Skip to main content

Y BEDYDDIWE. Cyf. IX.] AWST, 1850. [Rhif. 104. SEIPTOLIPA BmESJEHOL A BYLIB&WYBBÂU Y Gan y Pabch. Benjamin Godwin, D.D. Araeth a draddodicyd yn Nghyfarfod Blyneddol Undeb y Bedyddicyr, Ebrill 19e<7, 1850. Meddyliais, anwyl frodyr, fy mod wedi cymeryd fy ymadawiad olaf a'r cyfarfodydd blyneddol yma pan, o herwydd oedran a phellder oddiwrth y brif-ddinas, y gwrthodais wasanaethu yn mhellach ar gysawd ein cenhadiaeth; ond darfu i gais tyner a pharchus Cysawd Undeb y Bedyddwyr, yr hwn a gyflwynwyd gan fy hen gyfaill yr Ysgrifenydd mewn modd mor frawdol, gyfnewid fy mhenderfyniad; ac yr ydwyf eto yn cael fy hun yn mhlith y rhai a gerir ac a berchir genyf er ys amser maith, gyda y rhai yr ydwyf wedi ymhyi'rydu cyd-weithio, ac â'r rhai y rnae genyf obaith siriol i gyfarfod eto yn nheyrnas ein Harglwydd. Nid heb betrusdod pwysig, modd bynag, yr ufuddh'áais i'r cais. Fy argrafHadau cyntaf yn wir oeddent yn gadarn yn erbyn cydsyniad—nid o ran unrhyw ddifaterwch am y fath gais, nac oddiwrth unrhyw anewyllysgarwch i roddi unrhyw gynorthwy yn fy ngallu i'r cyfarfodydd dyddorol yma, ond am yr amheuwn pa un a allwn gyflwyno rhywbeth ar lûn araeth a fyddai yn deilwng o sylw a derbyniad yr Undeb. Ond tra yr oeddwn yn ystyried y mater ymddangosai fod y rhwystr yn lleihau, ac fei golygfeydd soddawl, cyfnewidiasant yn raddol o'r bynoedd ynfrawychusi'rhynoedd ynddeniadol. Cofiais fy mod yn wastad wedi derbyn cymaint o diriondeb brawdol ag i sicrhau i mi y cawsai beth bynag a allaswn fod yn alluog i'w ddywedyd ei dderbyn ynonest—yn enw- edig, gan na ddywedwn, heb unrhyw ymgais at orchestwaith, ond ychydig bethau sydd wedi dygwydd dyfod i'm meddwl, o barthed i leshad ein cyfenwad, yn syml a rhwydd- galon. Cefais fy anog yn fwy parod i gydsynied gan i destun ddyfod i'm meddwl ar unwaith, yr hwn, pe gellid ei drin yn iawn, a fyddai, fel yr ymddengys i mi, yn un cymwys a buddiol, a thyna yw ef, Sefyllfa bresenol a dyledswyddau Cyfenwad y Bedydd- wyr. Gan y gallai y fath destun lanw cyfrol, yr oll a gynhygaf fi ydyw braslun. Gellir ystyried Cyfenwadaeth fel damwain anoehelgar i Gristnogaeth. Nid yw yn anhebgorol iddi, nid yw yn gwneúthur i fyny ran o honi, ond nid yw yn anghydweddoí à hi. Gyda thueddiadau ein natur ac anmherffeithrwydd ein sefyllfa bresenol, nis gellir braidd ei ochelyd; oni attelier ymarferiad cydwybodol barn bersonol, neu fod difaterwch tuag at yr hyn a ganiatêir i fod yn wirionedd pwysig; a byddai pob un o'r ddau yna yn rwystr uchel i leshad crefydd. Os ydyw neillduolion rhyw Gristnogion proffesedig yn cael eu hystyried yn gyfeiliornad dinystriol, y mae yn sicr fod y cyfeil- iornad hwnw yn llai niweidiol pan y byddo ei gefnogwyr yn gweithredu ar benau eu hunain, na phan y maent wedi eu cymysgu fyny yn ddiwahaniaeth, ac wedi eu hunoli â'rrhai hyny sydd yn dàl y gwirionedd. Ac os yw yr amrywion hyn yn bod o barthed i ranau is-raddol cyfundraeth yr efengyl, pa beth sydd yn hyny yn groes i anian C'rist- nogaeth, neu ysbryd gwir gariad, yn yr undeb agosach a'r cyd-gyfeillach mwy aml o'r rhanau hyny o'r teulu mawr Cristnogol, y rhai a feddyliant fwy yr un fath am ẁîrion- edd crefyddoll Onid ydym wedi cael allan drwy brofiad fod y modd yma o gychwyn yn fwy ffafriol i heddwch, a'i fod yn rhwyddhau ymegniad dirwystr a chydymgyfar- fyddo'1 Ac nid yw y gwahanol enwau a ddyga y cyfundebau hyny, yndangos unrhyw rwygiadau eglwysig yn y corff Cristnogol; yn unig arwyddocânt rhyw drefniadau, neu neillduolion a wahaniaethant y naill a'r llall o'r rhai ydynt fyth yn un yn Nghrist. Oni allwn ofyn yn ddiogel, pa bryd y mae Heshad bywiol Cristnogaeth wedi bod mewn gwell cyflwr, nâ phan yr ymrestrodd gwir ganlynwyr y Ceidwad eu hunain o dan eu gwahanol fanieri cyfenwadolî A phryd y bu crefydd mewn mwy o berygl nâ phan y rhoddai un cyfundeb ei enw i holl Gred 1 Gallwn fyned yn mhellach, a gofyn pwy ydyw y personau y rhai, yn gyffredinol, sydd yn gwneuthur fwyaf i helaethu teyrnas Crist, y rhai sydd yn ymdrechu yn fywiog, yii barhaus, ac yn gadarn yn amrywiol ddos- barthiadau defnyddroldeb Cristnogôl, yn nhref ac yn nhramorl Ai y rhai hyny ydynt y rhai dan broffes baelfrydedd rhagorach, a golygiadau mwy cywir, a ymwrthodant â phob gwahaniaeth cyfenwadol, neu y rhai hyny a hynodir yn fawr gaa ymlyniadau Cyf. IX. 2 F