Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDTDDIWR. Cyp. XI.] MEHEFIN, 1852. [Rhif. 126. HANES YE EGLWYS GEISTIONOGOL, Hanes Cristionogaeth yn yr Unfed Canrif ar Bymtheg. Yr oeâd yn amlwg yn y canrif o'r blaen fod ymgais cynyddol yn ffynu yn mhlith dynion meddylgar am ryddid i farnu dros- tynt eu hunain, a'u bod yn blino ar dwyll a thraws-arglwyddiaeth yr offeiriadaeth. Er lladd a llosgi lluoedd trwy y gwledydd am anturiotaenuegwyddorion gwirionedd, cynyddu oedd rhif y rhai a alwent am ddiwygiad ; ac yn mhlith y rhai hyn yr oedd rhai o'r tywysogion oeddent wedi cyfranogi yn y gorthrymder oedd wedi tarddu o drais y Pabau, ac uchelgais y swyddogion eglwysig. Yr oedd dau gynghor wedi eu cynal, y naill yn Basle, a'r llall yn Constance, mewn trefn i ddiwygio mesurau yr eglwys, a'i phuro oddiwrth achosion rhwyg ; ond nid oeddent wedi ateb uii dyben, amgen nâ gwneuthur y drwg yn waeth, gan fod y Pabau yn meddwl eu bod yn meddu digon o nerth i fyned rhagddynt yn eu hymgais i ddàl yr holl fyd dan iau caethiwed, ac nad oedd neb yn alluog i wrthsefyll eu hawdurdod. Ond yn awr yr oedd dysgeidiaeth yn cy- nyddu, a rhai dynion galluog, megis Eras- mus, yn anturio i ddynoethi twyll a thra- chwant y mynachod, traws-arglwyddiaeth a chrib-ddeiliaeth y Pabau, a chrelonderau swyddogion y chwil-lŷs, er nad oeddent yn meddwl am ddim yn rhagor nâ diwygio yr eglwys, heb wneuthur cyfnewidiad yn yr egwyddorion, ar y rhai yr oedd wedi ei sylfaenu. Yr oedd y Pabau ar yr un pryd wedi ymroddi i ynfydrwydd a rhyfyg, ac yn barnu fod eu hawdurdod wedi ei sefydlu ar dir diogel fel nad oedd neb yn alluog i'w gwrthwynebu; ac yn ymlwybro yn ddibryder mewn rhodres a balchder, nes oeddent yn waradwydd i ddynoliaeth, ac yn boen i'r byd. Ar ddechreuad y canrif dan sylw, yr oedd Alexander VI. yn llanw y gadair, ac yr oedd ei gymeriad mor ddirmygus ag unrhyw dreisiwr a ellir gyfarfod yn hanes gormeswyr y byd ; ond cafodd y cenedl- oedd eu rhyddhau oddiwrth drais yr anghenfil hwn yn y flwyddyn 1503, drwy iddo yfed cwpanaid o wenwyn, fel y bernir, oedd wedi ei ddarparu ganddo ar gyfer rhai ereill; a chanlynwyd ef gan Juîian Cyf. xi. de la Rovere, dan yr enw Julius II. Yr oedd Julius mor anfoesol a'i flaenredwr, ac mor llawn o haerllugrwydd a ffyrnig- rwydd â neb o'r Pabau, ac yn hynod o awyddus am ryfela a thywallt gwaed. Dechreuodd hwn ei anturiaeth filwraidd trwy gyhoeddi rhyfel yn erbyn y Venetiaid, mewn cyngrair â'r ymerawdwr a brenin Ffrainc ; a diweddodd ei orchestion trwy ymfrwydro â'r rhai oeddent wedi ei gy- northwyo yn ei amcanion dechreuol, ac ni oddefodd i Ewrop gael mynyd o lonyddwch yn ystod ei fywyd; ond ni bu hyn yn hollol ddieffaith i wanhau nerth yr Eglwys Babaidd,oblegidLewisXII.breninFfrainc, wedi ei gyffroi gan haerllugrwydd Julius, a benderfynodd i ddial ymddygiad sarhaus y Pab ; a chafodd gydsyniad rhai o'r cardinaliaid, ac anogaeth oddiwrth yr ym- erawdwr Maximilian I., yrhwn a gasglodd gymanfa yn Pisa, yn y flwyddyn 1511, i'r dyben i osod terfynau i draws-arglwydd- iaeth esgobicn Rhufain, a diwygio arfer- iadau yr eglwys ddirywiedig a choel-gref- yddol. Yr oedd Julius ar y llaw arall yn ymorphwys ar ei nerth ei hun, a chynorth- wy ei gefnogwyr, yn hyderus, ac yn ym- barotoi ar gyfer yr ymosodiad gyda llawer o ddiwydrwydd ; ac er rhoddi ymddangos- iad rheolaidd i'w amcanion, cyhoeddodd orchymyn i gasglu cynghor yn llŷs y Lateran, yn y flwyddyn 1512, lle y coll- farnwyd cynghor Pisa yn y modd mwyaf dirmygus, ac y diddymwyd ei benderfyn- iadau o'r bron ; a thebyg yw, y buasai y mesurau hyn yn cael eu canlyn gan fell- dithion trymion ar Lewis a'i gefnogwyr, oni buasai i'r Pab syrthio dan lawangau y flwyddyn hono, yn nghanol ei holl amcan- ion uchelfrydig ac ymddialgar. Canlynwyd ef gan Leo X. yn y flwydd- yn 1513, ac yr oedd hwn yn llawer mwy hynaws dyn nâ'i flaenredwr; ond ar yr un pryd yn hollol ddifater am achos crefydd. Dy wedir ei fod yn noddwr i ddynion dysg- edig, ac i ryw fesur yn ddysgedig ei hun ; ond yn hynod o afradlon, ac yn hoflus iawn o bleserau y byd, yn caru esmwyth- der, ac yn cashau pob peth ag a fyddai yn galw am weithgarwch a diwydrwydd ; ac