Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. X.] GORPHENHAF, 1851. [Rhif. 115. HAITO Yl reLWTO (&MSTH(D(GMDL Hanes Cristnogaeth xn y Pumed Canrif. Yr ydym yn awr wedi cyrhaeddid tym- or dirywiad cyffredinol yn hanes Crist- nogaeth, pan y canfyddir y byd a'r eglwys, wedieu huno â'r egwyddorion cnawdol, ac achosion crefydd yn cael eu rheoleiddio yn oldyfaisllywodraethwyr uchelfrydig, ac nid yn ol meddwl dadguddiedig yr Arglwydd Iesu Grist. Yr oedd yr ymerodraeth Rufeinig yn awr yn ddwy ran, ac Honorius ynllywodraethu yn y gorllewin, a gorsaf ei lywodraeth yn Ravenna; ac Arcadius yn ymerawdwr y dwyrain, a Chonstantinopl yn brif-ddinas iddo. Yr ydym wedi nodi mewn erthygl fiaenorol i'od y Gothiaid wedi rhuthro ì'r Eidal, a goresgyn rhan fawr o'r taleithau Ewropaidd, a darostwng yr hen frodorion i galedi mawr. Parhaodd y blinder i gynyddu nes yn y diwedd i Odoacer, wedi gorchfygu Agustulus, ddin- ystro ymerodraeth y gorllewin, a darostwng yr hollEidal dan ei lywodraeth ei hun. Yn mhen ychydigamser wedi hyny,Theodoric, brenin yr Ostrogothiaid, a ymosododd ar Odoacera'r Herculiaid,ac a'u gorchfygodd mewn rhyfel, ac a sefydlodd deyrnas iddo ei hun yn yr Eidal, yr hon a barhaodd am rywbeth mwy nâ thri-ugain mlynedd. Yn amser y gorthrymder gwladol hyn, yr oedd yr heri gyhuddiad yn cael ei gyfodi gan weddill y Paganiaid'yn erbyn y Crist- flogion, a'r i10n drallod yn cael ei briodoli i anfoddlonrwydd y duwiau am fod ei gwasanaeth wedi ei roddi fyny. Dywed- ent yn aml fod y byd mewn cyflwr hedd- ychol a llwyddianus cyn dyfodiad Crist, ond, wedi ymdaeniad yr achos Cristnogol, nad oedd yn awr ond pla a blinder yn cyn- yddu yn feunyddiol yn mhob goror. Fe atebwyd y gwrthddadlhyn yn fedrus iawn, gan Awstin yn ei lyfr yn nghylch diuas Oduw.achan Osorius yr hwn, mewn hanes owrpasol i'r amcan hyny, a ddangosodd yn amlwg fod blinderau o'r un natur wedi gwasgu ar genedloedd y ddaear cyn sef- Jdliad Cristnogaeth yn y byd. Er cymaint y trallod cydfynedolâchwyl- droadau y canrif hwn, yr oedd terfynau yr eglwys esgobaethol yn helaethu, a gwahan- 01 Uvythau yn ymresu yn mhlith Cristnog- 'on, o leiaf mewn enw, ond mae achos creclu mai nid egwyddorion cywir yn u»'g oedd yn effeithio yn hyn, eithr fod dyfais fydol yn dylanwadu a'r laweroedd, Cyp. x. drwy eu bod yn canfod yr achos Cristnogol yn enill tir. Yn y dwyrain, yr ydym yn cael i breswylwyr mynydd Libanus a'i amgylchodd dderbyn Cristnogaeth drwy offeryngarwch Simeon y Stylite, ac iddo lwyddo i sefydlu addoliad Crist mewn dos- parth helaeth o Arabia ; ond mae hanes ei weithrediadau wedi ei chymysgu a chym- aint o chwedlau dychmygol ymonachod fel mae rhaid ei derbyn yn gynil, heb roddi gormod coel o barth y gwyrthiau a briod- olant iddo, fel i lawer ereill o seintiau yr eglwjs babaidd. Mae yn wybodus hefyd i nifer fawr o'rluddewon, yn ynys Creta, i ymostwng yn broffesedig i lywodraeth Crist wedi iddynt ganfod twyll Moses Cre- tensis, yr hwn oedd wedi hòni iddo ei hun gymeriad y Messia addawedig, ac wedi darbwyllo amryw i ymddiried ynddo er din- ystr eu bywydau; ond pan fethodd gyflawnu y gwrthiau oedd wedi gymeryd mewn llaw, llawer o'r edrychwyr a droisant oddiwrtho, gan gydnabod Iesu o Nazareth fel Eneiniog Duw, a Gwaredwr dynion. Nid ar yr un amser y dygwyd y Cenedl- oedd Almaenaidd oll i broffesu Cristnog- aeth. Yr oedd rhai o honynt wedi gwn- euthur felly cyn goresgyn yr ymerodraeth Rufeiuig, yn enwedig y Gothiaid, ac ereill wedi sefydlu eu teyrnasoedd anymddi- bynol a wnaethantyr un modd, fel y byddai iddynt gael byw fel y barnent yn fwy llon- ydd yn mhlith eu cymydogion. Y gwiryw fod cymaint o debygolrwydd rhwng dull'y Cristnogion o addoli yn y canrif hwn, a'r hyn oeddarferedig yn mysg y Paganiaid, fel nad oedd y cyfnewidiad nemawr yn rhagor nâ newid enw gwrthddrych yr addoliad. Barn y Uwythau anwaraidd hyn oedd, gan fod y Rhufeiuiaid wedi estyn eu llywodraeth dros gymaint o daleithau, fod yn rhaid fod y Duw a addolent yn meddu ar allu mawr i wobrwyo ei addolwyr, oblegid yn ol tyst- iolaeth yr hanesydd Socrates, yr oeddent yn mesur buddioldeb crefydd, wrth lwydd- iant y byddinoedd a'i harddelent. Fel hyn y daeth y Burgundiaid, y Yandaliaid, a'r Suefiaid i'w galw eu hunain yn Gristnog- ion, ac yn fuan wedi hyny, hwy a unasant â'r blaid Ariaidd, ac a fuont yn ymlynu wrthi yn awyddus am ryw dynior, er nad yw jn debyg eu bod yn gwybod ond Û B