Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWE. Cyf. XI.] MAWRTH, 1852. [Rhif. 123. HANES YE EGLWYS GEISTIONOGOL, Hanes Cristionogaeth yn y Drydedd Canrif ar Ddeg. Yr ydym werli son yn hanes y canrif- oedd blaenorol am lawer o orchestion yr eglwys Babaidd i ddwyn cenedloedd y byd, drwy nerth ariau, i dderbyn crefydd Eg- lwys Rhufain, a chydnabod y Pab yn ben ar holl dywysogion yddaear; ond wedi y cyfan yr oedd hyn yn ormod gwaith, gan fod rhai gwroniaid uchelfrydig mor aw- yddus a'r Pab i draws-arglwyddiaethu dros holl ororau y byd. Yr oedd Ghenisken, tua diwedd y canrif blaenorol, wedi gores- gyn rhan fawr o Asia, a Mohametaniaeth wedi cymeryd lle Cristionogaeth yn y rhan amlaf o'r ymerodraethau dwyreiniol, ac yn y talaethau lle nad oedd pethau felly, yr oedd yr achos wedi iselhau, a'r Cristionog- ion mewn cyflwr hynod o drallodus. Tua y flwyddyn 1241, yr oedd y Tartariaid buddygol, ar ol darostwng y dwyrain, wedi rhuthro i Ewrop, ac yn anrheithio Hun- gary, Pwyl, a Silesia, fel y gorfodwyd esgob Rhufain i anfon cenadau i'w plith i geisio dofi eu flyrnigrwydd, ac atal eu creulon- derau ; a dywedir i'r amcan lwyddo i ryw fesur, ac i lawer o'r Tartariaid g-ymeryd eu darbwyllo i dderbyn crefydd y Pab, ac i rai o'r Nestoriaid hefyd gwympo i mewn âg egwyddorion Eglwys Rhufain ; ond nid oes nemawr o hanes gweithrediadau y cenad- au hyn wedi disgyn i'n hamser ni, yn rhagor nag i Johnannes a Monte Coryino gyfieithu y Testament Newydd i iaith y Tartariaid, ac iddo ef a'i gyfeillion adeiladu rhai eglwysi yn Tartary ac yn China. Yr oedd achos y Cristionogion yn Pales- tina, wedi holl ryfeloedd y groes yn y can- rif o'r blaen, yn awr mewn cyflwr isel ac anobeithiol, a'r Pabau yn awyddus i gyffroi y tywysogion i ymaflyd o'r uewydd yn y gorchwyl o ddarostwng y Mohamet- aniaid. Innocent III. a ddechreuodd seinio yr udgorn yn fore iawn yn y canrif hwn, ond yr oedd yn auhawdd dwyn y tywysogion i roddi clust i'r alwad. Yr oedd yr ymgyrchiadau blaenorol wedi troi allan yn ffynonau elw i'rPabau a'u swydd- ogion, ond yn achosion tlodi i'r tywysog- ion, a gwendid i'w byddinoedd ; ond wedi y cyfan, llwyddo wnaeth y Pab i ddar- bwyllo rhyw nifer o bendefìgion Ffraiuc i CVF. XI. uno â'r Venetiaid i grynhoi byddin, ac i gychwyn tua'r dwyrain yn y flwyddyn 1203. Ond yn lle myned i Syria, yn ol bwriad y Pab, morio wnaeth y fyddin yn union i Gaercystenyn, a chymeryd y ddinas ymerodrol drwy ystorom, er mwyn adferu Isaac Angelus i'r orsedd oedd wedi ei thraws-feddianu gan Alexius ei frawd. Ond yn y flwyddyn ganlynol cyfododd ter- fysg yn y ddinas, yn yr hwn y lladdwyd yr ymerawdwr Isaac, ynghyd âg Alexius ei fab. Pan gyrhaeddodd y newydd hwn glustiau rhyfelwyr y groes, hwy a gymer- asant feddiant o'r ddinas yr ail waith, ac ymlidiasant Alexius Ducas, cynhyrfwr y terfysg, o'r ddinas, ac a godasant Baldwyn, Tarll Fflanders, i'r orsedd, fel ymerawdwr y Groegiaid. Ond ni wnaeth hyn ond gwaethygu yr achos, oblegid yn mhen dwy flynedd, y Groegiaid a ddewisasant Theo- dore Lascaris yn ymerawdwr gwrthwyn- ebol iddo, ac felly yr oedd dau ymerawdwr ganddynt o'r pryd hwn, nes i Michael Pal- aîlogus gymeryd y ddinas yn y flwyddyn 12G1, pan y gorfuwyd Baldwyn II. i fFoi i'r Eidal, ac y terfynodd llywodraeth y Ffranc- iaid yn Nghaercystenyn, wedi parhau dwy flynedd ar bymtheg a deugain, a thyma ffrwyth yr ymgyrch hwn o eiddo rhyfelwyr y groes. Gwnaethwyd ymgais arall gan Honorius III., yn y flwyddyn 1217, drwy gasglu byddin o Eidalwyr ac Almaeniaid, a'u gosod dan dywysiad Andrew, brenin Hun- irary, Leopold, Dug Awstria, Lewis, o Bavaria, ac amryw dywysogion ereill. Ond yn mhen ychydig fisoedd, Andrew a ddychwelodd, gan adael y peudefigion ereill i fyned â'r gwaith yn mlaen, a buant Iwyddianus ar y cyntaf, drwy iddynt gy- meryd Damietta, y ddinas gadarnaf, y pryd hyny, yn yr Aipht; ond yn y flwyddyn ganlynol, eu llynges a ddinystriwyd gan y Saraceniaid, a'u lluniaeth adorwyci ymaitli, fel y darostyngwyd y fyddin i'r caledi mwyaf, ac ni fu yn alluog i wneuthur dim o bwys wedi hyny. Ond yr oedd llys llhufain yn parhau yn awyddus yn yr amcan, a thrwy ymdrech mawr, Gregory IX. a lwyddodd, gyda yr ymerawdwr