Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. IX.] MAWRTH, 1850. [Rhif. 99^" COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. J. THOMAS, LLANLLIENI, SWYDD HENFFORDD. AWDWR "HANES Y BEDYDDWYR," &c. (Parhad o Rìfyn Ionawr, tud. 7.) Nid oedd Mr. Thomas yn ddyn o hyawdledd naturiol, ac ni ddarfu iddo ffurfeiddio ei hun i fod yn areithydd cyhoedd; etwa y fath oedd ei wybodaeth yn yr ysgrythyrau, ei adnabyddiaeth yn nyfnion bethau Duw, ei ardremiadau ar ddynolryw, a'r hyn oedd yn pasio ynddo ei hun, fel yr oedd ei bregethau, gwedi eu hastudio yn dda, yn dyfod gyda chynesrwydd o'r galon, ac yn cael eu traddodi gydag eneinniad na fethodd, drwy ystod bywyd hir, ei gymunu i gyraeradwyaeth cynulleidfa synwyrol. Derbyniodd wahoddiadau taerion i symud i Bridgenorth, a lleoedä ereill; ond yr oedd y fath gyfun- deb rhyngddo ef â'r eglwys tan ei ofal, fel nad allodd dim ond angeu eu gwahanu. Trwy fod galluoedd ei feddwl yn gryf a bywiog, yr oedd yn dra gwyliadwrus yn rhanu a defnyddio ei amser. Dywedir na bu dros agos i driugain mlynedd yn y gwely, hâf na gauaf, wedí pump o'r gloch. Treuliai lawer o'i amser yn ei lyfrgell, a phob rhan o'r dydd, nid yn ol tueddiad y mynyd, ond mewn cydffurfiad â chynlluu wedi ei drefnu yn fiaenorol. Nid oedd yr amser pennodol i ddyledswyddau a mwyniant teuluaidd braidd un pryd yn cael eu cyngwasgu drwy angenrheidrwydd galwedigaethau, na'u gohirio i gau allan ddyledswyddau ag oeddent yn galw am ei sylw. Wrth ymweled â phobl ei ofal, oddigerth ar achlysuron neillduol, megis afiechyd, &c. gwyddai y rhan amlaf o honynt, nid yn unig y dydd, ond yr awr y gallent ei ddysgwyl, a pha faint o amser a arosai gwedi dyfod! Pan mewu cyfeillach, pa mor ddymunol bynag y byddai ei arosiad, gwyddent eu gyfeillion yn ddigon da nad gwiw iddynt ymhwedd ei arosiad yn hwy, pan yr arwyddai ei bod yn amser iddo ef i ymacìael; gan hyny nid oedd ganddynt, ond dynodi eu gofid nas gallasai aros yn hwy. Yr oedd hyd yr wythnos olaf o'i fywyd yn gydymuith tra siriol a boddus, ac yn feddiannol ar drysorfa o adrodd- iadau a hanesynau, yn wasanaethgar i eglurhau daioni a chyfryngiad cyweithas Duw ar ran ei bobl; neu i osod allan brawf ffydd, ac ymarí'eriad amynedd, neu wiredd ac addfwynder y ddoethineb hono sydd yn dyfod oddi uchod. Yr oedd yn mwynhau digrifwch mynydawl, yn cyfodi i fyny oddiar ferwad annysgwyliadwy ffraethoneg; ond yr oedd yraddyddanion gwâg, dibwys, a chellwair ynfyd yn dra atgas ganddo; yn enwedig yn y rhai yr oedd eu nodweddau yn galw am ameithiad ymarweddiad difrifol. Gan ei gymdeithaswyr mwyaf cydnabyddus, gallesid dywedyd am dano ef, fel y byddai efe ei hun yn adrodd yr hyn a ddywedai yr Esgob Burnet am yr Archesgob Leighton, nas gwelodd ef braidd un amser mewn agwedd meddwl, yn yr hwn nad ewyllysiai fod pan y byddai yn marw. Nid oedd yn ei amser ef ond ychydig o Ymneillduwyr yn swydd Henffordd. Heb- law hono yn Llanllieni nid oedd gan y Bedyddwyr ond un eglwys ynddi, yr hon sydd yn gyfagos i Rosan. Ond er cymaint y pellder oedd rhwng eglwys Llanllieni ac eglwysi ereill perthynol i'r un Gymanfa, nid oedd un gweinidog yn amlach yn y cyfarfodydd hyny nâ gwrthddrych ein Cofiant. Yn y cyfryw leoedd gellir meddwl fod ei gyfeillach, ei gynghorion, a'i sylwadau* yn neillduol o dderbyniol; yn enwedig gan nad oedd ysbryd uchel Diotrephes yn cartrefu yn ei feddwl gostyngedig ef: ac nis gall- asent hwy ag oeddent yn hygyrchu i'r cymanfaoedd amlaf, a'r teuluoedd i ba rai y byddai, ar y fath achlysuron, yn cael derbyniad, lai nâ galaru na chaent weled ei wyneb ef mwyach. Yr oedd ei serch yn gryf at ei frodyr y Cymry; ni chafodd cysylltiadau newyddion, absenoldeb hir, a phellder lle leihau dim ar ei gariad at ei wlad enedigol. Llawer o * Fel un prawf o lawer o hyn, gosodir a ganlyn i lawr allan o ddyddlyfr y diweddar Andrew Fuller, prif ddyn ei oes mewn Uawer o ystyriaethau. " August 26, 1785.—At Northampton, I saw a letter, from a respectable aged minister, oa my late publication, which has some effect on my heart, in a way of tender grief and fear." Ar yr uchod svlwa Dr. Ryland fel y canlyn:-"If I may judgefrom an excellent address, whiehthevenerable Joshua Thomas delivered, in the Lecture-room of the Baptist Academy at Bristol, from 2 Chron. xxx, 8,— Yield ynurselves unto the Lord; he fully came over to Mr. Fuller's views at last."— See Dr. Ryland's Life of A. Fuller, p. 133. Cyf. ix. i