Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. XI.] HYDREF, 1852. [Rhif. 130. MANTEISION YMNEILLDUWYR I WRTHWYNEBU PABYDDIAETH. Y mae yn arferiad mewn rhyw gylch- oedd yD ein gwlad i gyhuddo Ymneilldu- wyr o bleidgarwch at Babyddiaeth, o her- wydd eu bod yn dymuno ac yn caniatâu hyd y gallont, ryddid cydwybod i bob dyn mewn materion crefyddol. A dnewyddwyd plaid-fyrdwn y No Popery yn yr etholiad- au diweddar; argratfwyd a dywedwyd, mai Eglwys Loegr oedd nerth ein Protes- taniaeth, a'r unig fôrglawdd i gadw y wlad rhag cael ei gorchuddio â'r diluwPabaidd. Y mae y rhai sydd yn dywedyd y cyfryw bethau yn traethu ynfydrwydd anwireddus: gwyddant, neu ni wyddant hyny. Os gwyddant, y mae yn drugaredd i gymeriad ein gwlad, nad yw ei boneddwyr a'i chle- rigwyr yn engraifFt teg o'i moesau. Os na wyddant, dengys mor anghymhwys i roi barn deg ar bethau yw y bobl a fynant farnu dros eu tenantiaid a'u masnachwyr. Dyben yr ychydig nodiadau canlynol, fydd dangos y manteision sydd gan Ymneilldu- wyr i wrthwynebu Pabyddiaeth yn fwy erfeithiol nag unrhyw eglwys neu sect sefydledig. Wrth Babyddiaeth, yn briodol y medd- ylir yr Eglwys sydd a'i chanolbwynt yn Rhufain, ac a hòna awdurdod ar yr holl fyd, «y dyn pechod,' yr hwn a nodwyd gan Dduw i'w ddinystrio; ac y mae o ddirfawr bwys i ni sefyll ar y tir goreu i ddwyn yn mlaen yr ymrjsonfa y sydd i ddiweddu pan syrth Babilon Fawr, mam puteiniaid a ffieidd-dra y ddaear. Ymddengys i ni fod y sect sydd yn dyg- wydd bod yn ddynol sefydledig yn Lloegr, Cymru a'r Ywerddon, yr hon a elwir Eglwys Loegr, o dan anfantais neillduol i wrthsefyll Pabyddiaeth; ac er nad yw hyny yn dyfod yn uniongyrchol o fewn cylch ein testun, ni thybiwn yn anmhriodol cyfeirio ato. Ei hanfanteision fel Eglwys Wladol yw y testun, ond nis gallwn gau ein llygaid ar ei gwendid fel Eglwys Esgobyddol i wrthwynebu Pabyddiaeth. Pe daa'sefydlid yr eglwys hòno heddyw, ni chollai ei hawydd i apelio at ysgrifau y Tadau, a thraddodiadau yr hynafiaid fel safon. Pe collai y degwm, glynai wrth ei haml swyddiaeth a'i defodau. Cadwai ei Cyp. xi. 'hadenedigaeth ynmedydd' er colli Treth Eglwys; glynai wrth ei maddeuant offeir- iadol, er colli arian y Pasc. Pe tröid ei hesgobion oddiar y fainc seneddol, glynent hyd farw yn nheml ddychymygol yr olyn- iaeth apostolaidd. Tra yr arfera yr un defodau a'r Eglwys Babaidd, ac yr apelia i'r un man am awdurdod dros eu harferyd, nis gall feddu y fantais sydd gan Ymneill- duwyr y rhai a dderbyniant air Duw yn unig yn safon barn a buchedd. Pe gosodid pob plaid y dydd hwn ar yr un tir, megis yn TJnol Daleitbiau America, (lle nad oea Ymneillduwyr, ac nad oes yno sefydliad i ymneillduo oddiwrtho) ni byddai un blaid 0 dan gymaint anfanteision i wrthwynebu Pabyddiaeth a'r sect a elwir ' Yr Eglwys Brotestanaidd.' Y mae yn deilwng o sylw mai o gyfan- soddiad Eglwys Loegr y tarddodd ei gog- wyddiadau Pabaidd, ac nid yn union- gyrchol o'i chysylltiad â'r llywodraeth. Daliwyd yr eglwys am fiyneddau ar yr arteithglwyd, o herwydd ei hanghysondeb gan uchel Eglwyswyr ar un llaw, ac Ym- neillduwyr ar y llaw arall. Dangosai y wasg a'r areithfa yr byn oedd yn ol y Llyfr Gweddi, yn ngwyneb yr hyn oedd mewn ymarferiad, nes y bu raid iddi naill ai addef ei hanghysondeb, neu syrthio yn 01 ar ei hathrawiaethau a'i defodau ei hun. Oddiyma y deilliodd yr haint Puseyaidd ; gwenwynwyd awyrgylch Rhydychain â. Phabyddiaeth o dan ffug enw. Oddiyno yr heidia dallbleidwyr yr eulun newydd yn ngwres eu cariad cyntaf, i geisio cymodi teimlad Protestanaidd y wlad â'r Hen Fam Eglwys o Bufain, Pa le y clybuwyd am un o'r sectau neillduedig yn fagwrle i Babyddion t Pwy erioed a droes allan o Homerton, Stepney, Highbury, Spring Hill, na Bradford, i fynwes Pabyddiaeth 1 Pa Ymneillduwr a aeth i Rufain, os nad aeth yno drtoy yr eglwys esgobawl 1 Gellir argraffu uwchben pyrth colegau yr eglwys, 4 Wele y flordd i Rufain :' ond mwy priodol ar addoldai diaddurn, a cholegau syml yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Trefnydd- ion, fyddai yBgrifenu, * Y ffordd o Rttfain, at symledd cyntefio yr Eglwys Gristìotwgol. 2 o