Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. X.] MAWIITH, 1851. [Rhif. 111. BllTOIMraAB Y PAMHo W0 EL BA¥I1E BOẀL&ISo ■J9 Gan MATHETES. (Parhad o'r Rhifyn diwcddaf.) Yr oedd gaìiädofeddwl hynod o annibynol. Mae rhai o'r amgylchiadau cofnodedig yn proíi fod gandílo ei feddwl a'i ffordd ei hun. Ystyriai fod ganddo hawl i edrych ar y byd, a beirniadu ei bethau a'i ddynion ; ac yn gydsyniol â'r ystyriaeth a'r hawlfraint hono yr ymlwybrai. Syllai ar y byd, cy- meradwyai ei ragoriaethau, ffleiddiai ei ddrygioni, tosturiai wrth ei drueni, a chwarddai am ben ei ffolineb a'i ynfyd- rwydd. Wedi i mi ddechreu pregethu ychydig " yn y gyfeillach" yn Nowlais, cymhellodd fl gydag ef i Hirwaun un dydd Sadwrn ; cydsyniais wrth gwrs, a da cael y cynyg; ar y ffordd dywedai wrthyf, " Wel, John bach, mae yn rhaid i ti bregethu tipyn o fy mlaen i nos y foru yn Hirwaun." Dywedais inau y buasai y Caersalemiaid yn ein dysgyblu ni ein dau am hyny, ac y buasai yn well i ni " ddechreu yn Jeru- salem." " Ho, ho, paid di gofalu am , hyny," ebe ynteu, " gofala di am bregeth, Tni wna i o'r goreu â nhw." Ymostyngais inau i'r hyn a geisiai efe, yn hytrach nâg i deimladau fy hunan. Buasai gormod o ofn ar lawer i geisio gan ddyn ieuanc i bregethu mewn lle dyeithr, cyn dechreu yn gyhoeddus gartref; ond yr oedd annibyn- iaeth ei feddwl ef yn ei gadw rhag un dychryn ar yr achlysur. Nid yw yn debyg iddo erioed fod yn ddyn i blaiil, (party man) ond dyn i rinwedd oedd, gan nad yn mha le y bodolai hono ; mae gwahaniaeth dir- fawr rhwng fod dy« yn cylymu ei hun wrth blaid, ac fod ganddo ei gyfeillion neillduol. Yr ydys yn gweled oddiwrth y ffeithiau ag sydd wedi bod o dan sylw, nad oedd Mr. Davies yn peidio dweyd ei feddwl ar unrhyw bwnc, er mwyn digio un neu foddio y llall—mai ei feddwl ei hun ac nid eiddo ei gymydogion oedd y rheol wrth ba un yr ymlwybrai. Nodir amgylch- iad neu ddau yn mhellach yn gyfnerthol i'r cyfryw olygiad. Ysgrifena Mr. Rees, Treclyn, fel y canlyn, am un amgylchiad a ddygwyddodd yn ngymydogaeth Ebene- zer:—« Daeth galwad arno i bregethu i ardal yr Independiaid, ac i enwi plentyn, (yn ol yr arferiad pryd hyny,) a chlywodd eu bod yn dweyd y buasai arno ofn dweyd Cyf. x. dim ar fedydd y pryd hyny, gan fod eu gweinidog hwy yn dyfod yno ; (yr oedd yn pregethu allan gan fod yno dorf fawr wedi dyfod ynghyd). Cyn dechreu pregethu, gofynodd i dad y plentyn beth oedd ei enw 1 atebodd ynteu mai Margaret; wedi ymadroddi ychydig, dywedodd fod rhai o honynt efallai yn synu nad oedd yn bedyddio y plentyn ; ac ychwanegai, y bedyddiai hi. os gwnelai ateb y gofyniadau a ofynid gan yr apostolion yu gadarnhûol. " Wel, Mar- garet," eb efe, "A wyt ti yn creduî" Gofynodd yr un gofyniad iddi yr ail a'r drydedd waith, " chwi welwch," eb efe, wedi hyny, " ei bod mor fud a'r bedd, ac nid wyf finau yn ei bedyddio heb ateb y gofyniad hwn." Dywedodd hefyd, os nad oedd ef yn gwneuthur yn iawn, am i un neuraio honynt ddyfod i ymddyddan âg ef wedi darfod pregethu, ond aethant oll ymaith. Ychwanega Mr. Rees, "Cafodd ef neuLloydeibedyddiohi (Margaret)wedi hyny, pan oedd yn alluog i ateb y gofyniad, ac yn ddiolchgar am na fedyddiasid hi, pan nad oedd yn gwybod dim am gredu yn Mab Duw." Nid oedd yn arfer celu ei egwyddorion er mwyn sicrhau cymeradwyaeth y gym- deithas yn mha un y byddai yn aros; an- fynych iawn y llywyddid ef gan yr arwýdd- air, " Llawer gwir goreu ei gelu." Yn gyffredin, gwnelai ei feddwl ar ryw bwnc yn adnabyddus i rai a olygent yu wahanol, pan na fuasai un ystyriaeth neillduol yn galw am y cyfryw ddadguddiad. Yr amser cyntaf y daeth i Ddowlais, gwahoddwyd ef â i frawd-yn-nghyfraith i dỳ Mr. Roberts, un o ddiaconiaid Caersalem, i giniaw; a phan oeddent yn ciniawa, daeth un hen ŵr parchus o'r enw Joshua Prosser, blaenor gyda y Methodistiaid Calfmaidd yn Nowlais, i geisio gan Mr.Davies,ddyfod i addoldy y Methodistiaid i brçgethu y prydnawn hwnw, a pha gais y cydsyniodd ynteu. Wedi ciniawa, cynygodd Mrs. Ro- berts, ychydig o'rdafnau meddwol i gyfaill Mr. Davies; ond gan nad oedd iechyd Mr. Rees yn caniatâu iddo yfed y rhai hyny, dywedodd mewn joke ei fod yn ddirwestwr; wedi i*r hen frawd Prosser glyẁed yr