Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. IX.] HYDREF, 1850. [Rhif. 106. BYWGMIMAB Y PÄMHo THOMÄB THOMAS, Nid oes uü rhan o ddysgeidiaeth ddynol, ysgatfydd, yn fwy pwysignâhanesyddiaeth, nac un rhan o hanesyddiaeth yn fwy buddiol nâ bywgraffiadau y rhai sydd weui treulio eu dyddiau yn ofn Duw, ac wedi defnyddio eu galluoedd i wasanaethu eu cenedlaeth yn ol ei air ef. Er y dichon na byddant wedi troi mewn rhyw gylch mawreddog, nac wedi cyflawni rhyw orchestwaith arbenig, eto fe ganfyddir ynddynt yn eu cylch eu hunain deithi teilwng o efelychiad eu gorfucheddwyr, a rhinweddau a wnant eu coffa- dwriaeth yn wir fendigedig. Mae yn wirionedd nad oes genym ffeithiau hynodion i'w cofnodi jn hanes bywyd Thomas Thomas, yn gymaint ag iddo ddilyn ei yrfa yn llonydd ac yn dawel, heb un uchel-ymgais at ddim, amgen nâ gwasanaethu ei Dduw gyda gostyngeiddrwydd diymwad, a llesoli ei gyd-ddynion yn ol mesur y dawn oedd wedi ei ymddyried iddo; eto fe welwyd yn ei gymeriad nodweddau rhinweddol, o fwy gwerth yn ngolwg Duw, ac o fwy pwys yn nghyfrif dynionduwiol, nâ'r holl ddyfais a'r gwrolder sydd wedi enwogi rhai o'r gwroniaid enwocaf yn marn plant y byd hwn. Yr oedd gwrthrych y cofiaiit hyn yn fab i Thomas ac Ann Thomas, ac yn un o bump o feibion a aned iddynt, pedwar o ba rai a gawsant fyw i fod yn ddefnyddiol iawn i achos crefydd yn mhlith y Bedyddwyr, yn Mro Morganwg. Fe'i ganed mewn lle a elwir y Granshis, yn mhlwyf Llancarfan, yn y tìwyddyn 1781. Nid ym yn deall iddo gaelunfantaisarbenigonaturgrefjddol yn ei febyd, ac nid ym yn cael dim yn neillduol yn ei hanes yn y tymor hyny o'i fywyd, ac nid yw hyny yn un rhyfeddod gan ei fod yn byw gyda ei rieni mewn Ue hollol wledig, ac yn dilyn ei alwedigaeth fel plentyn ffermwr heb fyned nemawr allan o gylch y teulu; a chan nad oedd addysg y pryd hyny yn cael ei werthfawrogi fel y mae yn awr, na chyfieusderau addysgiadoi mor gyrhaedd- adwy ag yn bresenol, ni chafodd ond ycbydig neu ddim o fanteision o'r natur hyny, sef cymaint yn brin iawn ag a farnid yn angenrheidiol i ddilyn ei alwedigaeth, fel ereili o'i gymydogion a symudent yn yr un cylch. Yn nhrefn rhagluniaeth, fe symudodd y teulu yn mhen blyneddau gwedi geni ei mab Thomas, i fyw yn mhlwyf St. Nicholas, mewn lle a elwir y VianshilL Nid oeddent bell yno oddiwith gapel y Bedyddwyr yn Nghroesyparc, a byddent yn cyrchu yno i wrando gair y bywyd. Fe welodd Duw yn dda i iendithio y moddion a weinyddid yno er argyhoeddiad i John Thomas, y mab hjnaf yn y teulu, yr hwn wedi hjny a fu yn bregethwr ac yn weinidog yn mhlith y Bedyddwyr am dymor hir. Wedi rhoddi boddlonrwydd i'r brodyr o barth ei ffydd a'i edifeirwcli fe'i bedjddiwjd ac a'i derbyn- iwyd yn aelod yn Nghroesyparc, ac yn ganlynol i hyn fe agorwyd drws y Tianshill i genadau Crist i bregethu efengyl iachawdwriaeth. Yn y cyfamser, am yr hwn yr ym jn awr yn son, fe ddaeth gweinidog o sir Gaerfyrddin ar gjlchdaith drwy yr ardal, ac fe bregethodd yn nghymydogaeth Croesyparc, ac yn mysg manau ereill yn y Vianshill, fel yr oedd ereill yn arfer gwneuthur. Cafodd Thomas Thomas ei ddwys argyhoeddi o'i gyflwr colledig dan ei weinidogaeth, fel y gorfu iddo lefain am faddeuant ar sail iawn mawr y groes; ac yn lled fuan fe ymwasgodd â'r brodyr yn Nghroesyparc, ac fe'i bedyddiwyd ar broffes o'i ffydd gan Mr. John Éichards, pan yn 17eg oed. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1798. Nid hir y bu y brodyr wedi iddo gael ei dderbyn heb farnu ei fod yn meddu cym- hwysder at waith y weinidogaeth; ac wedi ymddiddan âg ef yn yr achos rhoddasant anogaeth iddo arfer ei ddawn, yr hyn a wnaeth yn yr eglwys a'r gymydogaeth gyda gradd o gymeradwyaeth. Ond yn lled fuan wedi iddo ddechreu pregethu, fe gododd ymrafael nid bychan yn yr eglwys yn nghylch barn am athrawiaethau crefydd. Yr °edd amryw o weinidogion y Bedyddwyr drwy ddeheudir Cymru y pryd hyn yn tueddu at y gyfundraeth Arminaidd, ac yn eu plith yr oedd Mr. John Richards, gweinidog Croesyparc. Dywedir mai Mr. W. Richards, o Leyn, yr hwn oedd ŵr tra dysgedig, ac yn enedigol o sir Gaerfyrddin, oedd arweinydrí y blaid Arminaidd yn y cynhwrf gofiduB hyn drwy y wlad, ond bydded hyny fel y byddo, fe ranodd eglwys Croesyparc yn yr ymrafael, ac fe ymadawodd y blaid Arminaidd o'r capel gyda Mr. John Cyf. ix. 2 o