Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWE. Ctf. IX.] GORPHENAF, 1850. [Riiif. 103. ANERCHTAD AT GORFF ENWOG YR ANNIBYNIAID YN NGHYMRU. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf, tud. 170). NlD drwg oedd genyf weled, ychydig flyneddau yn ol, fod cymydogaethau helaethioii yn yr Amerig, lle mae Cynulleidfäolion (math o Annibyniaid) a Wesleyaid yn dra ìluosog. wedi taflu bedyddbabanod yn hoilol i'r glwyd, ac eto yn parhau i aros ar yr un enwadau. Mil gwell yw bod heb unrhyw fedydd, na bod pobl ar yr enw o Anni- byniaid yn arddel y brif golofn sydd yn cynal i fyny ymddibyniaeth a gwladwriaeth eglwysig. Ni ddeallais fod neb o honynt y pryd hwnw wedi plygu i fedydd gwirfoddol, ond yr oeddent yn gweled y bedyddgorfodogol yn-beth rhy wael a dirmygus i'w arddel. Gwn, oddiwrth natur petliau, ei fod yn ddarostyngiad mawr i synwyr milüedd o'r brodyr mwyaf deallus yn eich plith chwithau, i gydfl'uifio mewn peth mor isel a disail ; a gwn hefyd, ar yr un sail, fod Haweroedd o'm brodyr gweinidogaethol llygadlym a deallus yn eich píith ag ydynt yn hollol allan o'u helfen wrth geisio gweinyddu peth mor llib- inaidd. Ni ddeaîlais erioed fod neb o honoch yn cymeryd arnynt eu bod yn cael un fath o hwyl nefol yn y seremoni fach, na bod cymaint ag un erioed wedi proff'esu mai dan y y weinidogaeth, yn ngweinyddiad y bedydd bach, y cafodd ei ddychwelyd at yr Ar- glwydd. Gall gweinidogion y Bedyddwyr ddweyd yn ddibetrus fod tystiolaeth ar ol tystiolaeth yn cael ei rhoddi yn barhaus o ddychweliad pechadur drwy weinidogaeth a gweinyddiad bedydd y crediniol. Pe gellid mewn un modd gael hwyl nefol wrth daenellu plant, buasai yr hen frawd duwiol, a doniol, a defnyddiol, y diweddar Barch. John Evans, Cwmgwen, mor debyg o'i chael â neb; canys clywais y byddai ef ar droion yn ei chael ar ganol ymddilladu y'boreu; eithr wedi y cwbl, tywyll iawn oedd hi arno wrth y phiol a'r dw'r. Dywedai un wrthyf iddo ei glywed, nid llawer o flyneddau cyn ei farw, yn traddodi pregeth fel y diliau mêl; ond wrth ddybenu y cwrdd, yr oedd yn rhaid taenellu plentyn ; taflodd hyny gwmwl dû dros feddwl y brawd duwiol a'r holl gynulleidfa. Eithr er mai rhwmbwl iawn oedd hi arno wrth geisio myned drwy y gorchwyl, eto yr oedd un peth tra theilwng o efehchiad yn aros gydag ef, sef ymgadw yn wyliadwrus rhag amcanu gŵyrdroi unrhyw ysgrythyr i brofi ei bwnc. Dywedyd wnai ef bob cam wrth fyned yn mlaen, " Yr wyf yn cael fy nhueddu i feddwl," (nid credu) fel hyn neu fel arall, &c. A'r anwyl Barch. Mr. Griffiths, Glandwr, un o'r gweinidogion mwyaf duwiol, deallus, a dysgedig a fagodd Cymru erioed; clywais ei fod unwaith, tra yn myned i bregethu a bedyddio plentyn rhyw dyddynwr, yn cyd- gerdded âg ef tua ei dŷ; a'r tyddynwr a ddywedai wrtho, " Mr. Griffiths, gan ein bod ni yma yn byw yn nghanol y Bedyddwyr, ac yn cydgynal cyrddau gweddi mewn cariad, meddwl wyi' mai gwell fyddai i chwi beidio sathru, &c. ; dim ond adrodd rhyw ychydig o ysgrythyrau, ac yna dybenu yn y fan." "'Ysgrythyrau'?" ebe Mr. G.; "pa le y maent hwy* rho di hwynt i mi, ac mi a'u hadroddaf yn rhigyl." Yn ddigellwair, frodyr bach, rhyw fedydd moel i'w ryfeddu fyddai bedydd y baban hwnw ag na ddywedid dim cyn ei fedyddio ond yn unig darllen yr adnodau peithynol i fedydd babanod! Dychymygaf weled rhyw hen frawd hyf yn taro ati; ond er troi yr Efeng- ylwyr, yr Actau, yr Epistolau oll," a'r Datguddiad ynghyd, er ei fawr siomedigaeth, yn methu cael un adnod bwrpasol ar yr achos; ac yna wele yr hen frawd yn dechreu tioí y Beibl yn ei wrthol, ac ar unwaith yn scijùo dros yr holl fân Broffwydi, Ezeciel, Jere- miah, Isaiah, a'r Salmau ynghyd, ac yn ol ag ef nes cyrhaedd llyfrau Moses, gwas yr ArgJwydd; eithr er tristwch ychwanegol i'r hen frawd, ni cheid yno ychwaith gymamt ag un adnod gwerth ei darllen ar y pwnc, heb ei hunioni, a'i thrawsffurfio, a'i hysbryd- oli yn fanwl iawn; canys pethau cenedlaethol a gwladwriaethol geid yno i gyd, ac nid cynulleidfaol; cyllell a gwaed geid yno, ac nid phiol a dw'r; ie, cyllell at y bachgen yn unig geid yno, ac nid " bedyddio yn wŷr ac yn wragedd." Ac am hyny, wele yr hen frawd yn gwneud i fyny ei fedd'wl ar unwaith i gauad dau glawr y Beibl clap, ac yn dechreu arni heb air o ragymadmdd, gan ddywedyd, " Yr wyf yn dy fedyddio di, Mary, yn enw, &c, Amen." Yr oedd llygad yr enwog Griffiths yn rhy graff 1 fod heb nad oes eisiau scipo, nac unioni, na phario, na thrawsffurfío, nac ybbrydoli yr un o honyut. Cyf. ix. 2b