Skip to main content

Y BEDYDDIWE. Cyp. XI.] MEDI, 1852. [Rhif. 129. PREGETH A draddodioyd yn Nghyfarfod Blyneddol Athrofa Pontypwl, 1852. Gan y Parch. B. PRICE, {Cymro Bach). " Yn weithiwr difefl."—2 Tim ii, 15. " A workman that needeth not to be ashamed." (Parhad o'r Rhifyn diweddaf.) IV. Nodwn pa fodd y daeth yr apostol i ben ei daith mor ogoneddus. Ni ellir ameu na ddaeth Paul o'r maes " yn weith- iwr difefl," ac nid oes achos i ninau an- obeithio am ddyfod felly hefyd. Ond pa fodd y daeth ! Mae yn werth llawer o'n hamser i edrych ar y dull y gweithiai y dyn enwog hwn. Nid oes modd i ni edrych yn hir iawn arno heb deimlo ein mynwesau yn cael eu tanio a'r elfen seraphaidd a losgai mor danbeidiol yn ei galon ef; gweled a chlywed arall a ddy- Ianwada arnom ninau. "Wrth glywed Iesu Grist yn gweddio mewnrhywfan,teimlodd y dysgyblion yn anghyffredin, a deisyfasant arno eu dysgu hwythau i weddio hefyd: Luc xi, I. Nid ydym yn synu eu bod am weddio fel efe. Yn bresenol ni gawn osod Paul fel gweithiwr o'n blaen, mewn gobaith y byddwn yn debyg iddo. 1, Y peth cyntaf a sylwn arno yn yr apostol, oedd ei ymostyngiad hollol yn mhob peth i ewyllys ei Feistr. Dechreu- odd ar ei waith gan ofyn, «« Beth a fyni di i mi ei wneuthur 1" Nid gweithio rhyw- beth oedd Paul; nid gwneuthur y pethau a farnai efe yn ogystal âg ewyllys ei Feistr; na, na, gofyn oedd ef, Beth mae y Meistr yn ei orchymyn 1 Ni all fod ein gwaith yn dderbyniol gyda Duw, nes yr ymos- tyngwn iw ewyllys ef; oblegid dyma y cam cyntaf at weithio gwaith y Elywydd mawr. Dy wedir yn hanes Rhufain, i rhyw benaeth o r enw Pharnaces anfon tlysau tra phrisfawr i Caesar; ond nid oedd Caîsar yn gofalu am y tlysau, am nad oedd Phar- naces wedi ymostwng iddo. Dywedai yr ymerawdwr, —" Ymostj'nged y dyn yn nghyntaf, ac wedi hyny anfoned ei dlysau." Rhaid i Dduw gael yr ewyllys yn mlaenaf oll, ac yna bydd ein gwaith yn dderbyniol; gwnaeth yr apostol yr ewyllys ddwyfol yn reol ei fywyd. Dynion aofynant weithiau, Cyf. xi. Pa les a fydd ufudd-dod i ni 1 A fyddwn ni yn well pe gwnelem y naill beth a'r llall 1 Pe gwelem ei bod yn ddyledswydd arnom, ni blygem yn union. Ỳchydig y mae dynion yn ei feddwl mai nid ufudd- dod i Dduw a fyddai hyny, ond ufudd-dod i'w deall eu hunain, ac aberth i hunan-elw. Cwympo i ewyllys Duw oedd Paul, gan ofyn yn galonog,—«« Beth a fyni di i mi ei wueuthurî" Ẅedi dechreu fel hyn, aeth yn y blaen yn gampus, ac nid ydym yn synu wrth ei weled, oblegid ewyllys yr hwn a'i anfonodd oedd ei reol bywyd. Frodj r ieuainc, yr ydych yn bresenol yn ymdrechu i gasglu gwybodaeth ieithyddoi, grefyddol a gweinidogaethol, — Henwch eich Ilestri—trwsiwch eich meddyliau, a dewch allan o'r Athrofa wedi eich caboli yn ddysglaer, yn wŷr boneddigion, nid yn Sprttciaid, ond perfect genüemen. Yna ewch at draed y Meistr—ewch at orsedd- fainc Iesu Grist, a chysegrwch yr holl a feddwch at ei wasanaeth ef, gan ofyn— Beth a fyn ef i chwi ei wneuthur î Fel yr ydych yn fyw yma heddyw, ac yn gwynebu ar y gwaith mwyaf ei ogoniant dan y nefoedd, chwi ddeuwch i fyny o'r maes heb achos i'ch gwynebau gael eu mantellu â chochni—heb achos plygu eich penau mewn cywilydd. Chwi fyddwch yn ddedwydd eich hunain, yn fendith i'r byd, ac yn ogoniant i'r Meistr: " Yn weithwyr difefl." 2, Ymosododd Paul at ei waith â'i holl galon, a daliodd ato hyd y diwedd; am hyny daeth allan "yn weithiwr difefl." Darlunia yr apostol ei deimladau yn 2 Cor. v. Nid oedd wedi blino ar ei waith, ond dymuno oedd am nerth i fyned yn y blaen; nid oedd am ffoi o'r maes cyn machlud haul. Paul, yr wyt yn cael dy erlid,—yr wyt yn teimlo piceílau tanllyd y fall. «« O ydwyf, ond nid wyf am ffoi, ond am gael y 2 K