Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWE. Cyf. X.] MEHEFIN, 1851. [Rhif. 114. MiMlS YE EfôLWTO «HOTHOTOILc Hanes Cristnogaeth yn y Pedwerydd Canrif. Yn nechreuad y canrif hwn yr oedd yr ymerodraeth Rufeinig yn cael ei llywodr- aethu gan bedwar o benaduriaid. O'r rhai yr oedd Diocletian, a Maximian Hercu- leus, yn blaenori mewn awdurdod, a Chon- stantius Chiorus a Maximinus Galerius yn ymerawdwyris-raddol, Yr oedd Diocle- tian wedi esgyn i'r orsedd yn y fiwyddyn 284, ac felly wedi Ilywodraethu un fiynedd ar bumtheg o'r canrif blaenorol, heb aflon- yddu y Cristnogion mewn dim, er ei fod yn bagan hollol goel-grefyddol. Yr oedd Constantius Chlorus yr hwn oedd yn llywodraethu GaulaPhrydain, yn dywysog haelfrydig, tyner, a dyngarol. Yr oedd yn canfod gwagedd y duwiau meirwon, yn trin y Cristnogion gyda chymeradwyaeth ac arafwch, ac yn eu gosod mewn rhai o'r swyddau gwladol. Yn ol tystiolaeth hanes- yddion ein gwlad ni, yr oedd wedi priodi Helen, merch Coel Godebog, yr hon oedd dy wysoges grefyddol, ac ynGristnoges selogA a hi, meddant, oedd mam Cystenyn FaWr. Dichon fod hyn wedi efFeithio ar yr ymer- awdwr er ei ddwyn yn ddirgel i gymerad- wyoegwyddorionCristnogaethjfoddbynag, maeyn sicr ei fod yn dywysog rhinweddol, ac yn llywodraethwr doeth a chanmoladwy, ac fel y cyfryw mewn parch mawr gan ei holl ddeiliaid. (Hanes crefyddyn Nghymru, Çan D. Peter, Cent. IV.) Yr oedd yr eglwys yn awr wedi cael gradd o lonyddwch am ran fawr o ddeugain ndynedd, oblegid nid ymdaenodd yr hyn a elwir y nawfed erledigaeth yn mhell o her- wydd marwolaeth greulon yr ymerawdwr Aurelian, yr hwn oedd wedi ei chyfodi. Yn y tymor llonydd hwn yr oedd Crist- nogaeth yn ymdaenu yn mhob talaeth, a'r hen grefyddau yn colli tir, a phob peth yn rhag-arwyddo fod yr amser yn neshau pau fyddai dylanwad ac elw'r offeiriaid pa- ganaidd yn terfynu. Nid peth annisgwyl- adwy gan hyny oedd iddynt frawychu a gosod eu dyfais ar waith i attal rhedegfa y grefydd oedd yn gwneuthur eu duwiau yn ddifri, eu temlau yn wag, a'u hallorau yn ddiwasanaeth : ac felly y gwnaethant yn gyntaf drwy geisio cynhyrfu Dicoletian i gymeryd eu plaid. Ond gan nadoedd hwn yn dangos parodrwydd i gyd-synio â'u hamcan, hwy a droisant at Masiminus Galerius yr hwn oedd yn un o*r ymerawd- Cyf. x. wyr ac yn briod â merch Diocletian. Ty- wysog auwybodus oedd hwn yn mron am bob peth ond achosion milwraidd, ac o duedd ffyrnig a chreulon, ac felly yn gy- mwys iawn i'w hamcanion gwaedlyd. Trwy resymau twyllodrus yr offeiriaid, dylanwad ei fam hygoelus, a'i nwydau gorwyllt ei hun, fe'i cynhyrfwyd i ymbil mor daer ar Diocletian am gyfraith yn erbyn y Cristnogion, fel yn y diwedd y llwyddodd yn ei ymgais ac y cyfodwyd y ddegfed erledigaeth. Yn y flwyddyn 302, pan oedd Diocletian yn Nicomedia, prif-ddinas Bithynia, lle yr oedd nifer fawr o Gristnogion, y cyhoedd- wyd y gyfraith oedd yn gorchymyn dinystro addoldai y Cristnogiou, llcsgi eu holl lyfrau, a'u difeddianu o'u hawliau gwladol, a'u dyfarnu yn annheüwng o unrhyw ddyrchafiad neu anrhydedd. Nid oedd yr ysgrifen hon yn cyffwrdd â'u bywydau, oblegid yr oedd DHocletian yn anewyllysgar i dywallt gwaed, ond yr oedd Galerius yn penderfynu dwyn ei amcan yn mlaen. Yn fuan wedi cyhoeddi yr ysgîifen hon, pan oedd Galeríus eto yn aros gyda Diocletian, fe dorodd tân allan ddwy waith yn y llŷs, ac er mai Galerius ei hun oedd y tfaglwr yn ol pob tebygolrwydd, fe ddar- bwyllodd yr ymerawdwr i gredu mai y Cristnoirion oedd yn euog o'r trosedd, ac yn y canlyniad llofruddiwyd lluoedd o honynt yn y ddinas hono yn y modd mwyaf erchyll a didrugaredd. Yr ym yn cael i rai miloedd gael eu llosgi yr un diwrnod yn un o demlau Nicomedia ar ddechreuad yr erledigaeth, ac yn ol tystiolaeth Eusebius a hanesyddion boreuol ereill, yr oedd pob dyfais yn cael ei defnyddio er cynyddu ar- teithiau y dyoddefwyr. (Euseb. Hist. Ecctes. lib. VIII. cap. VI. _Lactant.Demont.Pers. cap. XIX.) Ond nid hir y cyfyngwyd y blinder hwn i Nicomedia, obleg"íd cyhoeddwyd ys- grifen ymerodol arall, yr hon oedd yn gorchymyn dàl a charcharu pawb, esgobion, bugeiliaid, ac athrawon Cristnogol drwy yr holl ymerodraeth ; a chanlynwyd hon gan un arall oedd yn rhwymo y swyddogion drwy yr holl daleithiau i arfer pob arteith- iau er gorfodi y dyoddefwyr i aberthu i'r duwiau. Bu yr erledigaeth hon yn llawer mwy erchyll nag un oedd wedi ei