Skip to main content

Y BEDYDDIWE. Cyf. X.] CHWEFROR, 1851. [Rhif. 110. MYW(&R&Wm&3 Y PAMIL, Wo R> BAYIlESp Gan mathetes. Yn y Rhifyn diweddaf o'r Bedyddiwr darllenasom hanes cychwyniad Mr. Davies Fel Cristion, ac fel pregethwr, wedi ei ysgrifenu yn ddestlus a tharawiadol gan Mr. Roberts, o Ferthyr; a chawsom hefyd yr hyfrydwch o edrych ar ddarluniad natur- iol a chywir o hono am yr ysbaid y bu yn Athrofa y Fenni, gwedi ei dynu gan ei hen gyfaill, Mr. Prichard o Langollen. Llonwyd ni yn fawr yn yr olwg ar y blaguryn yn gwneud ei ymddangosiad o'r ddaear yn nghymydogaeth y Garn, yn Ngogledd Cyniru, a gwresogwyd ein myn- wesau gan yr olwg arno yu blodeuo ; hyderir yn mhellach, na fydd ein llawenydd yn llai, nâ'n mynwesau yn oerach, ond yn hytrach y cynydda ein Uawenydd wrth edrych aruo yu rTrwytho yn y winllan Gristnogol. Adeg sobr a phwysig i deimladau dyn ieuanc yw yr hon y byddo yn dechreu pregethu ; aml ynt ei ofnau, a lluosog yw ei ddychymygion ; gŵyr nad oes nemawr yn gwrando arno fel pech- aduriaid, ond fod y rhan luosocaf, os nid pawb, yn eistedd yn eu caderiau beirn- iadol, yn barnu ei athrawiaeth, yn mesur ei feddwl, ac yn pwyso ei athrylith : hyn, mewn cysylltiad àg ystyriaeth briodoî o bwysigrwydd pregethu a sobrwydd ei gan- lyniadau, a bâr iddo waeddi, " A phwy sydd ddigonol i waith mor fawr." Wedi pregethu am dymor yn yr eglwys artrefol ac yn y gymydogaeth, mae yr ofnau a'r pryder blaenaf yn cilio er rhoddi lle i bryder ac ofnau gwahanol,—o berthyuas i'r application, derbyniad i'r Athrofa, a chynydd mewn gwyhodaeth yn y cymeriad pwysig o fyfyriwr. Yn ystod y cyfuod athrofiiol, cleddir y teimladau hyu eto, a phryderdwysa gofal mawr am yr"alwad," ac amgylchiadau dyfodol y weinidogaeth a feddianant y fynwes: diau i Mr. Daviüs fel eteill fod yn ddarostyngedig i'r teim- ladau a nodwyd, tra ar ei daith o dywyllni y Gaerddu-bach, yn 6ir Gaernarfon, i binacl defnyddioldeb yn ngwasanaeth ei Arglwydd. Ar ol iddo lanw ei gawell- saethau.gweinio ei gleddyf a pharotoi ei fwa yn y Garn, ac yn y Fenni, dangoswyd iddo y man yn yr hwn yr oedd i ymladd dros Gadfridog Seion yn erbyn galluoedd y tywyllwch ; a'r He hwnw oedd Ëbenezer, Cyf. X. yn agos i Eglwyserw, yn sir Benfro. Wedi iddo dderbyn galwad unfrydol a gwresog o'r lle uchod, ac iddo ynteu ei derbyn, urddwyd ef yn weinidogar eglwys barchus Ebenezer, yn y flwyddyn 1824. Ar yr achlysur, holwyd y gofyniadau arferol gan yr hen frawd parchus Benjamin Davies, Cilfowyr; pregethwyd siars i'r gweinidog gan Mr. W. Evans, Aberystwyth ; a thra- ddododd Mr. D. D. Evans, Pontrhydyryn, (Caerfyrddin pryd hwnw) araeth ar ddy- ledswyddau yr eglwys at y bugail a dde- wisasai i'w bugeilio. Yn ganlynol i'r neillduad cyhoeddus i'r weinidogaeth, dechreuodd yn galonog a phenderfynol ar y gwaith mawr, i ba un y cysegrasai ei amser, ei dalentau, a'i gwbl ; iaith groyw ei ymdrechion oedd, " Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hafonodd tra yr ydyw hi yn ddydd, canys y raae y nos yn dyfod pan na ddichon neb weithio." Fel ag y mae Arglwydd y cynhauaf yn arfer ben- dithio hunan-ymwadiad ac ymdrechion ei weision âg arwyddion o'i foddlonrwydd i'w gwasanaeth, cafodd Mr. Davies y fraint arbenig o weled cyn pen uemawr o amser, nad oedd ei lafur yn nghymydogaethau Ebenezer, yn ofer yn yr Arglwydd. Dywed ei frawd-yn-nghyfraith. Mr. Rees, Treclyn, " Bedyddiodd o 80 i 100 yn Mhenybryn ; ac o bosibl, ganoedd yn Ebenezer." Nid oedd un capel gan y Bedyddwyr yn Eg- lwyserw, yr amser y daeth Mr. Davies i'r gymydogaeth ; ond wedi iddo dd'od i'r Ile, a siarad â rhai o blant yr Arglwydd o beithynas i gael teml i Dduw Jacob yno, penderfynwyd gwneud cais am dir, ac adeiladuaddoldy ynEglwyserw. Yr oedd Mr. Davies erbyn hyn wedi dod yn adna- byddus â Mr. Williams, Cwmgloyn, bo- neddwr cyfrifol, yr hwn a feddai dir yu ardal Eglwyserw ; a thrwy y cyfeillgarwch a fodolai rhwng yr ymadawedigâ'r bonedd- wr hwnw, llwyddwyd i gael tir gan Mr. Williams er adeiladu tỳ i Dduw y lluoedd. Yn y flwyddyn 1828, ymunodd mewn pri- oda3 â Miss Rees, Treclyn, yr hon oedd yn aelod yn Ebenezer, ac a barhäodd yn ymdrechol i'w ddedwyddu, hyd nes y gwnaeth brenin braw ddryllio rhwymau eu priodas. Bu iddynt dair o ferched, dwy o ba rai sydd yn awr yn fy w, ac yn ganlynwyr