Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. X.] HYDREF, 1851. [Riiif. 118. HÄMEi Yâ EfôLWYS ©MSTHOfiOL Hanes Cristnogaeth yn yr Wythfed Canrif. Yr ydym wedi nodi yn hanes y canrif diweddaf fod esgob Rhufain, drwy gynorth- wy yr ymerawdwr Phocas, wedi ei gyd- nabod gan yr esgobion fel pen cyffredinol ar yr holl eglwysi, a gyfrifent yn union- gred drwy y byd. Yr oedd hyn yn fesur angenrheidiol, yn eu barn hwy, er per- ffeithio y gyfundraeth esgobaethol, ac uno yr eglwys fel un corff. Ond nid hir iawn y buant heb brawfiadau nad oedd y mesur yn tueddu i gynal undeb, obìegid yn nheyrnasiad Philipicus Bardanes, tua y flwyddyn 712, dechreuodd ymrafael yn mhlith y Groegiaid yn nghylch addoli deiwau, a fu yn debyg o ianw yr ymerodr- aeth â gresyndod. Yr oedd yr ymerawdwr, drwy gydsyniad Ioan, Patriarch Caercys- tenyn, wedi gorchymyn tynu lawr ddarlun y chweched cyngor oedd wedi ei sefydlu yn eglwys St. Sophia, ac anfonodd i Rufain i wahardd cadw lluniau o'r fath yn neb o'r eglwysi. Ond ni chafodd ei orchymyn ond derbyniad annghymeradwyol yno, oblegid archodd y Pab Constantine osod chwech o luniau i fyny yn mhorth eglwys St. Pedr, fel sarhad i'r ymerawdwr, ac a alwodd ynghyd gyngor o eglwyswyr, lle y dyfarnwyd Bardanes yn wrthgiliwr oddi- wrth y wir grefydd, ond tawelodd y cynwrf am dymor drwy i chwyldroad gymeryd lle, yn yr hwn y collodd yr ymerawdwr ei orsedd. Canlynwyd ef gan Leo yr Isauriad, yr hwn oedd dywysog dewr a phenderfynol, ac yn fuan wedi ei esgyniad, cyfododd y ddadl o'r newydd gyda ffyrnigrwydd o bob tu. Yroedd yr ymerawdwr yn methu dyoddef yr holl arferiadau eulun-addolgar oeddent mewn bri yn mhlith y Groegiaid, ac yn cynhyrfu yrluddewon a'r i\Johamet- aniaid i ddirmygu crefydd Crist, ac felly penderfynodd i ddiwreiddio y drwgoblith ei holl ddeiliaid. I'r dyben hyn cyhoedd- odd gyfraith yn y flwyddyn 726, yn yrhon jr oedd nid yn unig yn gwahardd rhoddi addoliad i'r delwau, ond hefyd yn gor- chymyn symud pob delw o'r eglwysi oddi- eithr llun croeshoeliad Crist. Cafodd yr jsgrifen yr effaith a allesid ddysgwyl yn mhlith dynion penboeth a choel-grefyddol, drwy ddwyn y nwydau mwyaf gwyllt i weithrediad, nes cynhyrfu y gwledydd a chyfodi rhyfel cartrefol, yrhwn a ymdaen- odd drwy ran o Asia, ac a gyrhaeddodd i'r Cyf. x. Eidal cyn y diwedd. Yr ydoedd y bobl gyffredin erbyn hyn, drwy eu hanwybod- aeth eu hunain, ac athrawiaeth dwj Hodrus y mynachod, yn eu cyfrif eu hunain yn rhydd oddiwrth bob rhwymau i ymostwng i'r awdurdodau gwladol, gan eu bod yn cyfrif yr ymerawdwr yn wrthgiliwr, am ei fod yn gosod ei wyneb yn erbyn delw- addoliaeth. Gregory Ií, esgob Rhufain, a ymgyn- hyrfodd yn erbyn yr ymerawdwr gyda y ffyrnigrwydd mwyaf, a phan wrthododd alw yn ol ei ysgrif ymerodrol yn erbyn delw-addoliaeth, fe'i cyhoeddodd yn an- nheüwng o enw Cristion ac o freintiau yr eglwys, ac felly fe'i hesgymunodd. Nid cynt y gwnaetnwyd y ddedfryd hyn yn gyhoeddus drwy daleitliau yr Eidal, oedd- ent dan lywodraeth yr ymerawdwr, nag y cyfododd y werinos yn erbyn y llywodraeth, gan ddirmygu, alltudio, a llofruddio yr holl raglawiaid a'r swyddogion, yn mheü ac yn agos, fel nad oedd ond terfysg ac annhi efn yn llanw yr holl wlad. Leo wedi clywed hyn a benderfynodd ddial ar ei ddeiliaid gwrthryfelgar yn yr Eidal am eu hanflỳddlondeb, a dwyn y Pab ei hun i deimlo pwys ei ddigofaint, ond methodd yn ei amcan. Er hyny, ni pheidiodd a dial ar y delwau, ac ar eu haddolwyr hefyd, yn fwy egniol nag o'r blaen, oblegid mewu cyngor a gynaliwyd yn JNghaercystenyn, yn y fiwyddyn 730, diraddiodd Germanus, prif esgob y ddinas hono, yr hwn oedd yn ymgeleddwr delwau, ac a osododd Anas- tasius yn ei le ef, gan orchymyn Ilosgi y delwau yn gyhoeddus, a chosbi mewn gwahanol ffyrdd y neb a ymlynai wrth eu gwasanaeth eulunaddolgar. Drwy y me- surauhynrhanwyd yreglwys yn y parthau hyny oeddent yn cyfansoddi yr ymerodr- aeth ddwyreiniol yn ddwy rau, y naill yn addolwyr delwau, a'r llall yn collfarnu hyny fel eulunaddoliaeth ryfygus. Pan esgynodd Gregory III. i'r gadair babaidd, dangosodd fwy o sêl dros y delwau na'i ragflaenor, ac mae yn wybodus mai eu hymlyniad wrth ddelw-addoliaeth a fu y prif achos o ysgariad y taleithau Eidalaidd oddiwrth yr ymerodraeth Roegaidd. Constantine Capronymus a ganlynodd ei dad Leo, yn y tìwyddyn 741, ac yr oedd ynllawnmor awyddus i ddinystrio y delw- au a'i ragflaenor, ond yr oedd yn cyfarfód 2 o