Skip to main content

Cyf. XIII.] MEDI, 1854. [llHIF. 153. COFIANT W. THOMAS, AIL FAB MR. T. THOMAS, PONTYPWL. " If great endowments of a virtuous mind— If strength of eharacter with meekness join'ci, Can merit prai.se, that praise for him we claim." " I CONGRATULATE you and myself that life is passing fast away. What a superlatively grantl and consoling idea is that of deuth! Without this radiant idea, this delightful morning- star, indicating that the luminary of eternity is going to rise, life would to my view darken into midnìght melancholy. Oh! the expectation of Iiving here, and living thus, always, would be, indeed, a prospect of overwhelming despair. " But thanks to that decree which dooms us to die- thanks to that Gospel which opens the vision of an endless life—and thanks above all, to that Saviour friend who has promised to conduct all the faithful through tbe sacred trance of death into scenes of everlasting delight." " Ni fynwn fyw byth," ebe Job, ac yn wir, pwy ond yr ynfyd a fynai fyw byth yn y byd drwg presenoll Mwy gwerth- fawr yn ngolwg y doeth, yw dydtî marwol- aeth nâ dydd genedigaeth ; a pha ryfedd hyny, wrth iddo gofio ei fod yn cael ei eni i farw, ac yn marw i gael bywl Edrychir yn gyffredin ar angeu fel gelyn idd ei ofni, a melldith idd ei harswydo; ond llygad ffydd a genfydd yn y gelyn hwn, gyfaill i waredu, ac yn y felldith hon, fraint fwy ei gwerth nâ byd o berlau! Os yw y gweîth- iwr yn edrych yn mlaen gyda phleser ar gysgodau'r hwyr, pryd y caift' orphwys oddiwrth ei lafur ; os melys yn y storom yw cofio am yr hafan, ac os gwerthfawr yn ngolwg y carcharor yw dydd ei waredig- aeth, pa ryfedd fod y Cristion yn gosod gweith ar angeu, ac yn sugno cysuron o fynwesybeddl Cael marw, iddo ef, yw cael ei symud o drallod i wynfyd, ei ddyr- chafu o warth i ogoniant, a'i drosglwyddo o anialwch y ddaear iwynfyd y nef. Pwy ynte na chwennychai gael marw o farwol- aethydyhdal Cofier, betli bynag, mai bywyd dyn sydd yn rhoddi gwerth ar ei farwolaeth, ac mai mewn bywyd y mae gwneuthur cymmod ag angeu. Mor aml y clywir dynion yn dweyd, "O! y fath beth pwysig yw marw,—(ac yn wir, y mae felly ar lawer o olygiadau,) ond, ow 1 mor ychydig sydd yn ystyried yn ddifrifol y fath beth pwysig yw byic ! Y gwir yw, y mae byw yn annhraethol fwy o bwys na marw. Ië, gymmaint yn bwysicach ag yw colli bywyd trayyicyddo/, na cholli bywyd naturiol; ag yw colli y öefoedd a'i gogoniant, na cholli y ddaear Cyf. xiii. a'i thiallodion. Wrth fyio y mae pob dyn yn colli, neu yn cadw ei enaid. With farw ni chyll ond y bywyd sydd yn ei waed, a'r anadl sydd yn ei ffroenau. Wrth fyw mae rhedeg yr yrfa ; îe, ac wrth fyic hel'yd mae ennilí y gamp. Wrth farw nid oes ond derbyn y goron sydd icedi ei hennill, a meddiannu y deyrnas sydd tcedi ei gor- esgyn. Ddarlleuydd hynaws, os myni yspeilio angeu o'i ddychrynfeydd, a throi tywyll- wch y bedd yn oleu dydd, cysegra t'.y fytcyd i wasanaeth yr hwn a fu yn antreu i angeu, ac yn drauc i'r bedd. AVedi byw i Grist, hawdd fydd marw yn ei freichiau, a than weuiadau siriol ei wyneb. Mewn hyder y buasai ychydig o hanes bywyd duwiol, a marwolaeth ddedwydd, ein hanwyl frawd ymadawedig, yn foddion i ennill rhyw rai o'r newydd, (ac yn enw- edig y bobl ieuainc,) i efelychu ei rin- weddau wrth fyw, ac i ymestyn at fedd- iannu ei deimladau wrth farw, y cymmer- asom mewn llaw hyn o orchwyl. Diau fod ei lythyrau tia yn yr ysgol, at ei ber- thynasau, yn werth eu hargraífu, eu darllen, a'u hystyried. Rhoddwn i mewn ddarnau helaeth o rai o honynt, a'r nefoedd a baro er iddynt adael argraffiadauda ar feddjliau cannoedd. Ganwyd gwrthddrych y Cofiant hwn yn Lluudain, ar y lfJeg o Fai, 1834. Tua dwy fiynedd ar ol genedigaeth William, rhoddwyd gwahoddiad taer i'w dad i gym- meryd gofal Athrofa y Bedyddwyr yu Mhontypwl. Cydsyniodd Mr. Thomas â'r alwad; ac er cymmaint tyniadau (attrac- tions) y Brif-ddinas, daeth drosodd yn ddtos i fryniau Gwalia er gwasanaethu ei 2l