Skip to main content

T BEDYDDIWE. Cyf. XIII.] CHWEFROR, 1854. [Rhif. 146. GWEETHFAWEOGEWYDD YE ENAID, Mae dyn yn fôd amrywiedig yn ei natur, yu gynnwysedig o goríf ac enaid,— defnydd ac ysbryd annefnyddiawl, (imma- tcrial spirit,) gwahanol oddiwrth y corff, ac yu bodoli ar ol marwolaeth y corff. Mae y rhywogaethau cyferbyniol hyn, wedi eu cyduno yn ddirgelaidd o ddechreuad bodoliaeth hyd oni fyddo angeu yn tòri yr undeb. Mae y corff yn farwol, ac yn fuan afe a ddychwel i'w elfen gyntefig, i'r llwch; ond y mae yr enaid yn anfarwol, ac a ddychwel at Dduw, yr hwn a'i rhoes ef. Mae gwerthfawrogrwydd yr enaid yn ymddani;os oddiwrth natur ei alluoedd; hiliogaeth uniongyrchol Duw yw yr enaid, a'i weithred olaf mewn creadigaeth, a mwyaf gogoneddus o'r holl greadwriaeth. Yr enaid yw y cyffelybrwydd mwyaf cywir o'r Duwdod, ag sydd yn egluro ei ddelw anfarwol, a pherti'eithrwydd ei natur. " Felly Duw a greodd y dyn ar ei lun ac ar ei ddelw ei hun." Y mae yr euaid, yn y modd hwn, yn feddiannol ar y galluoedd mwyaf ardderchog ac eang. Y mae y dealldwriaeth dynol yn rhoi hèr i bob . posiblrwydd o ddesgrifìad, gall yr enaid amgyffred deng-mil o wrthddrycliau gwel- edig. Y mae y byd presenol yn wrth- ddrych sydd â'i gylch yn rhy gyfyng i weithrediadau yr enaid ; mae yn ymwthio yn mlaen i dragywyddoldeb, yn tòri dros ben terfynau amser, ae yn gafaelu yn ngwirioneddau y byd anweledig; eheda mewn sylw ar sefyllfa y damnedigion yn uffern obry, esgyna drachefu mewn myfyr ar y corau seratfaidd sydd yn amgylchyuu gorsedd-fainc eu Creawdwr; disgyna yn ol eilwaitb i'r byd hwn, a threiddia trwy holl ororau creadigaeth Duw, a manwl sylla ar amryw weithredoedd trwy ba rai y caiff dystìolaeth ddiysgog o ddoethineb, gailu, a daioni y Creawdwr; yr hyn sydd yn dangos yn neillduol fawredd galluoedd yr enaid. Mae gwerthfawrogrwydd yr enaid yn ymddangos oddiwrth y gwerth a pha un y prynwyd ef. Y mae wedi ei bryuu â phris cyfartal â'i werth. M Nid ag arian ac 'iur," dyma gyfryngau masnach y byd hwn, ac ú'r arian a'r aur y prynir y pethau godi- Cyf. XIJ1 docaf a fedd y byd hwn ; ond wrth brynu enaid, gadawwyd Uonydd i holl fwn-g!odd- iau Peru, &c. Yr oedd yr enaid yn wertli gwae<i. " Gan wybod (medd yr Apoátol) nad â phethau Uygiedig, megis arian neu aur, y'ch pryuwyd oddiwrth eich ofer ym- arweddiad, yr hwu a gawsoch trwy dra- ddodiad y tadau; eithr û. gweithfawr waed Crist, megis oen difeius, a difrycheulyd." Gwaed, gwaed mawr, gwerthfawr waed Crist. Edrychwn ar fawredd a chymmer- iad person y Gwaiedwr,—dysgleirdeb go- goniant Duw,—gwir lun person y Tad,— ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, sef ein Hiachawdwr Iesu Grist; eto, efe a'n carodd ni, fel y rhoddodd ei hun tros- om ni ; efe a gymmerodd ato ein natur ni, a bu farw dios ein pechodau ni. Yr hwn oedd yn gyfoethog, a ddaeth er ein mwyn ni yn dlawd, fel y cyfoethogid ni trwy ei dlodi ef. Mae holl ddarostyngiad Mab Duw, ei ing, a'i loesion, yn gosod allan werth yr enaid. Syned nefoedd a daear, Tywysog y bywyd yn ddiystyraf o'r gwŷr, — Brenin nef a daear, heb le i roi ei ben i lawr,—Tad tragywyddoldeb, yn faban am- ser,—yr hwn oedd yn gwisgo goleuni fel dilledyn, yn cael ei wisgo mewn cadachau, Awdwr rhyddid yn dyoddef angeu y caeth- was,—Ffynonell bywyd ei holl greadur- iaid, yn marw ei hunan,—Cynnaliwr y bywyd yn y gwaed, ac anadl yn y ffroenau, yn trengu, ei hunan ar y groes,—yr hwn a bia ffynonau y dyfnderoedd, yr afonydd Uifeiriol, a'r moroedd Uydaín, wrth brynu eneidiau, yn gwaeddi, " Y mae syched arnaf," —yr hwn a wasgarodd y tew gy- mylau, i beri i'r haulwen oleu belydru, wrth brynu eneidiau, yn myned o dan gwmwl ei huu, ac yn dolefain, "Eli, Eli, lama sabacthani;" hyny yw, " Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaistl" Sicr, ynte, fod yr enaid o werth mawr. Mae gwerthfawrogrwydd yr enaid yn ymddaugos oddiwrth yr ymdrechiadau sydd am ei feddiannu. Mae yr euaid yn wrth- ddrych ag y mae y nefoedd ac uffern yii ymdrechu am ei gael. Y mae yr Ar- glwydd wedi dyfeisio ffordd er iachawd- wriaeth yr enaid, ac wedi gosod amryw