Skip to main content

Y BEDYDDIWE. Cyf. VIII.] TACHWEDD, 1849. [Rhif. fid. r{ i GWEETHFAWROGRWYDD GAIR DUW. GAN Y PARCH. FRANCIS HILEY, LLANWENARTH. Mewn tymor o brinder gweledigaethau dwyfol fel yn nyddiau Samuel y profl'wyd, 1 Sam. iii, 1, neu o brinder Beiblau yn ieithoedd priodol y bobl, fel yn nyddiau pabyddiaeth, y gwelwyd fwyaf o werih Gair Duw. Ond trwy drugaredd ein Duw grasol, ac ymdrechion dynion da, y mae cyflawnder o Feiblau yn ein gwlad yn bresenol. Ond gwelwyd, cofiwn, dymorau gwalianol yncymeryd lle yn y cyn-oesoedd tywyll,—weithiau o farn Duw am ddiystyru y gair gwerthfawr, ac weithiau o gyfeil- iornad crefyddol. 0 farn Duw, er engraifft, pan y rhag-hysbyswyd drwy y profl'wyd Amos, yr anfonai yr Arglwydd newyn i dir Israel; nid newyn am fara, na syched am ddwfr, ond am wrando gair yr Ar- glwydd; ac y byddai crwydro o fôr i fôr, a gwibio o'r dwyrain i'r gogledd i geisio Gair yr Arglwydd ac nis caent, Amos viii, 11, \2. O gyfeiliornad mewn barn yn yr oesoedd pabaidd. Canys wedi y traws- awdurdodau pabaidd godi mewn grym, ac iddynt ameu hawl y bobl i farnu diosynt eu hunain mewn crefydd, fe attaliwyd yr ysgrytbyrau oddiwrth y werin, gan farnu nad oedd y cyffredin bobl yn gymwys i'w darllen, a bod yn well cadw y bobl, druain, mewn tywyllwch nag iddynt eu halogi wrth chwilio am y Ceidwad Iesu! Ty- wyllwch mawr, o ganlyniad, a dôdd y ddaear, a'r fagddu y bobloedd, a rhodd fawr y nefoedd, sef bara y bywyd, a attal- iwyd oddiwrth ein henafiaid am gannoedd o flyneddau. Ond gyda thoriad gwawr y Diwygiad Protestanaidd ar ynys Prydain, Duw o'i drugaredd at ein cenedl, a adfer- odd i ni ei Air gwerthfawr. Mawrhaer y fraint, drwy chwilio yr ysgrythyrau, a'u defnyddio fel unig reol fi'ydd ac ymar- weddiad. Gwerthfawrogrwydd Gair Duw a ym- ddengys, yn 1, Oddiwrth yrangenrheidrwyddo hono Cyf. viii. fel dwyfol ddatguddiad. GairDuw ynddo ei hun, yn ddidoledig oddiwrth bobllyfrau ereill, ac oddiwrth bob sjlwadau dynol, yw y copi mawr o ddwyfol ddatguddiad, sef yrHenDestament a'r Newydd; yr hwn sydd anfeidrolwerthfawr,feldatguddiadofeddwl Duw o berthynas i'r pethau mwyaf eu pwys, pa rhai a fuasent guddiedig byth oddiwrth ddyn. Fe allesid gwybod fod Duw oddi- wrth waith y greadigaeth, ond nis gallasid gwybod ei fod yn Iachawdwr heb ddat- guddiad goruwch-naturiol; ac nid y wy- bodaeth o fodoliaeth Duw yn unig sydd achubol, er bod y wybodaeth hono yn angenrheidiol gysylltiedig a'r wybodaeth gadwedigol; eithr y wybodaeth o'i gariad grasol, ei drugaredd faddenol, a'i fwriadau achubol drwy Iesu Grist. Ac anhysbys i bawb fuasai y dirgeledigaethau hyn, oni buasai, rhyngu bodd i Dduw eu datguddio i ni drwy ei Ysbryd. Yr apostol, wrth son am ddyfnion bethauDuw, addywed, "Nad edwyn neb bethau dyu, ond ysbryd dyn, yr hwn sydd ynddo." Ac os yw meddyl- iau a bwriadau dyn, yr hwn a welwn ac a adwaenom yn bersonol, yn ddirgelwch cuddedig oddiwrth bawb, oddigerth iddo eu datguddio,—pa faint mwy cuddiedig y buasai, meddyliau a bwriadau y Duw mawr tragywyddol, anfeidrol, ac anweledig, oni buasai y datguddiad dwyfol o honynt. Y mae cyflwr gresynol y paganiaid eulun- addolgar ac ofergoelus, y rhai sydd eto heb Air yr Arglwydd, yn brawf digonol o'r angenrheidrwydd am ddwyfol ddat- guddiad; oblegid er fod y paganiaid yn ogyfuwch i'r Cristnogion mewn rheswm naturiol, a bod dynion o ddysg yn eu plith gynt, eto nid oes genym o'r awgrym Heiaf, mewn hanes, fod neb o honynt hwy gwedi cael allan y ffordd i fywyd tragywyddol, nag i ueb o honynt weled y camsynied o eulunaddoliaeth, a throi allan o blith y dorf hudoledig; eithr hwy oll a gymerwyd 2 T