Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDTDDIWR. Cyp. X.] IONAWR, 1851. [Rhif. 109. B1TW(&WlOTAB ¥ PAJROTo W0 R, BMIEë, BOWUJIg. Gan ROBERTS, Merthyr; PRICHARD, Llangollen;a MATHETES. Y mae ymadawiad enaid anfarwol o'r byd presenol i fyd ysbrydol, a sylweddol bob amser yn bwysig ac argraffiadol. Eithr pan weío Duw yn dda derfynu gyrfa, Hafur, a tbystiolaeth ei weision flyddlon— eu symud i ogoniant, y mae gweledfa yr ymadawiad—amgylcbiadau y symudiad yn bwysig neillduol. Y mae gwaith mawr a gogoneddus gweinidog yr efengyl santaidd yn cael ei ddibrisio gan lawer, ei wawdio gan ereill, eithr anrhydeddir ef gan Dduw. Mae y swydd yn bwysig, a symudiad un o'r swyddwyr yn ddyddorawl. Bu y flwyddyn cyn y ddiweddaf yn sobr i deulu- oedd, ardaloedd, ac eglwys Dduw. Bu farw aelodau defnyddiol, a gweinidogion llafurus yn nghanol eu defnyddioldeb. Ni anghofìr yn yr oes hon effeithiau angeuol angel dinystr, sef y Geri Marwol. Y prudd-der, y dychryn, y galar a achosodd ! yr hen, yr ieuanc, y baban, a'r canol oed yn syrthio yn ysglyfaeth i'w ymosodiadau dirdynol. Nid oedd nerth, iechyd, bywyd cymedrol, medrusrwydd meddygol, defnyddioldeb gweinidogaethol, na serch cyfeillion yn ddigonol i'w attal, onide buasai W. R. Davibs yn fyw. Ond y newydd ddaeth i'n clustiau y boreu oedd, " Mae Dafis o'r Dowlais yn glâf;" yn yr hwyr, " Mae gwedimarw;" dranoeth, " Mae gwedi ei gladdu." Ai breuddwyd yw bynî Nage medd ei gylchoedd gwâg, ei deulu galarus, ei eglwys bruddaidd, a'i gyfeillion hiraeth- lon—Ffaith yw ! " Ewyllys yr Arglwydd a wneler." Ganwyd W.R.Daties yn Ynysgain-fawr, plwyf Criccieth, swydd Gaernarfon, Mai 1, 1798. Mae swydd Gaernarfon yn enwog nid yn unig o ran uchder ei mynyddau alpaidd, ond hefyd o ran ei beirdd, a'i phregethwyr; ac er fod y Bedyddwyr yn ychydig mewn cymhariaeth, cyfododd yno gymaint pregethwyr, os nad mwy nag un sir yn Nghymru. Enwau ei rieni oedd Robert ac Elizabeth Davies, a chan fod nod- weddau y fam yn ffurfio eiddo y plentyn, yr oedd hithau yn wraig o gynheddfau cedyrn, a diysgog drr>- i hegwyddorion fel y cafodd llawer o ddauieuwyr Criccieth Cyf. x. wybod. Yr oedd W. R. Davies yr henaf o chwech o blant, sef tri mab, a thair merch, o ba rai y mae tri yn fyw, sef mab a dwy fercb. Bu W. R. Davies yn aros yn Ynys- gain-fawr hyd onid oedd yn bedairblwydd a haner oed, a dangosai y pryd hyny y parodrwydd meddyliol a'i hynodai drwy ei oes. Pau oedd William o bedair i bump mlwydd oed symudodd oddiwrtb ei dad a'i fam at ei daid a'i nain, sef rbiaint ei dad, i dyddyn o'r enw y Gaerddu-bach. Pan oedd o wyth i naw mlwydd oed digwydd- odd i ddau gymydog ymrafaelio, ac ymladd, a darfu y naill erlyn y llall â chyfraith, ac aethant o flaen Counsellor Nauney, o'r Gwynfryn. Yr unig dyst a'u gwelodd oedd William bach; yno wele y tyst bychan, gwridgoch, yn sefyll gerbron y boneddwr enwog. Gofynodd y boneddwr, " Wel, fy machgen i, a ellwch chwi ddy- wedyd pa fodd y bu V Ateb, " Gallaf." Gofynodd, " A ellwch chwi gymeryd eich llŵT "Gallaf." "A wyddoch chwi beth yw llŵ 1" " Gwn." " Beth yw e 1" " Dywedyd y gwir V* " Da machgen i," meddai y boneddwr. Gofalodd éi berthyn- asau am ysgol iddo pan ýn dra ieuanc; bu mewn ysgol yn amryw fanau, megis Capel Fonhadog, Bryneinion, a Llangybi, ac yr oedd ynddo lawer o barodrwydd i ddysgu. Pan o ddeuddeg i dair-ar-ddeg oed dech- reuodd fyned i'r Garn i wrandaw ar y Bedyddwyr yn pregethu. Yr oedd yn hynod ei weled yn teithio tua chwech milldir, ar hyd ffordd mor annymunol ag oedd o'r Gaerddu i-r Garn, heb un cyfaiir; canys Anymddibynwyr a Threfnyddion Calfinaidd oedd yn ei gymydogaeth èf,' a'r Bedyddwyr yn wrthrychau rhagfarn a gwawd. Er hyny, parhau i Wrando yr oedd ef, hyd oni ddechreuodd y gwirionedd wreiddio yn ei feddwl, ac yna ymwasgodd û'r dysgyblion, ac ymunodd â'r brodyr yn y Garn, ac efe a fedyddiwyd yuo Mai 12, 1817, gan yr hen bererin duwiol Evan Evans, ac y mae y ddau yn awr, sef yr hen ŵr syml, a'r bachgen pen-felyn yn cyd-goroni yr Oen á arddelwyd y pryd hyny. Gwelwn wroldeb moesol! Ei weled