Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Ctf. VIII.] MEDI, 1849. [Rhif. 93. SEEYLLEA BÄESENOL DYNOLIAETH. Meddyliau Sathredig. Mae yn anmhosibl i'r meddwl dynol gael un llwybr i benderfynu gwerth ei sefyllfa bresenol, pan yr ystyrir hi yn anghysyllt- iedig a sefyllfa ddyfodol. Os hwn ydyw yr unig fyd, yn yr hwn y mae dyn i íodoli; os ydynt hollddybenion ei greadigaeth i'w hateb, yn ystod ei ymdaith fer yn nhiriogaeth amser, gellid ar ryw olwg feddwl, fod y sefyllfa bresenol yn un werthfawr a phwysig; oblegid ei bod yr unig adeg sydd gan ddyn i berfíeithio ei alluoedd meddyliawl,—i ymddedwyddu, ac i ogoneddu Awdwr a Chynhalydd ei fodaeth. O'r tu arall, os y presenol ydyw yr unig sefyllfa, sydd wedi eí bwriadu i resymolion y byd daearawl fodoli; os ydyw angeu teyrn braw i ddifodi dynoliaeth, neu i'w sio i gwsg aneffroadwy, fel y barna-yr anffyddiwr, pan yn sefyll uwchben ysta- felloedd marwoldeb, ac yn edrych ar oruch- afiaethau y gelyn diweddaf fel yn gosod attalfa fythol ar gerbyd bodoldeb, gan daflu y marchog i lyngclyn anhygyrch difodaeth; os ydynt y llygaid hyn i gau am byth, wedi iddynt fethu syllu ar ryfedd- odau aruthrol, a phrydferthwch denawl y pethau a welir; os ydynt y clustiau hyn, wedi iddynt gael eu byddaru rhag elywed sŵn dychrynllyd y daran, rhuad rhyferthawl yr eigion, sisial hyfrydawl yr afon, ynghyd a seiniau pêr cantorion y coedwigoedd, ac awelon y ffurfafen, i fod yn ddifywyd am byth; os ydyw yr elfen deallawl, prif arglwyddes elfenau y greadigaeth ; yr hon er maiutioli anferth y planedau a'u pellder oddiwrthi, a'i mesurodd a'i llinyn aur,—a ffurfiodd gynlluniau celfyddgar, i agor cell- oedd dirgelaf natur, er cael eu trysorau at ei gwasanaeth, yr hon drwy ei medrus- rwydd a yrodd ei cherbydau drwy denau lwybr y cymylau, a gyfrwyodd y mòr, ac a eisteddodd arno fel ar ei mharch, ac a gymhwysodd elfenau ereillnatur i'w gwas- anaeth ei hun,—os ydyw hon yn suddo i bydew erchyll difodiant, pan y "torir y llinyn arian, ac y dryllir y cawg aur," &c, fe deimlir awydd i fabwysiadu penderfyn- iad y goludog, pan yn ymdroi ynghanol digonedd, a mwy—o fendithion natur, gan ddweyd wrth yr enaid, "bwyta, ŷf, a bydd lawen." Ymddengys ynte fod meddyliau gwa- Cyf. viii. hanol, yn rhwym o wahaniaethu yn eu golygiadau o barthed i sefyllfa bresenol dynoliaeth, pan yr ystyrir hi ar wahan oädiwrth fyd arall. Dywed un, "Gan fy mod yn greadur amser yn unig, fel yr anifail a'm gwasan- aetha, ac yn mhen ychydig amser i fod, fel pe na byddwn erioed wedi fy rhesu yn nghadwyn bywyd, afresymol ydyw i mi ymdrafferthu liawer ynghylch gwrteithio fymeddwl; ac nid yw o bwys na chan- lyniad, pa un a fyddaf yn ddefnyddiol i ereill ai peidio; yr unig beth teilwng o'm sylw, mewn sefyllfa mor fỳr ac ansicr a'r un bresenol, ydyw gofyniad y lliaws, " Pa beth a fwytaf, neu pa beth a yfaf, ac a pha beth yr ymddilladaí!" Arall a ymresyma oddiar yr un dybiaeth mewn dull hollol wahanol. Wrth ystyried amser yn ei gy- sylltiad âmeddwl, darbwyllid ef i olygu y sefyllfa ddaearawl yn un o'r pwys a'r gwerth mwyaf. Pan yn tremio terfynau cyfyng ei fodoldeb, ac yn edrych yn mlaen ar olwyn y cyfnodau yn cyflawni pedwar ugain a deg, neu bum' ugain o'i theithiau blyneddol, nid rhyfedd fyddai ei glywed yn tori allan mewn iaith synfawr, gan ddywedyd, O! derfynau gwerthfawr! OS droion pwysig! Dyma yr unig adeg yn yr hon y mae yn ddichonadwy imi, ermor rhyfedd acofnadwy y'm gwnaed, i gyflawni holl amcanion fy ewyllys,—i foddloni tu- eddiadauymchwilgarfymeddwl,iddrachtio o ffrydiau gloywon ffynhonau gwybodaeth, i ddisychedu yr awydd barhaus sydd yn fy ysbrydam ddeall y "pafodda'rpaham," mewn perthynas i'r aneìrif wrthrychau a'm cylchynant yn feunyddiol, ac i ädigoni fy nghorff a'm henaid â;r dedwyddwch yr ymdrechant fwynhau. Fel hyn mae y sefyllfa bresenol wedi ei dadgysylltu oddiwrth y dyfodol, yn ym- ddangos i'r naill yn oferedd, ac i'r llall yn orlawn o bethau gwerthfawr a phwysig. Mewn gair, y mae yn anhyall âurfio drychfeddyliau gwir am ddim yn y sefyllfa bresenol, heb ei ystyried yn un baratöawl i sefyllfa well a pherffeithiach. Mae yr oll a berthyn i'r bywyd sydd yr awr hon. yn gruglwyth annhrefnus o oruchwyl- iaethau a phethau, os nad oes bywyd tudraw i ymerodraeth yr angeu. Ond cysyllter y presenol â'r dyfodol-—y byd hwn â'r hwn a ddaw—amser à thra- 2 L