HANESION. 21 E. James,; T. Evans, Penuel, a T. Grif- fîths, Llwyndafydd. Casglwyd yma eto at jr un Genadiaeth ag yn Nghilfowyr. Yr oedd y cynulleidfaoedd yn Uuosog iawn. Da genyf ddywedyd am Cilfowyr a Blaen- ffos, fod delw eu gweinidogion gweithgar, Price a Thomas, yn ganfyddedig arnynt. Pererin. felinganol. Cynaliwyd y cyfarfod hwn Tachwedd y 23ain a'r 24ain. Y nos gyntaf, pregeth- odd y brodyr Griffiths, Blaenconin, a Wil- liams, Llangloffan. Dranoeth, am ddeg, dechreuodd W. E. Jones, Cwmfelin ; a phregethodd y brodyr Thomas, Blaenffos ; Davies, Llangloffan, a Roberts, Penyparc. Am chwech, yn Solfach, pregethodd y brodyr T. E. James, ac O. Griffiths. Yr un pryd, yn Nhyddewi, pregethodd y brodyr Morgan Davies, a W. E. Jones. Un oedd yno. NEILLDUAD GWEINIDOG Yn Aberaman ger Aberdâr. Ar y 7ed a'r 8ed o Ragfyr, cynaliwyd cyfarfodydd er agor capel y Bedyddwyr yn y Ue hwn, a chorffoli eglwys, yn gystal ag i ordeinio y brawd William Jones, yn weinidog. Nos Fawrth, pregethwyd gan Edwards, Rhymni, a Jones, Merthyr. Ám ddeg, dydd Mercher, darllenodd Williams, Cwmbach, lythyr yn cynwys gollyngdod rheolaidd i'r aelodau ag oedd ar gael eu corffoli yn eglwys; Evans, Hirwaun, a draddododd araeth ymarferol a phwrpasol iawn ar natur eglwys; yna gofynwyd y gofyniadau arferol i'r gweinidog, gan Ed- wards, Rhymni, (gyda yr hwn y dechreu- odd), a chafwyd atebiad boddhaol, a neill- duwyd y brawd i'r swydd weinidogaethol trwy weddi ac arddodiad dwylaw. Ar hyn daeth Price, Aberdâr, yn mlaen, ac yn enw yr eglwys a'r gwrandawyr yn Aberdâr, cyflwynodd i'r brawd William Jones, an- rheg werthfawr iawn o Iyfrau rhagorol, fel arwydd o'u parch iddo fel aelod a phreg- ethwr cynorthwyol, da, a ffyddlon, gyda dymuniad am ei gysur a'i lwyddiant yn ei sefyllfa newydd. Pregethwyd i'r gwein- idog gan Davies, Merthyr, ac i'r eglwys, gan Evans, Abercanaid. Yr oedd y ddwy bregeth ya bwrpasol dros ben. Am ddau, yn y prydnawn, pregethwyd gan Parry, Dowlais; Davies, Merthyr, a Jones, Seion. Am saith, pregethwyd gan Lloyd, a Ro- berts, Merthyr. Cafwyd cyrddau da iawn trwy y dydd. Fe gofia y darllenydd mai dyma y capel a fu am dymhor yn ílaw y Seintiau. Mae yn awr wedi ei orphen yn hardd iawn, ac wedi ei ddiogelu i'r Bedyddwyr, a hyder- wn, er gwaethaf holl Sataniaid y byd, y gwelir yma eto achos blodeuog i Iesu Grist. Lenox. CAERSALEM, VICTORIA. Cynaliwyd cylchwyl yn y lle uchod ar ddydd Llun, Rhagfyr 6. Am ddau o'r gloch yn y prydnawn, ac am chwech yn yr hwyr. Trefn y gwasanaeth ydoedd fel y canlyn :— Am ddau, pregethodd y brodyr D. Da- vies, Llanelli, oddiar Luc xxi, 36, a J. Jones, Seion, Merthyr, oddiar Math. vi, 33. Am chwech, pregethodd D. Davies, oddiar 1 Sam. v, 3, 4, a J. Jones, oddiar Salm cxviii, 25. Dechreuwyd ygwahanol odfaon gan y brodyr J. E. Jones, Syr- hywi, a W. Lewis. Casglwyd ar ddiwedd y cyfarfodydd at ddyled yr addoldy, a chafwyd casgliadau rhagorol ac ystyried yr amseroedd. Cawsom gynulleidfaoedd tra lluosog, gwrandawiad astud, a phregethau grymus ac etf'eithiol. Diolch i Dduw am ei wenau. Jenkin Rees. BEDTDDIADAU. Cwmdwr.— Hydref 31, wedi traddodi pregeth ardderchog arfedydd, gan yParch. J. Morgans, Talog, gynt o Talyryn, bed- yddiwyd pump o bersonau ieuainc ar broffes o'u ffydd, gan ein hybarch hen weinidog Thomas Williams, Soar, Llan- fihangel-nant-brân. Soar, Llanfihangel-—Awst 22, bedydd- iwyd yma dair o chwiorydd, gan T. Wil- liams, y gweinidog. Clydach, Morganwg.—Tach. 28, bedydd- iwyd un, gan D. Davies, gweinidog y lle. HANESION GWLADOL. Y SENEDD. Golygir rhoddi gweithrediadau ySenedd yn fyr a chynwysfawr o fiaen y darllenydd o fis i fis. Llawer mewn ychydig. Y prif bethau a ddaliant gysylltiad â ni fel gwladyddion. Y Goden, (BudgetJ. Yr oeddys yn pryderus ddysgwyl er ys tro am goden Disraeli; ond o'r diwedd daeth a'i gŵd i mewn ac agorodd ef, ac wele i'r darllenydd ei gynwysiad yn fyr:— 1, Nid oedd llongau masnachol i dalu ond am oleuadau a ddefnyddient. 2, Tollau mynedol i gael eu symud.