Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWE. Cyf. X.] RHAGFYR, 1851. [Rhif. 120. EAHES YR reiLWTO (BMSraO(EMl)L Hanes Cristnogaeth yn y Deged Canrif. Yr ydym yn awr wedi cyrhaeddid tymor tywyll yn hanes Cristnogaetb, pan oedd y Dyn Pechod yn eistedd ar ei orsedd, a'r wir eglwys yn ddisylw yn yr anialwch, a holl dywysogion Ewrop wedi cysegru eu dylauwadau i amddiffyn a helaethu dylan- wad yr Eglwys Babaidd drwy y byd. Nid oes nemawr o ddygwyddiadau y canrif hwn yn tueddu i gyffroi dim llawenydd yn mynwes y gwir Gristion ; ond ar yr un pryd, y maent yn llawn o addysg i'r rhai sydd am ddeall yr effaith y mae dyfais ddynol yn ei ddwyn allan, pan ei gosodir yn Ue egwyddorion sylfaenol teyrnas Crist. Yr jdym wedi canfod y dysgyblion yn myned allan yn nerth yr Arglwjdd i breg- ethu iachawdwriaeth, drwy rinwedd gwaed Crist, a hwnw wedi ei groeshoelio, heb na chyfoeth, na dysg, na dylanwad tywysog- ion o'u tu, ac eto yn mhob gwlad, yr oedd eu llafur yn ffrwythloni yn iachawdwr- iaeth eneidiau ; ac eulun-addoliaeth y Cenedloedd yn syrthio i anghymeradwy- aeth, nes oedd yr offeiriaid yn crynu, y temlau yn gwaghau, a'r allorau yn myned yn ddiwasanaeth. Yr ydym hefyd wedi canfod llywodraethwyr y byd yn dyfod allan i gynorthwyo y ddraig, drwy ladd a llosgi y neb a anturiai wadu hawl yr eulun- od meirwon i hyder ac addoliad oddiwrth breswylwyr y byd ; ond er cyfodi Deg Er- ledigaeth yn olynol, yn erbyn canlynwyr Crist, yn mlaen yr aeth achos Cristnogaeth, gan fwrw i lawr ddychymygion dynion, cyhyd ag y cafodd orphwys ar ei sylfaeni cyntefig, heb ei gymysgu âg elfenau llygr- edig y byd sydd yn gorwedd mewn dryg- ioni. Ond yn fore yn y pedwerydd canrif, yr ydym yn canfod Cristnogaeth yn sefyll mewn cysylltiad newydd, drwy fod y llyw- odraeth wladol yn ei chymeryd dan ei haden, ac ymerawdwyr y byd yn agweddu ei mesurau yn ol cynllun eu sefydliadau eu hunain ; ac wedi i'r attalfa gael ei symud o'r ffordd, wele y naill gam ar ol y Uall yn dwyn esgob Rhufain i gael ei gyd- nabod yn ben cyffredinol ar yr eglwys, yn nechreuad y seithfed canrif, ac yn ei wisgo âg awdurdod tywysog gwladol cyn diwedd yr wythfed ; ac yn awr, wedi iddo arferyd ei awdurdod gyflawn am fwy nà chan «nlynedd, fel tywysog gwladol, cawn weled Cyf. x. y byd dan ei nawdd yn gorwedd mewn tywyllwch, a chyfundraeth o ddefodau a thraddodiadau dynol mewn gweithrediad, parch, a sylw, yn lle y grefydd ysbrydol a blanwyd gan Grist a'i apostolion. Mae pawb yn cyfaddef fod y degfed can- rif mor hynod am anwybodaeth a thywyll- wch moesol ar y naill law, ag am anfoesol- deb a choel-grefydd ar y Uaw arall ; ac er ein bod yn clywed am ddychweliad rhai cenedloedd i'r ffydd, yr ydym yn cael achos i gredu nad oedd y cyfnewidiad ond mewn enw, na chyflwr y dychweledigion, rnewn ystyr foesol ac ysbrydol, ddim gwell nag o'r blaen. Yn unol â'r olwg hon ar yr achos, yr ydym yn cael yn mhlith gor- chestion Pabaidd y byd gorllewinol, i Rollo, mab i bendefig Norwegaidd, ag oedd wedi ei alltudio o'i wlad frodorol, ar- wain byddin gref o Normaniaid gwrol i Ffrainc, a gafaelu mewn rhan brydferth o'r wlad ëang hòno. Siarl feddal oedd yn teyrnasu yno y pryd hyny; a chan nad oedd yn meddu na nerth na dyfais i wrth- wynebu y traws-feddianydd gwrol a milwr- aidd oedd wedi goresgyn ei diriogaeth, cy- nygodd roddi fyny rhan o'r wlad i Rollo, ar yr amodau fod iddo fyw yn heddychol, a chymeryd Gisela, merch Siarl, yn briod, iddo, a derbyn Cristnogaeth drwy gymeryd. ei fedyddio. Fel y gallesid dysgwyl, cyd- unodd Rollo â'r cjnyg haelfrydig, a chan- Iynwyd siampl y blaenor gan y fyddin anwaraidd, a hwy a broffesasant grefydd, o'r hon yr oeddent yn hollol anwybodus; ac fel hyn y daeth y Normaniaid yn Ffrainc i gael eu rhesu yn mhlith y Cristnogion. Mae yn ymddangos oddiwrth dystiolaeth hanesyddion credadwy, nad oedd gan yr yspeilwyr gogleddol hyn unfath o grefydd, ac o ganlyniad, nad oedd un rhwystr ar eu ffordd i dderbyn y gyfundraeth a'i gallu- ogai i ddiogelu y fantais dymorol fwyaf iddynt eu hunain. Nid oeddent yn gwy- bodum un gwahaniaeth rhwng dyledswydd ac elw ; ac o ganlyniad, nid gwirionedd a rhinwedd a gyfansoddai wrthddrych eu hymgais, ond y cyfoeth a'r dylanwad a gyrhaeddent drwy y mesurau a ddilynent. Oddiwrth Rollo, yr hwn a wisgwyd â'r enw Robert yn ei fedydd, y disgynodd rhes o ddugiaid, a fuont yn Uywodraethu am 2 v