Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. X.] MAI, 1851. [Rhif. 113. HÂÍTO YE E&LWTO «lOTTOfòÛL Hanes Cristnogaeth yn y Trydydd Canrif. Ar ddechreuad y canrif hwn yr oedd Cristnogaeth wedi ymdaenu yn helaeth drwy holl dalaethau yr ymerodraeth Ru- feinig, er cymaint yr erledigaethau oedd wedi cymeryd He yn y canrif o'r blaen, a nifer fawr o ddynion dylanwadol wedi derbyn yr efengyl. Ond wedi y cyfan yr oedd cyflwr y Cristnogion yn drallodus, gan fod cyfreithiau gwaedlyd yn bodoli yn eu herbyn, a'r swyddogion yn barod i wrandaw achwyniadau yr ofFeiriadaeth baganaidd; er nad oedd erledigaeth gyff- redinol yn ffynu oddiar esgyniad Commo- dus i'r orsedd, nes tua y ddegfed flwyddyn o deyrnasiad Severus. Yr oedd Severus yn cael ei gyfrif yn ymerawdwr gwell nâ îlawer ereill yn nechreuad ei deyrnasiad, ond gwaethygu wnaeth cyflwr y Cristnog- ion yn fuan wedi ei esgyniad; ac yn nghyîch y flwyddyn 203, gwnaeth gyfraith i attal pawb o'i ddeiliaid i newid eu crefydd am Iuddewaeth nâ Christnogaeth, ac agorodd hyn ddrws i'r hyn a elwir y bumed eriedigaeth. Er nad oedd y gyfraith hon yn collfarnu y Cristnogion am eu bod felly yn barod, ond yn amcanu attal ych- wanegiad eu rhif, eto hiaroddodd achlysur i'r swyddogion gwancus i erlid y Cristnog- ion tylodion hyd farwolaeth, er mwyn rhwymo y rhai mwyaf cyfoethog i brynu eu rhyddid ar draul eu meddiant. Par- haodd yr erledigaeth hon yn nghylch wyth mlynedd, ac yn ei thymor merthyrwyd nifer fawr o Gristnogion, ac yn eu plith Leonidas, tad yr enwog Origen, am yr hwn y soniwn yn ol llaw, Victor, bugail eglwys Rhufain, Irenseus, bugail eglwys Lyons, yn Ffrainc, a'r gwragedd enwog Perpetua, a Ffelicitas, yn Carthage, ynghyd â Uu o rai ereill nad oedd y byd yn deilwng o honynt. Mae yn amlwg i'r erledigaeth hon ym- daenu drwy yr holl ymerodraeth, oddiwrth y gwahanol wledydd yn y rhai y merthyr- wyd yr enwogion, am ba rai mae hanes wedi dysgyn i'n dwylaw ni; ond dywedir mai yn yr Aifft a pharthau ereill o Affrica, a thalaethau Asia y bu y dyoddefiadau mwyaf erchyll. Yr oedd y Cristnogion y pryd hyn mor lluosog, fel y dywed Fox, fod merthyron yr erledigaeth hon yn aneirif; ac er cymaint oedd yn selio eu tystiolaeth â'u gwaed, cynyddu yr oeddent o hyd, yn ol tystiolaeth yr ysgrifenwyr Cyf. x. boreuol, fel mai nid peth anghyffredin oedd i rai ddyfod allan wrth ganfod gwrol- der y merthyron, i'w cydnabod eu hunain yn Gristnogion, ac i ymostwng i'r un creulonderau, gan gredu y derbynient goron y bywyd, yr hyn a farnent o fwy gwerth nâ mwyniant yr holl fyd. Ar fatwolaeth Severus, yn y flwyddyn 211, esgynodd ei fab Caracalla i'r orsedd, ac a deyrnasodd am chwech mlynedd, ac yn ystod ei Iywodraeth ni fu yn euog o aflonyddu y Cristnogion ei hun, na goddef i ereill wneuthur hyny. Canlynwyd ef gan Heliogabalus, un o'r ymerawdwyr mwyaf ynfyd a eisteddodd erioed ar orsedd Rhufain; ond ni bu ei deyrnasiad ond tua thair neu bedair blynedd, ac nid ym yn cael iddo ymyryd dimâg achos y Crist- nogion. Wedi i'r milwyr ladd Heliogaba- lus, dysgynodd y llywodraeth ar ysgwydd Alecsander Severus, yr hwn a fu yn ymer- awdwr rhinweddol iawn am dair-blynedd- ar-ddeg. Mae yn wir na ddileodd Alec- sander y cyfreithiau oedd yn bodoli yn erbyn y Cristnogion, ac o herwydd hyny i rai gael eu merthyru yn ei deyrnasiad, ond er hyny, mae yn hysbys ei fod yn ffafriol iawn iddynt, ac yn hynod o barod i'w haraddiflỳn pan fyddai cyfleusderau yn ymgynyg; ac mae rhai yn dywedyd iddo fyned mor belled a thalu rhyw fath o addoliad i awdwr Cristnogaeth, a chyfrifir hyn yn effaith yr addysg oedd wedi ei dderbyn oddiwrth ei fam Julia Mammsea, yr hon oedd yn coleddu barn barchus am y grefydd Gristnogol, ac wedi gwrandaw yn awyddus ar Origen, pan yn Antiochia yn esbonio gair y bywyd. Barn yr hanes- yddion yw, fod Alecsander a'i fam yn edrych ar y grefydd Gristnogol gydallawer o gymeradwyaeth, ac yn ei barnu yn deilwng o ymgeledd uwchlaw pob crefydd arall. Yr oedd yr eglwys yn awr wedi mwyn- hau mesur anarferol o dawelwch, am tua phedair-blynedd-ar-ugain, ond ar farwol- aeth Alecsander Severus, yn y flwyddyn 235, cyhoeddwyd Maximin yn ymerawdwr, drwy ewyllys y milwyr yn hytrach nâthrwy awdurdod y Senedd, ac yn fuan cyfododd y chwechfed erledigaeth yn erbyn y Crist- nogion. Yr achos o'r erledigaeth hon oedd fel y canlyn:—Yr oedd Maximin wedi anog y fyddin i ladd Alecsander, yr