Skip to main content

Y BEDYDDÍWR. IONAWR, 1856. COFIANT Y PARCH. J. MORGANS, BLAENYFFOS. Fy anwyl Genedl, yn enwedig y Bedyddwyr Cymreig, Gan y meddiannaf ychydig o drysor a berthyn i chwi, yr wyf yn brysio i'w dros- gluyddo; sef hanes un o weision Iesu Grist yn eich plith am hanner can mly- nedd. Mae Bywgraffiadau hanesol ffydd- lawn o ddynion da neu ddrwg, yn ddysg- eidiaeth eglur a defnyddiol. Yn Llyfr y lljfrau, Gair Duw, ceir llawer o'r fath ddjsg; a dyledswydd pob oes yw cludo yn mlaen, er ei fawl ef, a lles dyfodolion, rin- wédd a diwydrwydd y sawl a'i carant, ynghyd ag ymddygiad ei ragluniaeth a'i ras f.uag atynt. Y trysor sjdd genyf yw rhes o Lythyrau, yn cynnwys Hanes Bywyd a Gweinidog- aeth j diweddar Hybabch John Morgans, o Bl ■enyffos, yn swydd Benfro. Ysgrif- enodd hwynt ataf ar fy nghais, tua deu- ddeg mtynedd cyn ei farw, pnn oedd yn dra iach a gwrol, a'i gof yn dda. Ystyr- iwyf ei bod yn ddyledswydd a braint i mi yn awr i'w gosod gerbron fy nghydwlad- wyr yn gyffredinol, a darllenyddion y Bedyddiwr yn neillduol, trwy ganiatâd y Golygydd. Y lles a dderbyniais yn ieuanc tan weinidogaeth Mr. John Morgans, yn gystal â'r serch a'r ymddiried a barhaodd rhyngom tra fu ef byw, a'r hyder y bydd adolygiad ei fywyd yn fendithiol i'r dar- ìlenydd, a achosant i mi bleser ac hyfryd- ẃel- yn y ddyledewydd hon. Wrth adysgriöo ei Lythyrau, rhoddais eu dyddiad, ond gadewais heibio eu cyf- archiadau, a phethau cyffredin o natur bersonol tuag ataf ar yr amser ; eithr ym- drechais ddiwygio, heb eithrio ei iaith na sewid ei eiriau, na gadael allan un peth a dueddai i ddangos ei ddawn gwrol, ei dymherau serchus, ei ysbryd mwynaidd ; a phe gallwn, ei lais llym, peraidd, a threiddgar. Er fod y rhan fwyaf o lawer o'r bobl a'i ciywsant ar fryniau fy hen wlad, wedi ymadael, fel efe, o'rbyd gofldus hwn, i fyd llawer gwell, neu lawer gtoaeth! y uiae rhai etto, fel finau, yn aros am ychydig. Bydded i'r cyfryw, a phob un a ddarlleno y Llythyrau canlynol, fod " yn ddilynwyr i'r rhai, trwy ffydd ac amynedd, sydd yn etifeddu yr addewidion." Arntby, 1855. Shem 15va.ns. Rhif. 169.—Cyf. iy. LLYTHYR I. Pen'rallt,- Medi 21, 1841. Anwyl Frawd,—Am fy Hanes, 08 meddyliwch y bydd o ryw les, chwi a'i cewch oreu ag y gallaf; a chwi a ellwch benderfynu mai gwir fydd bob darn. Fe'm ganed mewn pentref bychan a elwir Pont-y-baldan, yn mhlwyf Nefern, swydd Benfro, y 24ain o Fawrth, 1772, o deulu isel o ran amgylchiadau bydol. Crydd oedd fy nhad, a chrydd o'r fath oreu yn ei oes ef ydoedd hefyd ; ond yr oedd yn ofer anarferol! Byddai yn hel wythnos gyda'r ddiod, o dafarn i dafam, heb wneyd dim gwaith ; wedi hyny byddai yn ymrôi ati i bwrpas. Yr oedd ei deulu yn lliosog,—cafodd 14 o blant; eithr ni ddaeth ond pump i'w llawn faintioli, sef tri o feibion a dwy o ferched. Bu fy chwiorydd yn byw yn Hwlffordd hyd yn ddiweddar; bu farw fy mrodyr er ys blynyddau. Cafodd fy mrodyr ddysgeid- iaeth dda, a'u dwyn i fyny yn gryddion da hefyd ; ond pan gefais i fy magu, yr oedd amgylchiadau fy nhad yn isel, ac yr oedd yu methu cael nwyddau at ei waith. Ni chefais i ddysgu gair ar Iyfr nes yn 12oed, ac ni chefais ond hanner blwyddyn o ysgot i gyd ; ac nid hyny yn gryno, ond wythnos yn awr, a phythefnos brydarall. Yroedd- wn yn dysgu cymmaint a fynwn, mewn modd buan, gydag hyfrydwch ; ond gorfu i mi fyned i wasanaetho, a gadael yr ysgol gyda mawr alar. Pan aethym i'm gwas- anaeth, cymmerais fy nghopi ysgrifenu a'm copi cyphro gyda mi, canys yr oeddwn yn, dechreu cyphro ychydig; ondoch! aeth- ym i blith ieuenctydgwageddusac annuw- iol iawn ; a finau heb gael un addysg dda erioed, ond cymmaint a gefais yn yr ysgol gan un John Young, dyn da, wrth bob arwjddion. Yn awr daeth chwantau ieu- enctyd i mewn fel afon lifeiriol, — digrif- wch a chariu maswedd,—nes oeddwn yn ben-campwr yn mhob cyfeillach annuwiol. Byddai bechgyn a merched yr ardal yn dyfod heibio, ac yn peri i mi godi o'r gwely, a myned gyda hwynt i'r ruelinau, ac i'r cwrw bach, neu y meeting, fel y galwent ef. Rhaid oedd caelShacci Mor- gan gvda hwynt cyn y byddai y cwmpeini yn gyflawn. Byddwn yn arfer gwrando ar y Sabbothau yn Brynberian, (Independiaid.) Stephen Lloyd oedd y gweinidog. Nid oedd ei bregéthau ef yn cael un effaith ar fjr