Skip to main content

Y BEDYDDIWE. Cyf. XI.] IONAWR, 1852. [Riiif. 121. HAJNTES YR EGLWYS GRISTIOtfOGOL, Hanes Cristionogaeth kn yr Unfed Canrif ar Ddeg. Er nad oes nemawr o bethau yn hanes gweithrediadau yr eglwys Babaidd, yn y canrif hwn, a duedda i gynhyrfu hyfryd- wch yn rneddwl un Cristion difrifol, eto niae rhai o'i gorchestion yn deilwng o sylw, gan eu bod yn dangos yr ysbryd oedd yn ei llywodraethu, a'r egwyddor ar ba un yr oedd yn ymroddi i helaethu ei hawdurdod. Ÿr oedd y rhan fwyaf o gen- edloedd Ewrop yn awr wedi ymostwng i iau y Pab, ac ynteu yn cyfarwyddo mesur- au eu tywysogion yn ol ei ewyllys anffael- edig ei hun, ac yn defnyddio eu hawdurdod i gynal ei draws-arglwyddiaeth, ac yn galw am eu byddinoedd i gosbi y neb a anturiai i wrthwynebu ei amcanion uchelfrydig. Ond jr oedd rhai llwythau eto heb eu dar- ostwng, ac yn eu plith yr ydym yn cael y Sclavoniaid, y Yenediaid, a'r Prwsiaid. Yr oedd y Prwsiaid yn hynod am gyndyn- rwydd, ac er fod rhai cenadau wedi am- cauu eu darbwyllo i dderbyn Cristionogaeth yr eglwys Babaidd, nid oedd un ymgais wedi llwyddo, ac yr oedd Adalbert, esgob Prague, wedi ei lofruddio, wrth geisio effeithio eu tröedigaeth, gan Siggo, un o'u hoffeiriaid, yr hwn a'i try wanodd â phicell. Ond Boleslaus, brenin Pwyl, wedi clywed am lofruddiaeth Adalbert, a benderfynodd ddial ei waed ar y Prwsiaid, drwy gy- hoeddi rhyfel yn eu herbyn, a thrwy nerth arfau a chyfreithiau cosbawl, cyrhaedd- odd ei amcan, mewn rhan, drwy orfodi rhai o'r Prwsiaid i broffesu crefydd Crist. Ond wedi i'r ystorom dawelu, troi yn ol wnaeth y Prwsiaid at eu heulunod, ac er i genad o'r enw Boniface gymeryd y gor- chwyl o'u dysgu mewn Ilaw, ni bu fawr o lwyddiant ar ei waith, ac yr ydym yn cael i gynifer a deunaw o genadau, a anfonwyd atynt ©'r Almaen, yn nghyd â'u blaenor, o'r enw Bruno, gael eu merthyru yn eu plith. Fel hyn, er holl sel Boleslaus, a llafur Boniface a'i frodyr, parhau yn Ba- ganiaid wnaeth y Prwsiaid, nes iddynt gael eu darostwng drwy nerth y cleddyf, gan y marchogion Teutonaidd, yn y trj^i- edd canrif ar ddeg, wedi rhyfel gwaedlyd am haner can mlynedd, ac fel hyn y dyg Cyf. xi. wyd y Prwsiaid i ddwyn iau Eglwys Rhufain. Yr ydym wedi nodi yn barod fod y Mo- hammetaniaid wedi cymeryd meddiant o ynys Sicily yn y nawfed canrif, ac yr oedd- ent yn ei ddal hyd y canrif hwn, er pob ymdrech o eiddo y Groegiaid a'r Lladin- wyr. Ond yn awr, drwy i Nicbolas II anog Robert Guiscard, a byddin o Nor- maniaid, i ymosod ar y Saraceniaid gyda ffyrnigrwydd diymwad, fe'u difeddianwyd o'r ynys, ac ail-sefydlwyd crefydd y Pab yno, yn lle cyfundraeth y gau-broffwyd. Nid drwy weinidogaeth heddwch y gwnaed hyn, eithr drwy ryfel gwaedlyd, a barhaodd am tua deng mlynedd ar ugain, ond yr oedd yn cael ei gyfrif yn orchest fuddugol o du yr eglwys, ac fel gwobr am y gwaith, gwisgwyd Roger, brawd Robert, âg urdd- asrwydd llywodraethol yu yr ynys, yn ughyd âg awdurdod pennodol mewn achos- ion eglwysig, sydd yn cael ei feddianu gan ei ganlynyddion hyd yn awr. Yn ganlynol i hyn, drwy awdurdod y tywysog, a chymeradwyaeth y Pab, sefydlwyd es- gobaethau, mynachlogydd, ac eglwysi gor- wych, yn ynys Sicily, ac mae yn un o'r gwledydd mwyaf Pabaidd oddiar hyny hyd y dydd hwn, ond mae ymrafael weithiau yn cymeryd lle rhwng ei breninoedd a'r Pabau, o barth yr awdurdod eglwysig a hawlir gan y tywysogion, ar sail brein- ysgrif Urban II, a roddwyd i Roger fel gwobr am ei wasanaeth i'r eglwys. Dyma fel y daeth Sicily dan awdurdod cyfiawn Eglwys Rhufain. Ond nid.dychweliad y gweddill o lwyth- au Ewrop i'r ffydd Babaidd oedd y peth mwyaf pwysig yn ngolwg yr offeiriadaeth a'r mynachod, yn yr oes dy wyll hon. Yr oedd y Pab yn awr wedi dwyn tywysogion Ewrop dan ei law, ac yn gallu eu rhwymo i ddefnyddio y cleddyf, i orfodi eu deiliaid i'w gydnabod yn ben ; ond yr oedd cyflwr pethau yn y dwjrain yn wahanol iawn oddiwrth hyn. Yr oedd Mohammetaniaeth yn enill tir yn barhaus, a Christionogaeth wedi dadfeilio mewn llawer talaeth, ac hyd y nod yn Palestina, yr oedd y Cristionogion