Skip to main content

Y BEDYDDIWE. Cyf. XI.] GORPHENHAF, 1852. [Rhif. 127. BYWGEAFFIAD Y DIWEDDAE BAECH, W, LEWIS, Gweinidog y Bedyddwyr yn Tongwyrddlas, swydd Forganwg. Mae bywgraffiadau duwiolion ymadaw- edig yn rhan bwysig o hanesyddiaeth adeiladol, ac wedi bod yn dderbyniol ac yn fuddiol yn marn dynion rhinweddol yn mhob oes. Ond y mae perygl weiíhiau rhag i'n serch at y rhai a fuont yii gyfeill- ion mynwesol genym am lawer o amser, beru i ni graffu ar eu rhinweddau, nes colli golwg ar eu diffygiadau, a'u dàl allan fel nodau o berfTeithrwydd ; ac mae hyn yn fynych wedi anurddo cyfansoddiadau o'r fath, a niweidio crefydd, trwy ddwyh gorfucheddwyr i fesur santeiddrwydd Crist- ionogol wrth safon anmherffaith, a dar- bwyllo Ciistionogion i ymfoddloni ar radd isel o ysbrydolrwydd meddwl. Ond o'r tu arall, y mae cofnodiad ffyddlon o orchestion buddygol y rhai a ymroddasant yn fore i wasanaeth Duw, o lafur Iwyddianus y rhai a fuant offerynol i droi eneidiau o ffyrdd pechod i ffyrdd cyfiawnder, ac o ymlyniad diysgog y rhai a barhausant yn y gwirion- edd hyd y diwedd, yn tueddu i dciyrchafu trefn gras Duw, i gefnogi sêl y saint yn ngwinllan Crist, ac i anog y gweiniaid i ymddiried yn ffyddlondeb yr Hwn a'u galwodd i deyrnas ei anwyl Fab. Credwn, pe buasai gwrthddrych ein cofiant yn cymeryd y gorchwyl mewn llaw yn ei fywyd, o gofnodi buchedd neb o'i frodyr, mai ei aracan fuasai rhoddi hanes gywir, heb na gweniaeth na chel, er dyrchafu gras Duw, a chefnogi ffydd a gwiiiadwr- iaeth yn mhlith y frawdoliaeth ; a dymun- iad difrifol ysgrifenydd y cofiant hwn y w i'r deyrnged hyn o barch i goffadwriaeth cyfaill anwyl a gwerthfr.wr, weinyddu rhyw fesur o anogaeth i'r rhai sydd eto yn ngwlad y cystudd mawr, i ymddiried yn ngras Duw, ac i ddangos diwydrwydd, er mwyn "llawn sicrwydd gobaith hyd y diwedd, fel na byddont fusgrell, eithr yn ddilynwyr i'r rhai drwy ffydd ac amynedd sydd wedi etifeddu yr addcwidion." Gwrthddrych ein cofiant a hanodd o deulu cyfrifol yn y byd, a ganwyd ef mewn fferm a elwir Pwll-y-domen, yn mhlwyf Marcross, yn Mro Morganwg, a hyny yn y flwyddyn 1792. Yr oedd ei dad, Mr. CVF. XI. Daniel Lewis, wedi cael ei ddwyn i fyny i fod yn gyfreithiwr ; ond yn rhywfodd nid ymarferodd â'r alwedigaeth hono, eithr aeth allan yn ieuanc i'r India Orllewinol, a bu am dytnhor yn oruchwyliwr yn ynys Jamaica, dan un o blanigwyr Caerodor, yr hwn oedd yn meddu ar diriogaeth yn yr ynys hono. Gan ei fod yn hoffi ei sefyllfa, meddyliodd am dreulio ei fywyd yno ; ac mewn bwriad i wneuthur felly, daeth drosodd i'r wlad hon i'r dyben i werthu ei etifeddiaeth, fel y gallai fyned yn ol, ac aros yno yn fwy cysurus. Ond wedi cyf- rinachu yn yr achos á'i gefnder, Mr. Rum- sey Watkins, cymerodd ei ddarbwyllo i roddi ei amcan i fyny, ac aros yn ngwlad eienedigaeth; ac unodd, yn lled fuan wedi hyny, mewn priodas â Miss Mary Watkins, merch Mr. David W. "\Vatkins, o Aber- aman, yn mhlwyf Aberdare. Buont yn byw bethamser yn Monachdỳ, Llanwonno, ac wedi hyny yn Llwynpiau'r Ystrad, ond symudasant oddiyno i Farcross, ac yno y bu farw Mr. D. Lewis, yn ddeng mlwydd ar ugain oed, gan adael ar ei ol weddw a phedwar o blant, a'r henaf o honynt ond saith mlwydd, a'r ieuengaf, sef William, yn ol tystiolaeth rhai o'i berthyuasau agosaf, ond deg wythnos oed ; a chan i'r weddw briodi yr ail waith, aeth y plant at berthynasau eu mam i gael eu dwyn i fyny, oddigerth yr ieuengaf, yr hwn a arosodd yn Marcross am rai blyneddau. Pan yn blentyn, yr oedd William Lewis yn hynod o benderfynol yn ei holl amcan- ion, a pha beth bynag a gymerai mewn Ilaw, nid peth hawdd ocdd ei ddenu oddi- wrtho nes ei orphen, ac yn anfynych y cymerai ei ddigaloni gan un anhawsder; a gwyr y rhai a'i adwaenai, fod anysgog- rwydd yn nodweddu ei gymeriad fel dyn ac fel Cristion, ac fel gweinidog hyd ddi- wedd ei oes. Fel plant ereill o dymher anturiol achyderus, yroedd weithiau yn ei osod ei hun yn agored i beryglon ; ac oni buasai fod rhagluniaeth anweledig yn gwylied ei fywyd, galîasid meddwl y buasai wedi ei rifo yn mhlith y meirw cyn cyr- haeddyd cyflawn oed. Pan tua phum 2 iî