Skip to main content

Y BEDYDDIWE. Cyf. IX.] lONAWIi, 1850. [Rhif. 97. COFIANT Y DIWEDDAll BARCH. J. THOMAS, LLANLLIENI, SWYDD HENFFORDD. AWDWR "HANES Y BEDYDDWYR," &c. -— •' Smitten friends, Are angels sent on errands full of love ; For us they languish, and for us they die."—DR. YoüNG. Mae y Creawdwr mawr wedi cyfodi dynion i fyny yn ngwahanol oesoedd y byd, i ateb djbenion neillduol, ac i ddwyn oddiamgylch ei amcanion fel Llywydd moesol a Phen-arglwydd grasol. Cynysgaeddodd rai â gwybodaethau helaeth o barth Sêrydd- iaeth, Daearyddiaeth, Barddoniaeth, Llywod-ddysg, &c.; ond o bob gwybodaetb, y blaenaf oll yw gwybodaeth Dduwinyddol; ac y mae ei sêr rnawrion yn líewyrchu yn ein ffurfafen yn amlycach i olwg y cyffredin yn ein gwladni, nâ sêr unrhyw gyfundraeth arall pa bynag. Mae bod yn wirioneddol yn un o'u nifer yn rhagorfraint, nas gellir ei phrísio yn iawn, mewn amser nac i dragywyddoldeb : a chael bod yu esill i'r cyfry w a eilw am ddiolchgarwch diffuant, a chalon frwdfrydig am drefnu i ni etifeddiaeth raor deg. Dan ystyriaethau o rwymedìgaethau y gor-fucheddwyr iddynt, ac y teilyngant gofadail i roddi cyhoeddusrwydd i'w henwau, a'u llafur yn nheyrnas ac amynedd y Cyfryngwr, y cynygir a ganlyn o hanes y gŵrda uchod i sylwdarllenwyr y BedyddiwR. Mr. Joshua Thomas oedd fab henaf Mr. Tbomas Morgan Thomas,* o Esgair-Ithri * Mr. T. M. T. a anwyd yn Nantyllyn, Cwmtwrch, plwyf Caio, swydd Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1690. Tyddynwr cyfrifol oedd Mr. T., a'r cyntaf o'r teulu, o ran ei gymeriad crefyddol, sydd wedi dyfod o fewn cylch ein gwybodaeth; ond trwy ba foddion y cafodd ei ddwyn i wybodaeth gadwedigol o Dduw, nid ydym yn medru gwybod. Nid ydym yn gwybod fod neb Ymneillduwyr yn Rhandir uchaf plwyf Caio, hyd deyrnasiad y freuhines ANN. Yroedd henafiaid Mr. T., o ochr ei dad a'i fam, y rhai oeddynt yu byw yn y Rhandir crybwylledig, yn crefydda yn ol y drefn Sefydledig; feîly ni wyddent ond ychydig, neu ddim, efallai, am y trallodion a ddyoddefasant yr Ymneillduwyr o 1660 hyd 1688,pryd y sefydlodd y brenin William ryddid chrefyddol. Yn nheyrnasiad y frenines Ann, dyoddefodd Mr. T. a'i gymydogion lawer iawn, ac o braidd y diangodd ef ac amryw ereill rhag cael eu carcharu. Oddeutu 1715, ymun- odd Mr. T. ynghyd â'i ddwy chwaer, a dau neu dri o'i gefnderwyr, â chynulleidfa o Anymddi- bynwyr yn cyfarfod i addoli Duw yn Llofftycyff a Chrugybar, nid nepell o'i le genedigol. Yn 1718, priododd â merch ieuangc syml a duwiol, o deulu crefyddol, yn mhlwyf Cellan, ger Llanbedr-Pont-Stephen, swydd Aberteifi, ac yn Ymneillduwyr eíwyddorol a chydwybodol. Dyoddefodd ei thaid (neu ei thadcu) Mr. Griffith Hughes lawer dros grefydd yn nheyrnasiad CHABLES YR AlL, trwy ddirwyau, gwerthu ei anifeiliaid, &c.; ond ni chlywsom eí fod yn ngharchar. Yr oedd ei frawd David Bughes, Yswain, yn gyfreithiwr enwog yn Llanbedr-Pont- Stephen, ac amddiffynpdd ef amryw droion. Aeth Mr. G. Hughes acuno'igymydogionunwaith gryn ffordd i làa y mòr i wrandaw pregeth, a dirwywyd hwynt i dalu pum' swllt am hyny : ond rhoddodd y bregeth gymaint o foddlonrwydd a dywenydd iddynt, fel y dywedodd y naill wrth y llall, " Ni a roddwn ìjum' swllt eto un amser am y fath bregeth." Mor werthfawr oedd y gair yn yr amser hyny. Gwedi priodi buont fyw mewn fferm, a elwid Tyhen, oddeutu pedair blynedd, ac yno y ganwyd eu dau fab Joshua a Timothy. Oddeutu yr amser hwnw yr oedd mudolion o'r Dywysog&ettl i'r Americ yn lluosog, at yr hyn y cafodd Mr. T. ei dueddu yn gryf ftrwy feddwl, efalíai, i ddíangc o afael erledigaeth gartref, a chael gwynfa ddanarol yn anialwch America,) a threfnodd fesurau cyfatebol i hyny : ond efe gyda'r hwn y mae trefniad ein bywydau a'n hamseroedd a drefnodd fel arall. Gwelwn yma drefn ddoeth Dduw yn gosod attalfa ar ffordd y gŵr da a duwiol hwn i fyned dros y cefnfor i drefedigaethau yr Americ bell. Pe llwyddasai yu ei amcan, buasai Cymru a Lloegr yn cael eu hamddifadu o lawer o bregethwyr ymdrechgar a duwiol. Yn lle croesi y weilgi, gyda golwg at yr hyn y rhoddodd un tyddyn i fyny, trcfnodd rhagluniaeth i fferm aralì, o'r enw Ksgair-Ithri, ychydig fiÜdiroedd oddiyno, gael ei chynig iddo ; efe a'i cymerodd, ac a sefydlodd ynddi hyd nes cafodd ei symud o'r bywyd i'w fedd, wedî cyfaneddu yn y lle ddenaw ar hugain o flyneddau. Yno y ganwyd Mary, Dafydd, a Zechariah ; am ba rai y crybwyllir eto. Gwedi bod yn aelod defnyddiol gyda'r Anymddibynwyr am o gylch ugain mlynedd, argy- hoeddwyd ef yn drwyadl mai credinwyr proffesedig oeddynt ddeiliaid priodol Ijedydd, ac mai trochiad oedd yr uuig ddull ysgrythyroî; ac yn ganlynol bedyddiwyd ef gan yr hybarch Enoch Francis, yn y flwyddyn 1737. Efe ocdd y cyntaf a fedyddiwyd yn mhlwyf Caio, ac efe yn benaf a fu yn offerynol i ddwyn y Bedyddwyr i'r unrhyw blwyf, ac i'r parth hwnw o'r wlad, lîe maent hyd heddyw mewn sefyllfa wedcìol flodeuog. Yn 1741, adeiladodd addoldy yno a elwir Betheì, CYF. IX. A