y byddwn yn cadw cyfrif- on; a byddwn yn cael hamdden yno i ddarllen, ac i ysgrifenu ambell ddarn o bregeth. Ond yn fuan, magwyd cenfigen ataf gan rai ag oedd am gael y swydd. Yr oeddent wedi Ilwyddo o'r blaen i godi dau allan. Darfu i'r un dyn ymosod arnaf finau, trwy ei wraig. Y dull a gymmerodd oedd dweyd mai hawdd y gallwn ganu y gloch mor foreu, oblegid fy mod yn hol fy ngwartheg allan o dir fy meistr cyn ei chanu! Ond methodd â bod yn ddigon doeth efo ei chelwydd, gan y cyfaddefodd wrth gymmydoges mai ei acto (dyfeisio) a wnaeth î Cytunodd hòno â hi mai da oedd y peth. Yna soniwyd am y cyhuddiad o un i'r llall; yr oedd yn destun ymddyddan pawb trwy y gymmydogaeth, a minau heb wybod dim am dano yn fwy nâ'r marw. Daeth cyn hir i glustiau y gwasanaethwyr, y rhai a edrychent arnaf fel tad neu gyfaill. Gyda galar darfu iddynt amlygu i mi fod brâd yn bod yn fy erbyn, a pheth ydoedd. Pan glywais, ni wyddwn pa fodd i ym- ddwyn, gan fy mod yn proffesu crefydd, ac ar enw pregethwr, onitê gwnaethwn o'r goreu yn fuan â hwynt. Gweddiais lawar am gyfarwyddyd pa fodd i wneyd, a chefais fy nhueddu i ddweyd wrth fy meistr cyn sôn gair wrth neb arall. Yr oedd hyn ar ddechreu y cynauaf medi. Yr oeddwn o