Skip to main content

Y BEDYDDIWE. Cyf. XIII.] , HYDREF, 1854. [Rhif. 154. ADGOF UWCH ANGHOF. Cysegredig i Goffadwriaeth W. T. DAVIES, Ysw., Tyddynwr a Glo-feddianwr, Abertiant-y-groes, ger Aberdâr ; yr hwn afufano Awst 14, 1850. Er fod pedair blynedd wedi cyflawni eu rhedfa, cyfnewidiadau lliosog wedi cym- meryd lle mewn byd ac eglwys, a thynged oesol miloedd o eneidiau wedi ei phender- fynu, er pan hunodd yn yr Arglwydd y milwr da hwn i Iesu Grist; eto, mae ei enw yn arogli yn hyfryd, a'i "goffadwr- iaeth fel gwin Libanus" hyd heddy w; ac y mae dylanwad ei fywyd rhiuweddol a santaidd yn parhau i lesoli cylch ei gydnabod. Mae awgrym o barch yn ddyledus i goffadwriaeth dyn da, achrefyddwr gonest, ymdrechgar, a duwiol. Byddai yn ddir- myg ar serch cymdeithasol, yn drosedd ar arferiad yr oes, ac yn gam â rhinwedd, i oddef i enw Mr. Davies gael ei gladdu yn meddrod trigolion presenol Cwmbach ; yr hyn a ddygwydd oddieithr i'r wasg gyfodi cof-golofn iddo. Ystyriaeth o'n rhwyme- digaeth fel pleidwyr santeiddrwydd i ddwyn esiampl creíyddwyr gweithgar a chyson i ddylanwadu ar y byd moesol, ynghyd ag awydd neillduol i lawer o ddarllenwyr y Bedyddíwr gael eu tueddu i efelychu cymmeriad Cristionogol uchel ein brawd ymadawedig, ydynt y pethau a gym- hellant ysgrifenydd y Uinellau hyn i'w gyflwyno i sylw yn awr. Amaethwyr yn gwrteithio eu tir eu hunain oeddynt ei rieni,—yn byw yn gysurus, a dim ond hyny. Ycbydig a wyddom am dduU ei ddygiad i fyny; nid ydym wedi cael ar ddeall fod y teulu yn grefyddol ; modd b}'nag» cafodd ef ddigon o ymborth a chefn cynhes. Tebyg fod Ysgolfeistri yn ddynion lled brin yn Nghymru yn amser bachgnaidd gwrthddrych ein Cofiant; oblegid cafodd ef y fraint o roi heibio bethau bachgenaidd, a dyfod yn ŵr, heb wybod nemawr neu ddim am fliritìer dysgyblaeth, na manteis- ion gwersi yr ysgoldy. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn o gorff mawr, cryf, a phrydferth, o feddwl grymus a threiddgar, aç o farn gywir ; yr hyn a'i cymhwysodd i Weithio ei ffordd trwy y byd gyda llawer o Cyf. xiii. Iwyddiant. Taflwyd ef arno ei hun yn foreu, a dysgodd ymddibynu ar ei ymen- ydd a'i fraich ei hun yn ieuanc. Gweith- iodd yn galed a diwyd trwy y rhan fwyaf o'i oes,—dygodd i fyny deulu lliosog, mewn modd anrhydeddus, a phan yr ym- adawodd â'r ddaear, gadawodd ar ei ol wyth o blant mewn amgylchiadau esmwyth a chysurus. Priodolai Mr. Davies ei iwyddiant a'i gysuron, nid iddei ddiwydrwydd ei hun, ond i drugaredd Duw, a bendith y nef ar ei lafur. Mae y mwyrif o ddynion yn rhyfedd o dueddol i briodoli eu holllwydd- iant idd eu doethineb, eu dyfais, ceu eu hymdrechiadau eu hunain ; a'u holl af- lwyddiant i ragluniaeth y Jehofa. Nid un o'r dosparth yna oedd ein brawd :—" Pob da oddiwrth y Creawdwr, a phob drwg oddi- wrth y creadur," oedd ei arwyddair ef bob amser. Dealled ein darllenwyr, mai fel Cristion y mae a fynom â Mr. Dayies yn awr, a maddeuer i ni am beidio cydymffurfio â'r arferiad cyft'redin o ddynodi Ue ac amser ei enedigaeth, enwau ei rieni, rhif ei frodyr a'i chwiorydd, ei briodas, diwrnod ei farw- olaeth, pregethwr ei angladd, &c. Cyn ei ddychweliad at Dduw, pan yn rhodio "yn ol helynt y bydhwn," yroedd yn ddiarebol am gywirdeb a gonestrwydd masnachol. Ystyrid ei air ef yn ddigon o sicrwydd yn y pethau pwysicaf. Trwy weinidogaeth y Parçh. W. Lewis, y pryd hyny o Aberdâr, w/erûi hyny o Ton- gwynlas, y dygwyd ef i gfedu yn Nghrist, ac i ufyddhau i'r gwirionedd. Mr. Lewis a'i bedyddiodd, ac a'i dŵrbyniodd i aelod- iaeth eglwysig. Bu ei fywyd crefyddol yn addurn i'r efengyl, yn esiampl i lawer, ac yn fendith fawr i'r eglwys yn y Cwmbach. Efallai nad anfuddiol fyddai cyflwyno i sylw rai o'r pethau a ffurfient ei gymmer- iad:— Un o nodweddiadau ei gymmeriad oedd gostyngeiddrwydd. — Nid ffug-ostyngeidd- rwydd, yn cael ei ddangos mewn gwisg- 2 p