Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. X.] AWST, 1851. [Rhif. 116. häîto yi miwY^ mmrmmic Hanes Cristnogaeth yn y Chweched Canrif. Mae yn deilwng o sylw y darllenydd fod llyfr y Dadguddiad yn cynwys rhag- fynegiad cywir ara helynt achos Crist o ddechreuad yr oes apostolaidd hyd ddiwedd amser, ac nad oes modd i ddeallei gynwys- iad heb fesur o wybodaeth am hanes yr «glwys Gristnogol. Mae yn rhaid dàl mewn côf hefyd, fod yr eglwys Gristnogol ynbodoli yn benaf, yn yr oesoedd boreuaf, I o fewn terfyngylch yr ymerodraeth Ru- feinig, ac o ganlyniad fod amgylchiadau yr ymerodraeth hono yn effeithio cyflwr y Cristnogion i raddau helaeth iawn. Dyma yr achos fod chwyldröadau yr ymerodraeth yn cael eu trin mor fanol yn y broffwydol- iaeth, a dichon y bydd yr hyn ydym wedi nodi yn yr erthyglau blaenorol, o ryw gynorthwy i'r darîlenydd i ddeall y cyfeir- iadau ffugyraidd sydd ar gael, yn enwedig yn y chweched bennod o'r llyfr rhyfeddol hwnw. Yr ydym wedi canfod y march gwyn, sef y weinidogaeth efengylaidd, yn myned allan gyda nerth buddugol, nes oedd twyll yr offeiriadaeth, a balchder y philoso- phyddion yn colli tir, a lluoedd o eneidiau yn cael eu darostwng i ufudddod ffydd ; yr ydym wedi gweled y march coch yn ymlwybro drwy y talaethau, ac yn enwedig drwy Balestina nes troi y tir fu yn llifo o laeth a mêl yn ddiffeithwch, a dinystrio y ddinasfu ynbrydferthwch i'r gwledydd, a'r deml fu yn addurn i'r byd, a gwasgaru y genedl a ddewisodd Duw i fod am oesoedd yn etifeddiaeth iddo ei hun; yr ydym wedi cofnodi y newyn, a arwyddir yn ym- ddangosiad y march dû, yr hwn a gymer- odd le yn nheyrnasiad Severus, a ihai o'i ganlynyddion ; yr ydym hefyd wedi cy- ffwrdd â'r plâ marwol, a ddarlunir drwy y march gwehylas, a ddechreuodd tua y flwyddyn 250, ac a barhaodd am bumtheg mlynedd, nes yn ol barn rhai, i haner trigolion y byd gael eu dinystrio gan y cleddyf, y newyn, a'r haint yn olynol; yr ydym hefyd megis wedi clywed llef y merthyron ar agoriad y bumed sêl yn galw am ddial, fel pe buasent wedi blino dyodd- ef, pan oedd dinystr y gyfundraeth bagan- aidd yn neshau; ac yr ydym, ar agoriad y chweched, yn canfod y chwyldröadau mawrion, a derfynasant holl nerth pagan- iaeth ar esgyniad Cystenyn i'r orsedd, ac a osodasant y cyfan ardir newydd, drwy uno crefydd y Cristnogion â'r llywodraeth Cyf. x. wladol. Ac ar agoriad y seithfed sêl, wele ddistawrwydd cyffredinol, a llonyddwch yn ffynu nes byddai i'r saith angel udganu, a dwyn allan chwyldröadau newyddion dan nawdd y llywodraeth gymysgedig ac anysgrythyroí oedd yn awr mewn gweith- rediad. Yn fuan wedi y cyfnewidiad hwn yn ffurf a mesurau y llywodraeth Rufeinig, darostyngwyd ei nerth drwy ymosodiad y barbariaid ar ei gwahano! daleithau, ac efallai na fu amser mwy gresynus yn hanes y teulu dynol, nag o ddechreuad y pedwer- ydd canrif hyd tua diwedd y pumed. Yn ystod y pumed canrif yr oedd y blinder yn ei nerth a'i gyfiawnder mwyaf, a'r chwyl- dröadau a ddynodir ar udganiad y pedwar angel blaenaf, yn canlyn eu gilydd gyda chyflymder difeth,nes yn y diwedd i'r hen ymerodraeth gael ei dymchwelyd, a dcg teyrnas, yn ol proffwydoliaeth Daniel, gyfodi yn eu lle, ac yn eu plith y corn bychan, a llygaid fel Hygaid dyn, a genau yn traethu mawrhydi. Cyfodiad, cynydd, a gweithrediadau yr olaf o'r rhai hyn fydd yn awr yn dyfod dan ein sylw yn fynych, oblegid megis ag yr oedd mesurau yr ym- erodraeth Rufeinig yn ei chyflwr pagan- aidd yn effeithio amgylchiadau canîynwyr Crist yn y canrifoedd blaenaf o oes Crist- nogaeth, felly yr oedd gweithrediadau Anghrist yn ganlynol i'r gwrthgiliad cy- ffredinolyn effeithio cyflwr gwir Gristnog- ion yn yr oesoedd tywyll, ac maent yn parhau i wneuthur felly i raddau helaeth yn ein hamser ni, ac felly y gwnant hyd ddi- nystr y Dyn pechod drwy nerth Ysbryd Crist, a'i ddiiead drwy ddysgleirdeb ei ogoniant. Mae yn wir i broffes o Gristnogaeth gynyddu yn y canrif hwn yn y dwyrain, drwy i amryw lwythau gael eu dwyn i enwi eu hunain yn ganlynwyr Crist, ond nid ymddengys fod eu tröedigaeth yn llawer mwy nag mewn enw, gan nad oedd gwahaniaeth mawr rhwng Cristnogaeth y Groegiaid y pryd hwn ac eulunaddoliaeth y Paganiaid. Y cyfan oedd yn cael ei ofyn oddiwrthynt, oedd iddynt gydnabod Crist fel Ceidwad, a pheidio aberthu i neb eulunod, a dysgu allan fl'urf athrawiaethol ar dafod; ond nid oedd nemawr o ymgais am gyfoethogi eu meddyliau â rhinweddau ysbrydol, na rheoleiddio eu hyraddygiad 2f