Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWE. Cyf. XI.] RHAGFYR, 1852. [Rhif. 132. AEDDODIAD DWYLAW. Gair ymadaicol ar y pxonc hwn. Wrth gymeryd ad-olwg ar y darlithiau sydd wedi ymddangos yn y Bedyddiwr am amryw fisoedd, tueddir fi i osod ger bron y darllenydd ddau neu dri o sylwad- au ychwanegol. Nid fy mwriad yw ateb yr ysgrifau hirfaith sydd wedi eu cyhoeddi ar y tu arall i'r ddadl. Byddai hyny yn orchwyl diderfyn, gan fod cymaint wedi ei ysgrifenu ag sydcl yn hollol anmherthyn- asol. Ond, feallai, mai nid anfuddiol fydd dwyn ar gôf i'r darllenydd y pynciau sydd mewn dadl. Sylwer ynte, I. Nad oes nemawr neu ddim o wahan- iaeth rhyngom gyda golwg ar swydd a chymhwysderau yr apostolion. Gallasid hebgor y rhan fwyaf a ysgrifenwyd mewn gwrthwynebiad i mi ar y testun hwn, gan nad oedd amgen ail-adroddiad diles o'r hyn a osodais gerbron y cyhoedd yn fy ysgrif gyntaf. Yn neillduol, cyfaddefais fod ordeinio henuriaid a diaconiaid yn perthyn i'r apostolion fel prif swyddogion Crist, a sefydlwyr Cristionogaeth yn y byd; ac ni ddywedais I amgen ychwaith na bod gwahaniaeth rhwng ethol swyddogion a'u hordeinio, ac mai gwaith yr eglwysi oedd y blaenaf, a gwaith yr apostolion, neu ereill, yn meddu y cyffelyb (nid yr un) awdurdod, oedd yr olaf. Cybelled â hyn yr ydym yn cyduno; ond yr ydym yn anghyduno yn y casgliad a wneir oddiwrth y ffeithiau uchod. Yr wyf fi yn haeru, ac wedi ceisio profî mai cam-gasgliad ydyw, fod ordeinio i swyddau yn perthyn i henur- iaid, o herwydd ei fod yn rhan o waith yr apostolion. Gwelwch y rhesymiad canlynol:— Y raae pób peth a berthynai i swydd yr apostolion yn perthyn yr unwedd i swydd yr henuriaid ; yr oedd ordeinio henuriaid a diaconiaid yn perthyn i swydd yr apostolion; o ganlyniad, y mae ordeinio henuriaid a diaconiaid yn perthyn i'r henuriaid. Dyma syllogism cywir; ac os yw y ddau osodiad (major and minor premiss) yn wireddau, y mae y penderfyniad (conclusion) yn an- wadadwy. Ac os felly, mae swydd yr henuriaid yn gydradd, ac, yn wir, yr un mewn sylwedd ag eiddo yr apostolion. Cyf. ix. Ar yr un seiliau rhaid cydnabod gwirion- edd ac ysgrythyroldeb yr athrawiaeth Bab- aidd o olyniaeth apostolaidd, sef fod yr esgobion yn ddilynwyr yr apostolion. Ond mae y gwall yn y prif ragosodiad (major premiss). Nid gwirionedd yw fod pob peth ag a berthynai i swydd yr apostolion yn perthyn hefyd i'r henuriaid neu yr es- gobion. Cyfaddefa fy ngwrtiiwynebwyr yn rhwydd fod amryw bethau—cymhwysderau a gweithredoedd—yn perthyn i'r apostol- ion nad ydynt yn perthyn i'r henuriaid. Y cwestiwn yw, A ydyw ordeinio iswydd- au yn un o honyntl Credwyf ei fod, ac yr wyf wedi rhoddi fy rhesymau dros hyny, y rhai, feddyliwyf, a safant yn ddisigl er yr ymosodiadau a wnawd arnynt. II. Nid ydwyf yn cofio fod un gwrth- wynebiad wedi ei wneud i'm golygiadau ar y proffioydi. Am hyny nid wyf yn ystyried fod unrhyw eglurhad nac amddi- ffyniad yn angenrheidiol. III. Canfyddwyf fod fy ngolygiadau ar yr Efengylwyr yn dra annerbyniol i rai brodyr, y rhai a fynant nad oedd gwahan- iaeth hanfodol rhwng Timotheus, Titus, &c. â'r rhai aelwir ynesgobion, henuriaid, blaenoriaid, bugeiliaid, &c. Ymddengys i mi yn dra amlwg fod yr Efengylwyr yn swyddogion hollol wahanol i'r esgobion, ac mai Efengylwyr oedd Timotheus a Titus, ac ereill o gyd-deithwyr yr apostolion. Heb fanylu ar y profion, sylwed y darllen- ydd ar y pethau canlynol:— 1, Nid yw Timotheus a Titus un amser yn cael eu galw yn henuriaid nac esgobion, na blaenoriaid, ac nid ydynt yn cael eu cynghori i wneud gwaith henuriaid ; eithr y mae Timotheus yn cael ei anog i gyf- lawni gwaith Efengylicr ;" ac os Efengylwr oedd Timotheus, y mae yn ddiamheuol oddiwrth yr Epistol at Titus ei fod yntau yn llanw yr un swydd. 2, Y mae y modd y dosbarthir gwahanol raddau o swyddogion yn Eph. iv, 11, yn protì fod yr Efengylwyr yn uwch nag esgobion, ac yn gwahaniaethu oddiwrthynt. " Efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn broffwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yri fugeiliaid ac yn atlirawon." Yma y mae 2 Y