Skip to main content

Y BEDYDDIWE. Cyf. XI.] MAI, 1852. [Riiif. 125. HANES YE EGLWYS GBISTIONOGOL, Hanes Cristionogaeth yn y Pymthegfed Canrif. Yr ydym wedi nodi yn hanes y canrif blaenorol fod rhwyg wedi cymeryd lle yn yr eglwys Babaidd, ac fod y naill blaid yn arddel un Pab, a'r blaid arall yn priodoli anffaeledigrwydd idd ei wrthwynebwr, ac felly yr oedd pethau yn sefyli ar ddechreu- ad y canrif hwn. Yr oedd Boniface IX. yn meddianu y gadair yn Rhufaiu, a Ben- edict XIII. yn gwneuthur yr un modd yn Avignon. Ar farwolaeth Boniface, Inno- cent VII. a'i canlynodd am ddwy flynedd, ac yna Gregory XII. a ddewisiwyd i lyw- odraethu y blaid Rhufeinaidd; ond yr oedd cymaint o anfanteision yn cyfodi oddiar yr ymrafael, fel yr oedd y tywysog- ion am gael cynllun undeb, er mwyu ter- fynu y gresyndod oedd yn gwasgu mor drwm ar eu holl ddeiliaid, ac felly y gorfu- wyd y ddau Bab i ymrwymo drwy lẁ i encilio yn wirfoddol o'u cadeiriau, os byddai hyny yn cael ei farnu yn angen- rheidiol er heddwch yr Eglwys. Ond troseddu yr ymrwymiad a wnaeth y naill a'r llall o honynt mewn amser byr, a hyny yn y modd mwyaf gwaradwyddus, ac yn y canlyniad, cynaliwyd cynghor yn Pisa, yn mis Mawrth, 1409, yn yr hwn y cyhoedd- wyd y ddau Bab yn euog o hereticiaeth, annudoniaeth, a chyndynrwydd, ac yn an- nheilwng o un parch ac anrhydedd, ac mewri effaith, yn esgymunedig oddiwrth yr Eglwys. Dyma beth oedd triniaeth lrynod i esgobion oeddent yn hòni anffael- edigrwydd! Canlynwyd y cam hwn drwy ddewis Pab arall i lanw y gadair, a syrthiodd y dewis- iad ar Pedr o Candia, a dyrchafwyd ef i'r swydd dan yr enw Alecsander V. Ond ni wnaeth hyn ddim lles wedi yr holl dra- fferth, oblegid yr oedd y ddau Bab wrthod- edig yn trin penderfyniadau y cynghor gyda'r diystyrwch mwyaf, ac yn parhau i arfer y swyddau Pabaidd, ac i hòni yr awdurdod arferol, fel pe na buasai un cyhuddiad wedi ei ddwyn yn eu herbyn. Yr oedd yr Eglwys Babaidd yn awr yn dair rhan, a'r rhai hyn yn arddel tri phen anffaeledig, a'r rhai hyny yn melldithio ac yn esgymuno eu gilydd, ac yn galw ar bawb i'w pleidio dan boen damnedigaeth, Cyf. xi. a'r cenedloedd coel-grefyddol yn ymbál- . falu fel deillion, heb neb i'w cyfarwyddo ^ yn ffyrdd cyfiawnder. Pan oedd pethau yn sefyll fel hyn, Alecsander V. a fu farw, a'r cardinaliaid oeddent.bleidwyr iddo a ddewisasant Balthasar Cossa yn ganlynydd iddo, ac a'i codasant i'r swydd dan yr enw Ioan XXIII., ac nid hawdd fuasai iddynt gael dyn mwy amddifad o egwyddorion crefydd a chyfiawnder. Ond gan fod y gresyndod yn awr wedi cynyddu i raddau annyoddefol, yr ymerawdwr Sigismund a unodd â brenin Ffrainc, ac amryw o dy- wysogion Ewropaidd ereill, i geisio gosod terfyn ar yr amrafael; ond cawsant weled nad oedd nac undeb yr eglwys, na hedd- wch y teyrnasoedd o fawr pwys yn marn y Pabau, mewn cymhariaeth i'w gwag-ogon- iant eu hunain. Nià oedd, er hyny, ddigon o nerth o'u tu i wrthsefyll yr amcan, ac felly cytuirô a wnaethwyd i gynal cynghor cyffredinol yn Constance, yn y flwyddyn 1414, i ystyried yr achos, ac í benderfynu pa fodd i ymlwybro. Ac yno y penderfynwyd fod y Pab yn ddarostyng- edig i benderfyniad cynghor cyffredinol, ac y diraddiwyd loan XXIII. am lawer o feiau ysgeler, ac yn erwedig am dori ei amod à'r cynghor, ac %X\^ diwedd cyfod- wyd Otta de Colonna'fr gadair dan yr enw Martin V. Yr oedd Ioan yn awr wedi ei ddiraddio, a Gregory wedi rhoddi fyny y gadair, a Benedict wedi ei ddyfarnu yn annheilwng o'i anrhydedd; ond nid oedd yr olaf yn foddlon cwympo mewn âf barn y cynghor oedd wedi ei ddiraddio, nac â barn y car- dinaliaid oeddent wedi dewis ei ganlynydd, ond i'r gwrthwyneb, parhau a wnaeth, hyd ei farwolaeth, i hòni ac i arfer yr holl aw- durdod arferol gan y Pabau, rrẅr belled ag y caniatäai amgylchiadau iddo wneuthur felly ; ond ar ei farwolaeth, yn y flwyddyn 1423, yr oedd achos Martin wedi enill tir buddygol; ac er i ryw Yspaenwr, o'r enw Giles Munois, gael ei wisgo â'r swydd gan ddau o gardinaíiaid, methu a wnaeth yn ei ymgais uchelfrydig, fel y gorfuwÿd ef i roddi fyny yn y flwyddyn 1429, a gadael llywodraeth yr Eglwys Babaidd yn hollol