Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y EEDYDDIWB. Cyf. IX.] CHWEFROR, 1850. [Rhif. 98. COFIANT MR. J. M. DAVIES, DIWEDDAR FYFYRIWR YN ATHROFA HWLFFORDD, Mae meibion Seion yn gadaw gwlad y brwydrau am fuddygoliaeth ; merched Salem yn gadaw afonydd Babel, ac yn croesi y dyfroedd dyfnion er mwyn myned i fewn i'r tiriogaethau gorfoleddus fry; a gweinidogion y cysegr ydynt yn gadaw yr allorau a'r ebyrth, er mwyn myned i fewn i fyd y sylweddau, ac i dderbyn taledigaeth yr etifeddiaeth fawr. Gan mai tir anghof ydyw y bedd, a bod ei gyfaneddwyr yn myned dros gôf bywolion daear, yn dra buan, gellir dywedyd (heb ryfygu) mai peth cannioladwy ydyw cotfad- wriaeth o'r daionus a'r cyfiawn yn mhlith meibion Adda. Meddylia rhai mai afreidiol ydyw ysgrifenu cofiannau i neb oddieithr yr enwog, yr adnabyddus, a'r dyn cyhoeddus iawn. Ond wrth edrych i'r oraclau ysbrydoledig, yr ydym yn cael fod y Duw mawr, prif gofnodydd dygwyddion y cyfanfyd, yn sylwi gyda manyldra, uid yn unig ar fywyd bynod, ac ymadawiad gor-ddysglaer Elias y Thesbiad yn ngherbyd tragywyddoldeb, ond hefyd ar ddaioni anghyoedd Jeodiah, ac o'i roddion tawel ef yn ninas Dafydd. Iesu Grist hefyd, prif gyfaill trigianwyr yr iselderau, a wuaeth sylw mawr o'r wraig a'r blwch enaint byth-gofadwy a dorwyd ar ei ben bendigaid ef. Bu farw gwrthrych y cotiant byr hwn, cyn dyfod yn adnabyddus iawn i nemawr tu allan i'w gylchoedd cartrefol; er hyny, meddyliwn maí nid iawnder fyddai gadael i'w goífa ddisgyn gyda ei weddillion* marwol i fro llygredigaeth. John Morgan Davies, ydoedd fab i James a Martha Davies, ac ŵyr o du ei fam i'r Parch. John Morgans, Blaenffos. Efe a gafodd ei eni yu yr Hendy, plwyf Llanfair-Nantgwyn, yn swydd Benfro, ar y 19eg o Chwefror, 1822. Y rhinwedd mwyaf amlwg yn nhymor ei faboed ydoedd ufudd-dod hardd i'w riaint, a pharch mawr i'w fam ; yn hyn efe a ymdebygai i'r hwn a ddaeth gyda Joseph a Mair i Nazareth, ac a fu ostyngedig iddynt. Gwedi dyfod o hono i oedran cyfaddas aeth i wasanaethu at amaethwyr cyfrifol y gymydogaeth, megis Treclyn a Fountain-hill. Efe a ymddygodd yn addas o'i alwad, a chafodd ei barehu gan ei gyflogwyr. Yfr ydoedd yn y blyneddoedd hyn yn ddyeithr i rym crefydd, ac yn estron oddiwrth feibion Duw, ér hyny yn wrandawr pur gyson o'r efengyl, ac hefyd yn ddeiliad argyhoeddiadau mynych. Enillwyd ef yn raddol i ffydd yr efengyl, a bedyddiwyd ef ar broffes o'r ffydd hono yn Bethabara, Awst 2, 1840, gan y Parch. D. George, Jabez. -Nid hir wedi ei fedyddio y bu cyn ymadael â gwlad Dyfed, a sefydlu yn Aberdâr, Morganwg, ac ymunodd á'r eglwys dan ofal gweinidogaethol y Parch. T. Price, yno. Cymhellwyd ef i ymarferyd ei ddoniau mewn modd cyhoeddus, ac ufuddhaodd i'r brodyr yn hyn ; dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1846. Arferai siarad yn barchus iawn am ei frodyr a'i chwiorydd yn Aberdâr, ac yn enwedig am eu gweinidog Mr. Price. Nid ydyw yr ysgrifenydd yn bwriadu gosod barn uniongyrchol ar alluoedd pregeth- \vriaethol J. M. Davies. Digon sydd yn bod, a gormod wedi bod, o farnu dosbarth- iadau meibiou Levi, yn enwedig dosbarth yr athrofeydd. YT pellaf ei gyrhaeddiadau yn aml a gyfrifir yn gorach wrth lathen yr anwybodus; a'r pwysicaf yn nghlorian cyfiawnder a thegwch, a ystyrir yn wegi yn nghlorian anghywir y Iluaws. Hen wraig a'i thrwyn wrth yr hosan a'r wall, a alwodd y Parch. John Foster yn froH! Dywed Dr. Campbell, o Dref-edyn, (Edinburgh) yn un o'i adranau ar areithyddiaeth, nad ydyw poblogrwydd pregethu yn brawf o alluoedd meddyliol, nac ychwaith ohyawdledd areithyddol; ac yr adwaenai ef lawer o bregethwyr a fu unwaith yn anmhoblogaidd iawn, gwedidyfod yu boblogaidd iawn gyda y werin, ahyny drwy weniaeth athafodtêg. Nid ystyrid J. M. Davies yn ddyn ieuangc athrylithgar iawn, ond meddai ymadrodd rhwydd, llais hwyliog, a dull dengar dros ben. Ni safai ar Sinai ond pur anfynych, ond gosododd ei draed ar fynydd Seion; anadlodd yn awyr-gylchoedd y groes, a gwa- hoddodd bechaduriaid yn daer iawn i briodas Mab y Brenin. Efengylodd bethau daionus, a chredid y buasai o ddefnydd yn ei ddydd. Yn y flwyddyn 1847, efe a ymadawodd ag Aberdâr, a daeth adref i dý ei dad, ac aeth i Aberteifi i'r ysgol at Mr. J. M. Thomas. Yn mis Awst, 1848, cafodd dderbyn- iad i Athrofa Hwlffordd. Daeth yno ar vr 28ain o'r mis crybwylledig; ymddangosai y pryd hwnw yn hardd iawn, tel rhosyn Mai yn yfed o gwpaneidiau gwlithog, ac yn CYF. IX. B