Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Ctp. VIII.] RHAGFYR, 1849. [Rhif. 96. ANERCHIAD GWEINIDOGAETHOL AB YSBRYD GWEDDL Nid oes eisiau dywedyd llawer wrthych chwi, fod y ddyledswydd a'r fraint o weddio yn perthyn i bob gwir gredadyn ynNghrist, ac yn Uanw lle uchel yn mhlith dyled- swyddau a mwynderau plentyn Duw. Y mae yr Hen a'r Newydd Destamentau yn cadarnhau, mai ysbryd gweddi ydyw enaid gwir dduwioldeb; ac y mae Salmau Da- fydd yn fath o law-ysgrif grefyddol, yn I mha rhai y geill y Cristion gyfarfod â'r geiriau mwyaf cyfaddas i dywallt ochen- eidiau ei galon gerbron Duw. Nid oes genyf gymaint o fwriad yn yr anerchiad hwn, i ddangos i chwi eich dyledswyddau i weddio, a dirgymell arnoch yr angen- rheidrwydd i feithryn ysbryd gweddi. Can- fyddir ffurf weithredol, ac ysbryd braidd yn holl amgylchiadau, gweithrediadau, ac ymarferiadau dynol; neu mewn geiriau ereill, y weithred weledig, a'r ysbryd cyn- hyrfiol sydd yn ei chyfansoddi; o herwydd hyny y lleferir yn aml am ysbryd gwlad- wriaethol, anturiaethol, crefyddol, ac am ysbryd gweddi, wrth yr hyn y deallwn rhyw beth heblaw y weithred ei hun, sef yr hyn a ddangosir trwyddi. Y mae y drychfeddwl hwn wedi cyfodi oddiwrth natur gyfansoddedig dyn, yn yr hwn y mae enaid anfarwol ac anweledig drwy yr hwn y mae y corff yn byw, symud a gweithredu. Yn awr, fel ag y dichon ffurf gorfforol dyn fodoli heb ei enaid mewn undeb ag ef, felly hefyd y dichon rhyw ffurf o rinwedd, neu ymarferiad neillduol fodoli heb ei ysbryd bywiol a chynhyrfiol. Dywed yr apostol, "Fod gan rhyw rai rith duwioldeb, ond wedi gwadu ei grym hi," 2 Tim. iii, 5. Yr hyn a ellir ddywedyd am grefydd yn gyfan oll, a ellir yn briodol ddywedyd am ran o honi, sef yr hyn y bwriadwn lefaru am dano yn bresenol. O ganlyniad, ymdrechaf osod ger eich bron beth ydwyf yn ei olygu wrth ysbryd gweddi, ac yna eich hanog i'w Cyf. viii. ymarferyd. Mewn trefn i fwynhau yr ysbryd hwn, y mae yn angenrheidiol i ni feddiannu yr egwyddorion hyny, pa rai a gyfansoddant wir weddi, angenrheidiol yw bod ynom deimlad dwfnddwys a pharhaus o'n mawr angen ysbrydol; herwydd gweddi wirioneddol yw iaith teimlad anghenus. Dylaifod ynom deimlad bywiog, treiddgar, a gostyngedig o'n heuogrwydd, ein halog- rwydd, ein hanwybodaeth, a'n perygl. Heb y teimlad hwn.nid yw gweddio ond geiriau yn unig—ffurf dify wyd, ffug-rhagrithiol, a dynwarediad crefyddol; tra ar y llaw arall, pafwyaf fydd genym o deimlad o'n hangen, mwyaf fydd genym o ysbryd gweddi. Ai hyn yw ein golygiad mewn gwirionedd am danom ein hunainî A ydym ni yn dwytt gyda ni yn barhaus ymwybodolrwydd o'n hamrywiol ddwys angeniont A oes genym ni deimlad dw.ys cystuddiol o'n mawr angent A ydym ni yn ocheneidio yn llwythog dan deimlad o euogrwydd a phechodî Y mae teimlad o gyflawnder, neu ymddigonolrwydd hunanol yn hollol wrthwynebol i ysbryd gweddi. Y mae tlodi ysbryd yn hanfodoli wir weddi. Yr oedd eglwys Laodecea yn hollol ymddifad o'r ysbryd hwn, o herwydd ei bod wedi ymgyfoethogi yn ei golwg ei hun, a hithau yn hollol dlawd mewn ystyr foesol; ond mewn cysylltiad a thylodi ysbrydol, y mae yn angenrheidiol i ni ymddiried yn ngallu Duw, hyny yw, dylem ei barchu, ac edrych arno fel ffynon ein holl gysuron. Dylai fod ynom deimlad tebyg i eiddo y Salmydd, pan y dywedai, " Fy holl ffynhonau sydd ynot ti. Fy enaid dysgwyl wrth yr Ar- glwydd, o herwydd oddiwrtho ef y mae fy holl ddymuniad. Dyrchafaf fy Uygaid i'r mynyddoedd, o'r Ue y daw fy nghymorth; fy nghymorth a ddaw oddiwrth yr At- glwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear." Felly ni a welwn fod ymddibyniad ar Dduw fel ein hunig a'n digonol noddfa, 2 i