Skip to main content

Y BEDYDDIWE. Cyf. VIII.] HYDREF, 1849. [Rhif. 94. Y CYNHAUAF. " Nid Hadd gwŷr, ond lladd gweiriau Yn eu pwyll wnant ar ein pau ; Ar medelwyr mad welwn Yn haid ar y dyffryn hwn." Efe a geidw i ni ddefodol wythnosau cynhauaf.' Rhyfedd mor ddall ydyw canfyddiadau ysbrydol dynion! Nis gallant ei barchu Ef, hollalluogrwydd yr hwn sydd yn ffrwyno tonau trochionawg y mor gwyllt, nâ chyfaddef y daioni dwyfol hwnw ag yr ymddibynant arno, i gyd-dymheru eu tym- horau, ac i addfedu eu cynhauaf. Y mae y diffyg yma idd ei weled mewn modd arbenig yn hynodi llawer o drigolion y cynfyd, ac nid yw hyd y nod y genedl etholedig yn hollol rydd oddiwrtho, "Feth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir;" ac, ysywaeth! gellir mynegu yr un peth heddyw eto, canys ni ddarfu i annuwiaeth ymarferol yr Iuddewon hynafawl farw gyda hwynt, o na, y mae yn ddrwg ag sydd yn aros hyd heddyw. Bodola yn barhaus yn meddyliau ac yn yr ymarferion bywydol ag sydd yn nodweddu gradd fawr o'n cyd- wladwyr. Dosraner, er engraifft, y teim- ladau yn mha rai yr ystyrient y crynswth o'n trigolion gynhauaf y flwyddyn bresenol. Pa faint a allwn dybied, a chyfrif yn marn uchelaf cariad, oedd yn golygu eu bendith- ion fel cymwynas neillduol wedi ei rhoddi o law Duwl Pe agorid ymchwil ar y pwngc yma, onid y meddylrych cyffred- inol fyddai, fod y cynhauaf yn beth yn ei gylch—yn rhyw ddygwyddiad arferol? Pe byddai yr ymchwiliad yn cael ei ddwyn yn mlaen, yn mhlith dosparth mwy myfyrgar na hwnw a ystyria y fendith hon, yn ei chymwysderau i ddiwallu angenrheidiau anianol yn unig—oni chawsem olygiadau mor dywyll bron ag eiddo y cyntaf% Oni sicrh'àai athronyddiaeth ddefnyddawl i ni mai canlyniad achosion anianol ydoedd y cynhauaf, a'i fod ar y cyfan, yn beth a ellid cyfrif arno! Oni hysbysid i ni y byddai sicrwydd olwyniad y ddaear o gylch yrhauligynhyrchuy tymhorau,ac y byddai i'r tymhorau yn naturiol roddi i ni y cyn- hauaf 1 Nid oes ond ychydig, mewn cyd- mariaeth, a'n cyfeiriai ni oddiwrth ail achosion at yr Achos mawr dechreuol. Eto gallai dyn feddwl yr arweinid meddyliau uchelgfeis, y rhai a fynant i ni eu cyfrif yn athronyddol, i ofyn am ryw aehoa penderfynol cyfartal, at yr hwn y gellid cyfeirio yr holl achosion israddol. Cyf. vui. Y mae yn rhaid fod y fath ofyniadau a'r canlynol, debygwn i, yn cyfodi yn eu meddyliau ar amseroedd,—Pwy sydd yn peri i'r ddaearen anferthol i ddilyn ei throad parhaus o gylch yr haulî Pwy sydd yn cymhwyso y tymhorau 1 Pwy sydd yn achosi i'r haul daflu allan y graddau cywir hyny o wres i addfedu yr eginyn gwyrdd heb ei wywo î Pwy sydd yn casglu y cymylau, ac yn achosi iddynt ddistylliaw yn gymwys y maiut o wlybaniaeth sydd yn eisiau ar y byd tyfiannol, ac eto yn eu hattal i'w foddi mewn arddigonedd o ddyfroedd ? Pwy sydd yn trefnu y plan- higyn i dderbyn o'r awyrgylch y gwir ddylanwadau hyny, ac o'r tir y noddion arbenig, sydd wedi eu cymhwyso i'w faethu a'u wneuthur yn ffrwythlawn, ac ar yr un pryd i wrthod yr oll sydd o dueddiad gwrthwyneboll Pa beth a feddylia y rhai sydd yn Uefaru yn ol egwyddorion " doeth- ineb y byd hwn" am y pethau hynt Nid oes dealltwriaeth gan yr huan ysplenydd, na chan ronynau y cawodydd dyfrhäol, nac ychwaith gan y planhigyn gwyrddlas, eto y maent yn cynhyrchu canlyniadau pennod- ol, ac yn profi bodoldeb dealltwriaeth yn rhywle. Pa le y ceir hyny, ond yn y Duw hwnw, yr hwn o'i ofal holl-bresenol a galluog " a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhauafl" I bob dyn defosiynol y mae yn ffynhonell o hyfrydwch anrhaethol ei fod yn galled priodoli ei fendithion i law Duw. Y mae canfod ei enw e/"arnynt yn mawrhau eu gwerth iddo—fel llyfr a roddir i ni gan gyfaill anwyl, ystyriwn ef yn llawer mwy gwerthfawr os bydd efe gwedi ysgrifenu a'i law ei hun arno, taw rhodd oddiwrtho ef yw e. Y mae Duw gwedi rhoddi i ni y flwyddyn hon gynhauaf cnydiog ar y cyfan, ac wedi rhoddi i ni hefyd "ddefodol wythnosau y cynhauaf' er ei gywain i'r ŷdlanau; gan hyny, boed y rhai sydd yn proffesu eu hun yn " Israel Duw" beidio anghofio idd ei gydnabod a'i fendithio am ei haelioni. "Y neb ey ddoeth, ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau yr Arglwydd." Wrth fyfyrio ar y cyiondeb yn,yr hwn y 2 p