Skip to main content

Y BEDYDDIWE. Cyf. IX.] MEDI, 1850. [Rhif. 105. SBFOJLM BlSSSHdDI A BYIiraSWYBBAU Y BEBYBBWYE, Gan y Parch. Benjamin Godwin, D.D. (Parhaâ o'r Rhifyn diweddaf, tud. 233). Ni âdyîem ganìatâu i unrhyw neillduolion ymyraeth â'n hymroddiad i'r anturiaeth gysegredig hono, i'r hon yr ydym ni ynghyd â'r holl eglwys Gristnogol wedi ymrwymo. Dylai y dyben hwnw gael y flaenoriaeth ar bobpeth. Y mae hwn i gynhyrchu chwtl- droad moesol mawr drwy y bellen ddaearol. Y máe i ffrwytho yr oll o'r gymdeithas ddynol âg egwyddorion yr efengyl. Y mae i sylweddoli amgyffrediad cyflawn yrerfyn- iad hwnw, " Deued dy deyrnas, gwneler dy ewyllys, megis yn y nefoedd, felly ar y ddaear hefyd." A chan nad pa eithriadau sydd wedi bod, credwyf mai hyn yn benaf sydd wedi bod yn brif ddyben gan y cyfenwad yma. Tybiwyf nad oes llawer o gyfundebau o faban- fedyddwyr yn y rhai y sonir Hai am fedydd nag yn y cyfenwad hwn. Ond yn yr oes hon o ddadleuaeth, sydd a chynhyrfíad diflin tybiau ynddi, y mae yn angenrheidiol i ni Tod ar ein gwyliadwriaeth, feî na byddo i ni golli golwg ar ein dyben .uawr,—helaethiad teyrnas Crist; fel na byddo i ni ganiatâu i ddim droi ein meddyliau oddiwrth hyn; fel y byddo i gyfenwad y Bedyddwyr yn mblith ystŵr ac ymdrech, a chyd-darawiad par- haus pìeidiau, fyned yn y blaen yn ddianwadal, a chyda sêl gynyddol i ddilyn y gwaith mawr yma, yn nhref ac yn nhramor; gan geisio dychweliad pechaduriaid at Grist, adeiliadaeth ac heìaethiad yr eglwys, efengyleiddiad y bobl, ac addysgiad yr ieuenctyd. Ac y mae yn deilwng o sylw, mai pan yr ydym ni yn gweithio fel hyny, y mae ")uw gwedi rhoddi cynydd i'r cyfenwad yma. Nid tra yr oeddem ni yn uniongyrchol, neu yn benaf, yn taenu ein neillduolion, neu yn ceisio belaethiad a dyrchafiad ein cyfenwad, y mae efe yn ystod o ddeutu tri ugain mlynedd wedi cynyddu rhif yr eglwysi yn oedwar-plyg, a'i nerth a'i ddylanwad yn fwy nâ hyny, cnd tra yr ydoedd ei adnoddau yn cael eu defnyddio yn nghynaliaeth ac helaethiad efengyl Crist. A thyma y ffordd y mae yn rhaid i ni fyned yn y biaen, os ydym yn disgwyl Uwyddo, heb wneuthurunrhyw arddangosiad rhodresgar o'r hyn ydym wedi wneuthur, nac o'r hyn a allwn ei wneud, heb geisio cymeradwyaeth o un math, heb ddefnyddio unrhyw foddion estronol i'r gwirionedd, ond gyda symirwydd a ffyddlondeb yn ceisio gogoniant Duw, ac iachawd- wriaeth dyn. Er na ochelodd un o'n gwýr mwyaf a defnyddiolaf rhag arddeliad cyflawn o'n barnau, eto nid i wneuthur Bedyddwyr y Hafuriodd Ffwler, y pregethodd Hall, nac yr aeth Carey i'r India. Y mae yn beth pwysig i wellhau camsyniadau yr eglwys, ond y mae yn ddyben mwy gogoneddus i ddychwelyd y byd. Pwy nad ystyriai y byddai hi yn fwy o anrhydedd iddo i fod yn foddion i achub un pechadur nag i ryddhau amyn un pum' ugain o'i gyd-Gristnogion oddiwrth eu camsyniadauarfedydd? Y mae Duw gwedi rhoddi i ni, fel cyfenwad, rhyw allu. Y mae efe gwedi ein cyfodi o sefyllfa o wendid mawr i un o gryfder a dylanwad cymhariaethol. Y mae gan y corff yn awr, sefyllfa lawer mwy gwahanol mewn cymdeithas i'r hyn oedd ganddo haner can' mlynedd yn ol. Bydded i ni, gan hyny, ystyried ein hunain yn ddyledwyr, o'n holl swm o'n galluoedd cynyddedig, i achos yr Hwn a'n p'ia, a'r hwn ag ydym yn ei wasanaethu ; fei y byddo i'r holl eglwys Gristnogol fod dan yr angenrheidrwydd i gydnabod nad yw ymlyniad wrth ein neillduolion yn lleiliau ein sêl dros iachawdwr- iaeth y byd; ac fod cyfenwad y Bedyddwyr yn cymeryd ei ran gyflawn yn helaethiad teyrnas anwyl Fab Duw. Tdosbarth olafo ddyledswyddau a gafeu hystyried a gynhwysant y rhai hyny ag sydd ynddyledus ar gyfenwad y Bedyddwyr iddo ei hunan. A rhaid i mi gynddelwi y rhan hyn o'r araetb yn Hawer mwy byr a buan nag yr haedda. Os yr ydym fel corffi gymeryd ein sefyllfa briodol yn mhlith llwytbau ein Israel ysbrydol:—os ydym i ateb yn effeithiol ddybenion ein bodolaeth fel cyfundeb gwahanol, ac, ar yr un pryd i gynal ein rhan yn dda yn y symuéiad cyffredinol i efengyleiddio y byd, y mae yn hollol amlwg y dylai yr oll a ellir ei wneuthur i gael ei wneuthur, er cyd-gorffoli, gwellhaa, a bywioe&u y cyfenwad. Dyoddefwoh i mi, gyda phob rhyddid ac onestrwydd, i enwi ychydig bethau sydd wedi dyfod i'm meddwl. Cyf. ix. 2k