Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. XIII.] IONAWR, 1854. [Rhif. 145. ANERCHIAD. Anwyl Frodyr a Chydwladwyr, Dyma ni yn awr, arddiwedd y flwydd- yn 1853, yn ymosod ar y gorchwyl pwysig o anfon allan i'ch sylw y Rhifyn cyntaf o'r Bedyddiwr am y flwyddyn 1854. Mae y cyfnod hwn o'r flwyddyn yn dwyn i'n nieddwl iawer o ystyriaethan pwysfawr, y rhai nis gallwn en gadael i fyned heibio Iteb dalu rhyw sylw iddynt, a dymunem fod y sylw hwnw yn un difrifol iav\n hefyd. Nis gallwn, yn y lle cyntaf, lai nâ tha'u teyrnged o ddiolchgarwch calonog a diíìuant, i'r Bôd trugarog hwnw a'n har- weiniodd yn ddiogel trwy lawer o orth- ryniderau ac helbulon yn ystod y flwydclyn a aeth heibio. Gwyddom ni am lawer o'r cyfryw, y rhai a barasant flinder meddwl niawr i ni, ond y mae yn debyg fod yr Hollwybodol yu gwybod am lawer yn ycliwaneg, y rhai a fuasent yn ddigon i'n soJdi pe cawsentymosod arnom yn eu holl nerth a'u ffymigrwydd; ond efe, yn ei fawr drugaredd, yr hon yn wir sydd yn parhau yn dragywydd, a'u hattaliodd rhag ein llwyr orchuddio, ac a'n dygodd hyd yma yn ddiangol trwyddynt oll. Mae yr adeg hon hefyd yn gwasgu yn ddwys ar ein meddwl y ddyledswydd sydd arnom i ddymuno'ei nawdd Éf trwy ystod y flwyddyn newydd sydd yn awr yn ymagor o'n blaen, ac hyd derfyn ein hoes. Nid yw y bywyd hwn heb ei helbulon, ei brofedigaethau, a'i orthrymderan, y naill flwyddyn ar ol y llall, ac yn feunyddiol yr ydym yn cael profíon chwerw o'r dywed- iad, "Dyu a aned i flinder, megisyr eheda y wreichionen i fyny ;" ac nis gallwn ddysgwyl na fydd i ni ollgyfarfod â llawer profedigaeth chwerw, a blinder mawr, yn ystod y flwyddyn nesaf; ond dichon Gwar- edwr pawb a ymddiriedasant ynddo, trwy yr holl oesau a aethant heibio, ein gwaredu ninau hefyd, os ymddiriedwn ynddo, os gosodwn ein pwys arno, ac os ceisiwn ei nawdd a'i anuidiffyniad yn ddidwyll a di- ragrith. Gan hyny bydded ei Fawredd Cyf. xiv. bendigedig yn nawdd,yn gysgod, yn ddio- gelfa, ac yn amddiffyn i ni yn holl helbulon y dyfodiant, ac arweinied ni eto yn ddiogel trwy bob cystuddiau a chyfyngderau a ddichon ein cyfarfod yn ystod y tìwyddyn newydd 1854. Mae arnoin rwymau mawr- ion i fod yn ddiolchgar i'r Bôd Dwyfol, am ei dynerwch tuag atom, a'i ot'al par- haus am danom, fel Gwlad a Clienedl, oddiar pan ddaethom gyntaf i'r Ynys hou hyd yn bresenol. Trefnodd ef Iwybri gael yr Efengyl i'n plith yn foreu iawu, a chaf- odd maddeuant a hedd i bechadur euog eu cjhoeddi yu mioydd a dyffrynoedd tèg ein hoff wlad mor gynnar à'r oes Apostolaidd ; ac y tnae ef wedi cadw sain beraidd Ef- engyl gras yn ein plith hyd ein dyddiau ni, er fod llawer o wledydd ereill, lle y bu unwaith yn seinio mor beraidd ag y mae yn awr yn Ngwalia wcn, wedi cael eu llwyr amddifadu o ffbrdd gwirionedd a by wyd tragywyddol, ac wedi eu gorchuddio yn hollol gan dywyllwch dudew athraw- iaethau cyfeiliornus y bwystfìl Pabaidd a'r gau-brophwyd Mahometanaidd; a nifer mawr o'n cyd-fodolion, hyd yn hyn, yu gorwedd yn rhwym yií llyffetheiriaii Pa- j ganiaeth, fel y gellir dywedyd, yn wir, gyda'r priodoldeb mwyaf, " Llawn yw y ddaear o drigfanan trawsder." Tra y mae y rhan fwyaf o wledydd y byd yn ochaiii ac yn griddfan yn nghadwynau haiarnaidd caethiwed, a Rhyddid wedi cael ei yru allan o honynt yn hollol, yn Wladol a Chrefyddol, fel y maent yn fwy tebyg i ororau y pwll diwaelod, trigle yr ellyllon, nag i breswylfeydd rhesymolion, a daear Duw, yr ydym ni yn caeí ein cadw mewn mwynhad o'r breintiau niwyaf goruchel, yn cael nid yn unig rhyddid i addaii ein Creawdwr yn ol tuedd ein cydwybodau ein liunain, ond yn cael amddiffyniad a nawdd y gyfraith yn yr ymarferiad o'r rhyddid hwnw, fel nad oes ueb yn beiddio ein haflonyddu na'n niweidio, fel yr ydys yn gwneuthur â gweision ffyddlonaf Iôr,