Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. XIII.] MEHEFIN, 1854. [Rhif. 150. PREGrETH,* GAN Y PARCH. J. OWEN, CASTELLNEWYDD-EMLYN'. ' Oblegid ti a fawrheaist dy Air uwchlaw dy enw oU."—Salm cxxxviii, 2. Yr oedd Dafydd, mae yn debyg, pan yn cyfansoddi y Salra hon, wedi ei dderchafu yn frenin ar Israel. Yn nechreu y Salm, gwelwn ei fod yn talu diolchgarwch i'r Ar- glwydd, am ei drugaredd a'i wirionedd. "Clodforaf di â'm holl galon ; yn ngwydd y duwiau y canaf i ti." Yr oedd Dafydd yn canmawl ac yn clodfori yr Arglwydd, nid yn unig yn ddirgel, ond yn gyhoeddus hefyd,—" Yn ngwydd y duwiau y canaf i ti." Y mae Duw yn gofyn am i bawb ei ganmawl â'i glodfori ef yn y dirgel, oblegid y mae efe yn edrych ar y galon, ac yn dywedyd wrth bob dyn, " Fy mab, rnoes i mi dy galon." Y mae efe yn barnu " meddyliau a bwriadau y galo'n;" mae " ei lygaid ef yn gweled, a'i amrantau yn profi meibion dynion." Ond nid yn unig byny, y mae Duw hefyd yn galw ar bawb ei ganmawl ef yn gyhoeddus ; y mae yr hwn sydd â chywilydd arno ei wasanaethu yn gyhoeddus, yn hollol annerbyniol yn ei olwg ef. Y neb sydd â chywilydd arno arddel yr Arglwydd yma, bydd yn gywilydd gan yr Arglwydd ei arddeí yntau y' dydd a ddaw. Bydded i ni oll fod yn debyg i Dafydd, yr hwn oedd yn clodfori yr Ar- glwydd â'i " holl galon," ac hefyd yn clodfori yr Arglwydd " yn ngwydd y duw- iau." " Ymgrymaf tua'th deml santaidd," (meddai Dafydd,) " a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a'th wirionedd ; oblegid ti a fawrhëaist dy Air uwchlaw dy enw oll." Y mae yn ddiammheu fod Dafydd yn cyfeirio yma at y ffaith fod Duw wedi cyf- lawni ei air a'i addewid iddo ef; ac y mae yn gweled mwy o ogoniant yn Ngair yr Arglwydd, nag yn ei holl weithredoedd. Y mae Duw yn fawr yn mhob man, ac yn amlwg yn ei hollweithredoedd ; ond gellir' dywedyd ei fod yn fwy, ac yu fwy amlwg, * Traddodwyd y Bregeth hon yn Nghapel yr Anmbynwyr, Castellnewydd-Emlyn, ar brydnawn Sabboth, y 26ain o Fawrth diweddaf, yn achos v Fibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor. Cyp. xiii. yn ei air, nag yn y cyfan oll; yn ei eiriau a'i addewidion yr oedd Dafydd yn gweled mwyaf o ogoniant Duw. Yr oedd yn edrych ar ei ogoniant yn ei weithredoedd, ac yn dywedyd, " Mor lliosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd ; gwnaethost hwynt oll mewn doethineb, a llawn yw y ddaear o'th gyfoeth '." " Y mae y nefoedd yn dadgan dy ogoniant, a'r ffurfafen yn mynegi gwaith dy ddwylaw," &c. ; ond eto, er yr holl enw a'r gogoniant sydd i Dduw yn y pethau hyn, yr oedd Dafydd yn dywedyd, " Ti a fawihé'aist dy Air uwchíaw dy enw oll." Cawn ddefnyddio y testun hwn fel arwydd-air i ddwyn yn mlaen bwnc ag sydd yn hawlio sylw pob un o honom, yn enwedig ar yr achlysur presenol. Yr ydym wedi dyfod at ein gilydd yma hedd- yw, fel tri enwad crefyddol, i gefnogi ac amddiffyn un o'r Cymdeithasau goreu a ffurfiwyd erioed, sef " y Fibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor," fel ei gelwir. Felly, yr hyn y caf alw eich sylw ato, y w gogoniant ac ardderchogrwydd Gair yr Arglwydd, neu y Llyfr ag y mae y Gym- deithas hon yn gefnogi. Y mae gogoniant y llyfr hwn yn ymddangos, os ystyriwn y pethau canlynol:— I. Y goleuni, neu y wybodaeth ogon- eddus a wasgara yn y byd. II. Y petliau ardderchog a chymhwys a gynnygia i'r byd. ' III. Y dylanwad daionus mae wedi gario ar y byd. I. Sylwn ar y goleuni, neu y wybodaeth ogoneddusaddeilliatrwy Air yr Arglwydd. —Y mae gwybodaeth, bob amser, yn beth angenrheidiol a gwerthfawr iawn,—" Bod yr enaid heb wybodaeth, nid yw dda," medd y gŵrdoeth; ond o bob gwybodaeth, y wybodaeth sydd yn cael ei chyfranu yn Ngair yr Arglwydd yw y werthfawrocaf. Y mae hyn yn derchafu y Llyfr uwchlaw holl lyfrau y byd ; oblegid y mae yn goleuo