Skip to main content

Y BEDYDDIWE. Cyf. XI.] AWST, 1852. [Rhif. 128. PREGETH A draddodwyd yn Nghyfarfod Blyneddol Athrofa Pontypwl, 1832. Gan y Paiich. B. PRICE, {Cymro Bach). " Yn weithiwr difefl."—2 Tim. ii, 15. " A workman that needeth not to be ashamed." Gyfeillion Parchus,—Nid wyf heb deimlo ychydig o wylieidd-dra, wrth sefyll yma i'ch anerch yn Nghyfarfod Blyneddol yr Athrofa, am fy rood yn gwybod yn ddigon da mai y gwaith mwyaf di-ddiolch tan y nefoedd yw rhoddi cynghorion rhad i'n cyd-ddynion. Pan ddj wedwyd wrthyf fy mod wedi fy mhennodi i'ch anerch y flwyddyn hou, teimlais ychydig o ddyrys- wch meddwl am y llwybr a gymerwn at y gwaith. Penderfynais i gymeryd fy ffordd fy hun, heb ddarllen un peth ar y pwnc. Pa un a oedd hyn yn iawn ai peidio, nis gwn. Nid da yw gwneud felly bob amser. Ysgrifiais a ganlyn,pan oeddwn yn ddigon diogel rhwng erchwynion fy ngwely, wedi yr anffawd a ddygwyddodd i mi, ac feallai nad yw waeth o hyny. Wedi cael pregeth ar bapur, yr oeddwn yn methu gwybod pa fodd idd ei chael oddiyno. Meddyliais unwaith am ei dysgu aüan goreu byth ag y medrwn; ond erbyn i mi ystyried, yr oeddwn wedi myned yn rhy hên i waith fel hyny, a fy nghôfwedi myned yn ddrwg iawn ; ac heblaw hyny, daeth yr amgylch- iad a ganlyn i fy meddwl: Un waith yn fy mywyd y dysgais fy mhregeth, er mwyn ei hadrodd ailau yn gampus, fel y tybiaswn. Pan yn yr Athrofa yn Abergavenny, cefais y testun canlynol gan gynulleidfa yr Ath- raw i bregethu oddiwrtho.—"Rhaid iddo -E/"gynyddu, ac i minau leihau." Hoffais y testun yn fawr, ac ymdrechais i gyfan- soddi rhywbeth a dybiwn yn bregeth ragorol. Cesglais bob blodeuyn a ellwn gael, a gosodais y cwbl yn nghyd yn daclue, a dysgais y cyfan allan, a dywedais y bregeth ar garlam wyllt, gan dybied fy mod wedi gwneuthur gorchestwaithî Ond wedi myned adref, cefais fy argyhoeddi yn o fuan, nad oedd genyf lawer o le i ym- ffrostio. Dyma ein Hathraw parchua, Mr. Micah Thomas, yn dechreu arnaf; ac yn Cyf. xi. lle nodi allan y beiau, fel y byddai ei arfer, yn dywedyd yn lled arw, fod yn hoff ganddo ef, a chan ei bobl, wrando arnaf, pan y pregethwn yn fy ffordd fy hun, &c. Yn y man torodd allan, gan ofyn, "Beth oedd y mater heno1!—eich testun oedd, ' Rhaid iddo Ef gynyddu, ac i minau leihau,'—a'ch dyleiiswydd oedd codi enw Iesu Grist;—ond yn lle hyny gosodasoch e/"ytucefn i chwi, ac yna safasoch allan mewn dull mawreddog eich hun,—gan ddywedyd mewn effaith,—Wele fi, ìỲhat do you thinh of mef' Yr oedd hyn yn ddigon, dim ychwaneg o ddysgu adrodd pregcthau. Y mae ihwng deg-ar-ugain a deugain o flyneddau wedi myned heibio er pan gefais y fflangelliad hyny ; ond nid yw yr effaith wedi darfod ar fy meddwl. Diolch i fy hen athraw. Meddj liais hefyd am ddarllen y bregeth hon heno, ond nid wyf yn fedrus yn y gwaith hyny, oblegid ni chynygais ddarllen pregeth yn yr ath- rofa ond un waith j n fy oes, ac yr oedd yr un waith hyny yn ddigon am byth;— oblegid yr oedd y bobl yn edrjch mor ddiflas arnaf. Frodyr ieuainc, gwell i ni daflu ein hunain ar wyneb y dyfroedd i nofio os gallwn, neu i suddo ; gwell yw boddi ar unwaith os inethwn a nofio, na byw i boeni ein cyd-ddynion. Wel, chwi oddefwch i fi eich anerch yn fy null arferol o bregethu—nofio neu suddo. Mae digon o bregethau da iawn ar holl bynciau ein crefydd yn cael eu traddodi yn feunyddiol yn ein gwahanol leoedd o addoliad, ac feallai, pe byddent yn anaml- ach, y byddai mwy o dderbyniad iddynt. Am hyny, ni gawn gyfyngu ein sjlwadau yn bresenol at waith gweinidogion Iesu Grist. Tyhiwyf, yr addefwch chwi, fy mrodyr ieuainc, yn ddigon rhwydd, fy mod i a'ch athrawon, ynghyd a brodyr ereill yma, wedi bod rhwng deg-ar-ugain 2 F