Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Ç«. IX.] EHAGFYE, 1850. [Rhif. 108. PABYDDIAETH. *« Ac ar ei thalcen yr oedd enw gwedi ei ysgrifeni, DlRGELWCH BaBILON Fawr, Mam PüTEIN- IAID, A Ffieidd-dra'r Ddaear."—Dat. xvii, 5. Er amser yr undeb anghyfreithlon a ffurfiodd yr Ymerodr Cystenyn Fawr rhwng y wlad a'r eglwys—er yr amser y perffeithiwyd halogrwydd yr undeb hwnw gan Gregory Fawr—ei' y bedwerydd ganrif, nid yw y diafol wedi bod mor ffodus a dyfeisio uupeth ag sydd wedì bod mor ddinystriol i gynydd achos y Gwaredwr, a pheirianwaith " y dyn pechod"—Pabyddiaeth ; ac nid oes un enwad wedi dyoddef mwy nâ'r Bedyddwyr oddiwrth erchylldod y peirianwaith hwnw; y mae eu hegwyddorion rhyddgarol wedi bod yn ddrain yn ystlysau " mab y golledigaeth " er dydd ei enedigaeth, ac y mae ynteu gwedi arllwys ei holl aüu dinystriol arnynt, a phob dyfais ac amcan wedi cael eu disbyddu i attal lledaeniad yr heresi a elwid gan uu pabydd yn " Un o'r heresiau hynaf yn y byd ;" teimlasant angerdd y tân yn mhlith y rhan amlafo genedloedd Ewrop cyn i oleuadau Luther a Chalfin dafiu gwawr ar gaddug Rhufaiu, ac er y gobeithient fod awr eu rhyddhad wedi dyfod yn y diwygiadau hyny, cawsant eu siomi, canys derbyniasant o law Calfin, gan nad beth am Luther, y gwrthwynebiad mwyaf, ac un o'r prif gyhudd- iadau yn erbyn y gŵr ag yr yfodd Calün ei waed, oedd, ei fod yn gomedd bedyddio babanod. Ond er yr holl alanas, y mae y Bedyddwyr wedi sefyll rhuthriadau ffyrnicaf 44 pyrth uffern," ac wedi dàl at burdeb eu daliadau oddiar amser Bedyddiwr y diffaeth- wch hyd yr awr hon. A ydynt wedi dioddef a ddioddefant! Ofnwn nad ydynt, a chadarnheir ni j'n ein tyb gan gynydd buan Pabyddiaeth. Pan y meddyliom mai prif ffrwd y cynydd hwn ydyw taenelliad babanod, nis gallwn lai nâ galaru fod y rhan luosocaf o'r rhai a fynant i ni eu hystyried yn Gristnogion yn cofleidio y ddefod anysgrythyrol hono gyda'r un serch a Ehufain ei hunan—melldith y byd Cristnogol, a phrif golofn pabyddiaeth, a fu ac a fydd y ddefod hon, ac hyd oni ddifethir hi gan Ysbryd yr Arglwydd, nis gallwn ddys- gwyl ond am gynydd Pabyddiaeth. Ac, ysywaeth! y mae pob peth, yn Lloegr o leiaf, yn cydweithio er cynyddu y cynydd hwnw ; y mae ein Heglwys Sefydledig yn nyth i Babyddiaeth, ac y mae y Wladwriaeth âg edyn euraidd yn dëor arni; y mae cyw ar ol cyw yn ymddangos, ac er fod llawer o'r clerigwyr yn dewis trigo dan yr aden glýd am dipyn eto, y maent yn hiraethu am weled goruchafiaeth y Pabyddion ; y mae llawer o fawrion ein gwlad yn crwydro ar ol " dirgelwch Babilon ;" ac y mae dwy brif Athrofa Brydain yn faethleoedd i ledrith a chyfeiliornadau. Y mae y rhai yna yn ddywediadau pwysig ac ëofn, ond gan nad faint eu pwys a'u hëofndra, y mae eu geirwiredd yn ogy- maint, ac y maent wedi tynu sylw y Pab at ei achos yn Mhrydain ; y mae Wiseman, yr hwn a fu gynt yn offeiriad o'r eglwys sefydledig, wedi cael ei wneuthur yn ís-bab (cardinal)—y mae yr ynys wedi cael ei dosbarthu i ddeuddeg o esgobaethau, dwy o ba rai sydd i fod yn Nghymru ; yr archesgobaeth i fod yn Westminster, Llundain, ar yr hon y mae'r Cardinal Wiseman i fod yn llywydd. Gelwid y llythyr a hysbysai y newydd o'r dosbarthiad yna yn un " Apostolaidd," ac y mae gwedi achosi defi'iöad eyfìredinol drwy'rdeyrnas, ond nid yn neb yn fwy nag yn nghlerigwyr eglwys Lloegr; nid ydym, y mae yn rhaid cyfaddef, yn teimlo dim dros loesion yr eglwys halogedig hon yn ei chyf- yngder presenol, canys hi sydd wedi tynu y sarhad hwn arni ei hun ; ac yn wir nid yw y Pabydd ond ceisio adfeddianu yr hyn a ddygodd yr Eglwyswr oddiarno, a gweithred- iadau rhai o'i hesgobion gordâledig sydd wedi anog "ybwystfil" i agor ei safn am Brydain : ac hefyd, onid oes gan y Pab gymaint o hawl i fod yn ben ar eneidiau Pryd- einwyr ag sydd gan rhyw ddyn neu ddynes farwol arall. O na adewid y deyrnas nad yw o'r byd hwn i ymladd ei ffordd heb gynorthwyadau galluoedd gwladol! "Eiddo'r Arglwydd yw y rhyfel," a thyma brawf nas gall nodded penau coronog y ddaear attal rhediad ffrydlif cyfeiliornadau. Y mae Eglwys Loegr, yn synu yn awr at ëofndra Pius y nawfed, yn lle agor ei Ilygaid i weled twyll a rhagrith cyfundraeth anysgrythyrol ei hunan! Y mae ein heglwys sefydledig, bob amser, wedi dangos rhyw duedd mwy neu lai i gymeryd y Hwybr sydd yn arwain i ítufain, ac y mae gwedi rhoddi ffordd i'x duedd..,. Cvf. IX. 2y