Skip to main content

Y BEDYDDIWE. Cyf. X.] MEDI, 1851. [Rhif. 117 EMES YB 1ÄWTS (BMSTOOfiOL HANES ClUSTNOGAETH YN Y SEITHFED CaNEIF. YrR ydym wedi cael achos nodi yn ein erthyglau blaenorol, fod ymadawiad oddi- wrth egwyddorion y Testament Newydd wedi ymddangos yn mhlitli y Cristnogion cyn diwedd yr ail ganrif, ac fod egwyddor sylfaenol pabyddiaeth wedi cael cymerad- wyaeth yn y pedwerydd canrif, pan unwyd yr eglwys â'r llywodraeth wladoi yn amser Cystenyn. Ond nid ar unwaith y cyr- haeddodd y Dyn Pechod ei holl nerth, eithr cynyddu a wnaeth yn raddol, ac ym- lwybro o gam i gam, nes yn y diwedd iddo esgyn i'r orsedd, ac eistedd yn nheml Dduw, gan honi awdurdod i drin holl achosion teyrnas Crist yn ol ei ddyfais a'i ewyllys ei hun. Mae graddoldeb cyfodiad pabyddiaeth yn achosi llawer o anhawsdra i ddeall arwyddion yr amserau, ac yn enw- edig i benderfynu yn gywir pa bryd y bydd i lywodraeth Anghrist derfynu. Mae yn wybodus ddigon fod ystod ei lywodraeth, yn ol llyfr y Dadguddiad, yn ddeuddeg cant a thri ugain o flyneddau proffwydol- iaethol, yr hyn a farnir yu gydradd a deu- ddeg cant a dwy a deugain, yn ol ein dull ni o gyfiif amser. Mae yn beth o bwys gan hyny er deall y proffwydoliaethau, i graíi'u yn fanol ar y dull y cyfododd ac y cynyddodd y dirywiad nes cyrhaeddodd pabyddiaeth yr holl ddylanwad a'i gallu- ogodd i ddàl y Cenedloedd mewn caeth- iwed moesol, a'u cau mewn tywyllwch ac anwybodaeth. Y cam cyntaf tuag at y gyfundraeth babaidd, oedd gwaith yr esgobion yn cy- meryd arnynt drin achosion eglwysig mewn cyfarfody('d cymanfäol, yn anymddibynol ar bleid'ìis yr aelodau cyffredin. Dech- reuwyd hyn tua chanol yr ail ganrif, ac fe'i cym^radwywyd yn fawr heb ganfod ei ganlyniadau, nes i weithrediadau yr eg- lwysi gael eusylfaenu ar dir hollolnewydd. Y cam nesaf oedd gwisgo rhyw esgob âg awdurdod i arolygu achosion yr holl eg- Iwysi yn y dosbarth lle y byddai yn gwein- jddu, ac i alw yr esgobion ynghyd pan fyddai achosion amheus yn gofyn am gyd-ystyriaeth, ac efe fyddai yn cymedroli yn y cyngor. Yr oedd ydrefn hon mewn arferiad yn y trydydd canrif; ac mewn amser daeth y cýfryw i gael eu galw yn Archesgobion ; ond nid oedd hyn yn arferol nes tua y flwyddyn 430. Yn ganlynol i hyn "Cyf. x. gwnaethwyd gradd arall yn y gyfundraeth offeiriadol mwy urddasol nà. dim oedd yn bodoli o'r blaen.sef yPatrieirch, a chyfyngid yr anrhydedd hyn i esgobion y dinasoedci mwyaf cyfrifol, megis i esgob Rhufain, esgob Alecsandria, esgob Caercystenyn, esgob Antiochia, ac esgob Jerusalem, ac yn mhlirh y rhai hyn yr oedd esgob Ilhu- fain yn blaenori, o herwydd cyfoeth ei eglwys, mawredd ei feddianau, rhif ei weision,arhwysgei ymddangosiad ;ondnid oedd iddo un awdurdod sefydiog uwchlaw yr hyn a berthyuai i'r rhai ereill. ISIid hir iawn y buont heb ganfod fod un cam eto yn ddymunol, er cyrhaeddyd yr hyn a gyfrifent yn berffeithrwydd, sef cael un yn ben ar bawb ereill, ond pwy a wisgid â'r anrhydedd hyn oedd beth anhawdd iawn i'w benderfynu. Er fod esgobion Rhufain yn cael y fiaen- oriaeth oddiar amser Cystenyn, eto, nid oedd eu hawl^i hyny yn cael ei sylfaenu ar un egwyddor amgen nag amgylchiadau eu hesgobaeth; ond tua'r tìwyddyn 494 fe hawliodd Gelasius hyny fel gosodiad o ddwyfol drefniad, ac fe ddywedir fod ei rag- flaenor Leo wedi gwneuthur yr un peth ychydig cyn hyny. Fodd bynag, fe fu yr achos dan sylw mewn cyfarfod a gynaliwyd yn Rhufaiu, yn y tìwyddyn a nodwyd, ac yno fe ymroddodd esgob Rhufain a'i blaid i ddaugos nad oedd ei fiaenoriaeth yn ym- ddibynu ar benderfyniadau cymaufäol, eithr ar eiriau Ciist, yr hwn a ddywedodd wrtli Pedr, "Ar y graig hon yr adeiladaf j'y eg- licys." Ond nid oedd y ffordd yn rhydd eto i'r amcan uchelfrydig gael ei gyrhaedd- id yn ddiwrthwynebiad, obiegid yr oedd esgobion Caercystenyn yn llawn mor dra- chwantus ag esgobion Rhufain, ac yn gwrthod cwympo mewn â'r cynig o arddel esgob, Rhufain yn ben arnynt. Bu cynwrf nid bychan yn yr achos am yn nghylch can mlynedd, nes i Ioan yr YTmprydiwr, esgob Caercystenyn, anturio, mewn cyngor agyn- aliwydyn y ddinashono yn y flwyddyn 688, ymatìyd yn y cymeriad o esgob cyffredinol, ac fe gadarnhawyd hyny gan y cyngor. Ond nid cyiit y cyrhaeddodd y newydd glustiau Pelagius, esgob Rhufain, nag yr ymgynhyrfoddyn erbynymesur yn aiuthr- olgan ei alw yn benderfyuiad meildigedig, halogedig, ac uffernol, ond ni chafodd ei 2 K