Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWE. Cyf. IX.] TACHWEDD, 1850. [Rhif. 107. T ©TMBEITHAS EEBBWCHo " Yr ydym yn ddyddiol yn gwneuthur gwelliadau mewn athronyddiaeth anianyddol, ac y mae un a garwn weled yn y foesol—caffaeliad trefn a ddeuai ac a wnaethai i bob cenedl i benderfynu eu dadleuon heb dori gyddfau eu gilydd."—Franrlin. Yn ein Rhifyn diweddaf rhoddasom fras-linellau Cymanfa fawr Ffrancffort, yr hon, a'i chyffelyb, sydd yn cynyg yn deg am gaffaeliad y drefn a lenwai fonwes yr anfarwol Ffranklin â dymuniad taer, a'r hyn nis galiai ei fedr a'i athrylith goruchel ef amgyffred na Uunio. Y mae yn sicr fod y rhai sydd yn hoffi llafurio dros gynydd moesol eu cyd- greaduriaid, yn edrych gyda theimladau o ddyddordeb nid bychan ar gyfarfodydd blyneddol pleidwyr heddwch cyffredinol. Y mae Brydain, Belgium, Ffraine, a'r Almaen wedi rhoddi groesawiad serchog i gynnyrchioliad galluog, i'r hwn yr oedd rhan fawr o Ewrop wareiddiedig, ac hyd y nod y byd llewinol, wedi cyfranu; ac y mae y dyddordeb ag y mae eu gweithrediadau gwedi ei gyffroi yn awr wedi cyfodi eu hymgais dduwaidd uwchlaw yr enw distadl o " gasteli yn yr awyr." Gorchymyn ein Hiachawdwf bendigedig yw—" Gosod dy gleddyf yn dy waun ;" nid dyna nerth y peiriant sydd yn gwareiddio y byd. N id yw gwir grefydd, gwir gyfiawn4ei# na gwir ryddid, yn gofyn arfau dinystriol er eu lledaenu. Y mae eu hegwyddorion yn fwy nerthol nâ phylor a dûr, a gallant amddiffyn eu hunain. Nid yw eu llwytho & chleddyf a magnelau amgen nâ gwanhau eu grym. Yr oedd cenadau Ffrancffort yn groesgadwyr o'r argraff wirioneddol, a gallant yn gyfìawn ysgrifenu ar eu llumanau,— "Gogoniant yn y goruchaf i Dduw. ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da." Dylai holl ddarllenwyr Y Bedyddiwb astudio gweithredoedd ac effeithiau rhyfel, canys hwynt-hwy a'u bath ydynt y rhai a effeithir fwyaf ganddo. Un o'r areithwyr mwyaf hyawdl yn Nghymanfa Ffrancffort, M. De Cormenin, un o aelodau seneddol Ffrainc, a ddywedai—" Y mae yn rhaid 't ni osod y mater yma, nid o flaen llywodr- aethau, y rhai sydd yn gorchym'yn rhyfel; nid o flaen cadfridogion, y rhai sydd yn brwydro ynddo; nid' o flaen uchelwyr a thrafnidwyr, y rhai sydd }n elwa wrtho; nid o flaen beirdd, y rhai sydd yn canu clodydd iddo; ond o fiaen y bobl, y rhai sydd yn talu am dano. Y mae y bobl yn gwaedu, yn eu cyrff a'u pyrsau, er ei ddwyn yn mlaen, gan hyny y mae yn perthyn mwy iddynt hwy i'w ddwyn i'r pen draw nag unrhyw gyfran o'r wladwriaeth; oddiyma gwelwn fod yn rhaid i ni siarad am dano, nid gymaint yn y llŷs, y palas, y senedd, na'r uch-neuadd, nac hyd y nod ynNghymanfa Heddwch, ag yn y gweithdy." Y mae y broddegau yna yn haeddu cael eu hargraffu mewn llythyrenau diamwnt, a dylai pob gweithiwr graffu arnynt, eu dysgu, a'u hamgyffred yn fanwl. (a) F bobl sydd yn talu am Ryfeloedd. Y mae cyfoeth cenedl yn cyfodi oddiwrth lafur. Nid oes dim braidd yn dyfod yn werthfawr hyd ues y pasia law y gweithiwr. Pa wasanaeth ydyw meusydd os na bydd dynion i'w trinî Gallasai cynyrchion îr y ddaear fyned i'r domen oni bai llafur y celfyddydwr. Y mae yn rhaid cyrchu cynyrch- ion ein mwngloddiau o ddyfnderoedd y ddaear, a chyn y delont yn feteloedd y mae yn rhaid cael llafurwaith gwrywod, benywod, a phlant; gan hyny y mae yn amlwg fod holl drethau y wlad yn cael eu talu gan y bobl. Ni byddai gan yr uchelion, y mar- siandwyr, y gweithfáwyr, a'r crefftwyr, yr un ffyrling i roddi i'r gyllidfa oni bai y miliwnau llafurgar. Gall delw ac arysgrifen y teyrn, neu y llywodraeth, wneuthur y copr, yr arian, a'r aur yn dderbyniol; ond y mae yn rhaid cael gì'au, cyhyriau, a chwŷs y bobl, cyn y galloch gael dim metel i ddanfon i'r bathdy. Ac fel hyn gellir dywedyd fod ein Uafurwyr o'r ddwy ystlen yn talu nid yn unigeutrethau eu hunain, ond eiddo y genedl; a chan hyny, pe darostyngid y trethiant, gallasai meistri roddi taliadau uwch idd eu gweithyddion, a chynyddu eu cysuron yn filfwy. Ac un prif foddion o ddar- ostwng y trethiant yw, diddymiad y byddinoedd segur, a sefijdliad heddwch cyffredinol. Eto, uid'yn unig y mae y bobl yn cynyrchu trethau y boneddion a'r uchelwyr, ond y ______ .1 1 f 1 /* _1 _* 7 ___;•______11 * .ir,- — #-. _-_ »,»-, 1.I1 *-m rwn •._—_-**-_ n **n 11 _-. — «TtI n A JSTfm fran .yaf a brynid am danynt. Y"n awr, ni \vna" un dyn yn bersonol, ar gyfartaledd, fwyta mwy nâ <lyn arall; ac, o ganlyniad, os yw eu cyfoeth yn amrywio, y mae yr hwn nad yw yn derbyn ond ychydig sylltau yn yr wythnos, yn talu yn ani'eidrolfwy mewn cymhariaeth Cyf. ix. 2 s