Skip to main content

Y BEDYDDIWE. Ctf. IX.] MAI, 1850. [Riiif. 101. CELFYDDYD. Gak J. D. WILLIAMS, Gelligaer. Cymhelliadau i'w Myfybio. Me. Golygydd,—Dylanwad y ffaitb alarus, fod bawliau celfyddyd wedi, ac yn cael eu hesgeuluso i raddau pechadurus, gan y rhan luosocaf o'm cydwladwyr, ynghyd ag awydd tanllyd i genhedlu chwaeth ynddynt tuag at fyfyriaeth gelfyddydol, ydynt y prif bethau a'm tueddant i gyflwyno y sylwadau hyn i ystyriaeth eich darllenwyr lluosog. Crediniaeth ddiysgog yn eich awydd chwi i lesoli eichcenedl, a'm sicrhant y caniatewch iddynt ymddangos yn eich Misolyn defnyddiol, os ydynt o ryw werth. Feallai nad oes dim wedi bod yn fwy o rwystr i gynydd gwybodaeth gelfyddydol yn Nghymru, na'r hen ddrychfeddwl cyfeiliornus, ei bod yn milwrio yn erbyn Datguddiad. Y gwirionedd am gelfyddyd, ydyw, ei bod bob amser wedi pleidio yr ysgrythyrau. Mae profiad cyffredinol yn dangos hyn. Ond i ddyfod at ein go-chwyl,—Mae myfyrio celf- yddyd yn cryfhau, ac yn addasu y meddwl i gyfiawni ei swydd gyda rhwyddineb. Mae pob un sydd yn arfer cyfranu dysgeidiaeth gyhoeddus, pa un bynag ai trwy areithio, ai trwy bregethu, yn gwybod trwy brofiad chwerw, beth yw gorfod ymwneud â meddyliau difywyd a diwaith; a gwyddant mai y sefyllfa hon ydyw y mwyaf anhawdd eu newid o bob sefyllfa, Mae y cymeriadau hyn, (er galar) wedi enill iddynt eu hunain air da, oblegid ei anghyfnewidioldeb. Y peth oeddent, ydynt, ac a fyddant byd beb ddiwedd. Mae y dynion hyn y peth ydynt o ddigwyddiad, ac nid oblegid eu bod wedi chwilio drostynt eu hunain. Os ydynt eu barnau yn unol â rheswm a datguddiad, dylent deimlo yn ddiolchgar iawn fv> planedau, o'r hyn leiaf dylent beidio diolch dim iddynt eu hunain. Mae llawer yn ein byd yn Fedyddwyr, nid oblegid fod Crist a'i apostolion yn Fedyddwyr, ond oblegid mai dyna fel y digwyddodd hi. Mae Iluoedd yn Daenell- wyr, nid oblegid nad ydynt yn credu eu dysgedigion, pan y dywedant mai ystyr y gair Banrw ydyw suddo neu gladdu, ac nid oblegid eu bod yn credu fod llawer o gwpanau wedi eu dryllio gan Ioan yn ystod ei weinidogaeth, a bod Pedr yn defnyddio ysgubell o hysop ar ddydd y Pentecost, ond oblegid mai dyna fel y digwyddodd hi,—a phaham na all hi fod mor right fel yna a rhyw ffordd arall, sydd anhysbys iddynt hwy. Tra y byddo y meddwl mewn sefyllfa fel hyn, mae ymdrechu cyfranu gwybodaeth iddo yn berffaith oferedd,—mor ofer a gwthio ymborth i gylla creadur fyddo wedi trengu. Mae y wybodaeth a gyfrenir yn gorwedd yn faich ar y côf,—yn gwbl annefnyddiol i'w medd- iannydd. Mewn trefn i wybodaeth fod yn llesol, rhaid i'r meddwl fod mewn agwedd addas i'w derbyn,—rhaid iddo fod yn fywiog a gweithgar, fel y gallo ei threulio a'i mabwysiadu yn rhan o hono ei hun. Peth ydyw gwybodaeth na ddylid ei arfer fel gwisg, ond ei fwyta fel ymborth. Pan y defnyddir gwybodaeth fel hyn, mae yn cryfhau y meddwi fel mae ymborth yn cryfhau y corff. Mae myfyrio celfyddyd yn un o'r pethau goreu a mwyaf defnyddiol i orchfygu y marweidd-dra ac y buom yn son am dano, yr hwn sydd mor niweidiol i gynydd y meddwl mewn gwybodaeth. Heb i'r meddwl gael ei gyffroi i weithgarwch mae yn anmhosibl iddo gyfiawni y ddyledswydd orchymynedig yn ngair Duw, sef, " Profwch bob peth, a deliwch yr hyn sydd dda,' yr hon ddyledswydd a'n rhwyma i beidio derbyn dim heb yn gyntaf ei bwyso, a'i fesur, â chlorian ac â liinyn y deall. Nid oes dim yn fwy rhesymol nâ'r ddyledswydd hon,— mae yn cydnabod dyn fel rhydd-weithredydd,—yn meddu gaüu i farnu rhwng gwirion- edd a thwyll, ac yn meddu ewyllys i wrthod twyll, a dewis gwirionedd. Os ydym yn ei ystyried yn angenrheidiol i chwilio a phrofi yr had cyn ei hau yn y maes, pa faint mwy angenrheidiol i brofi yr had cyn ei dderbyn i'r meddwlî Os ydym yn ofalus wrth dderbyn dodrefn i'n tai, fod pob Uestr yn ddiwall ac yn addas i'r gwaith y bwriadwn ef, onid yw yn warth i ni fod yn ddiofal yn nghylch dodrefnu ein hysbrydoedd, yr yftafell- oedd mewnol gwerthfawr hyny,—y rhai os ydym yn credu yn Nghrist, sydd yn demlau i'r Ysbryd Glân. Sylw arall sydd yn cymhell Celfyddyd i'n hystyriaeth ydyw,— Y daioni mae gwedi ei wneuthur, ac a wna eto i gymdeithas. Os yr efeugyl ydy w rhodd orou y nef i ddynion, Cyf. ix. R