Skip to main content

T BEDYDDIWR. Cyf. VIII.] AWST, 1849. [Rhif. 92. YR EGIWYS. GAN J. WILLIAMS, Drbfnewydd. Rhif. III. Nid oes ond ychydig o bethau, fel yr ymddengys i'r ysgrifenydd, y sydd haws i ddarllenwr ymbwyllus yr ysgrythyr lân, na gweled fod y cyfnod yr hwn oedd wedi ei apwyntio i sefydlu y grefydd Gristionogol, ac i gwblhau y dadguddiad o honi, yu cael eí gymharu i ysbaid diwrnod; ac o her- wydd paham yn gyfnod neiüduol wedi ei farcio allan ar ei ben ei hun. Ychydig cyn codi haul, neu ar doriad gwawr y dydd hwn, ymddangosai y Rhagredegydd gan gyhoeddi fod " Teyrnasiad y nefoedd yn agoshau,"—fod y " Goleuad i oleuo y cenhedloedd" ar godi uwch y gorwel. Pe parhad, gan hyny, o'r sefydliad Moesen- aidd, neu yr unrhyw wedi tyí'u i gyflwr o addfedrwydd, fyddai " teyrnasiad y nef- oedd," neu yr eglwys Gristionogol, caw- sem wisgwr y " gwregys o groen a blew camel," yn rhywle yn nes i haner dydd na chodiad y wawr; a'r Iesu ei hunan, yn lle bod yn "^twẃcraPherffeithyddeinfiFydd," ni buasai ond y Perffeitbydd yn unig. Ond yr iachawdwriaeth Gristionogol—yr athrawiaeth sydd yn ei hegluro, a'r ffeithiau ar y sawl y mae gwedi ei sylfaenu—a draethwyd yn gyntaf, gan yr Arglwydd ei hun, ac a gadarnhawyd wedi hyny gan yr apostolion, y rhai a'i clywsant ef. Y diweddaf o'r tystion hyn oedd yr apostol Ioan, yr hwn a gwblhaodd y dadguddiad dwyfol. Nid oedd dim ychwaneg i'w ddysgu, y rhol ysbrydoledig a orphenwyd ac a blygwyd i fyny, a'r barnedigaethau trymaf a gyhoeddwyd yn erbyn pwy bynag a chwanego ddim ato, neu a dyno ddim oddiwrtho. Yr ydym yn canfod fod yr apostol hwn, hyd y nod yn ei lythyrau, yn ysgrifenu at " y plant bychain," y " gwŷr ieuaingc," a'r "tadau," am reswm gwa- hanol i'r hwn yr ysgrifenai y Ueill o'i blegid;—nid am " na wyddent y gwirion- edd, eithr oblegid eu bod yn ei wybod." Yr apostolion ereill a ysgrifenent,, am fod y rhai y danfonent atynt heb wybod rhyw bethau. Paul a ysgrifenai at y Rhufein- iaid, am fod rhai o honynt heb wybod—o'r hyn lleiaf yn berffaith—yr athrawiaeth o gyfiawnhad drwy ffydd. Amyrunrheswm yr ysgrifenai Ioan ei hun—" Yn y dech- reuad yr oedd y Gair," er cofnodi y gweith- Cyf. vm. redoedd nerthol a gyflawnodd yr Iesu, i brofi ei ddanfoniad oddiwrth Dduw. Luc aysgrifenaiei "WeithredoeddApostolion," er mwyn cofnodi rhesymau Argyhoeddwr mawr y byd—rhoi ar gôf a chadw hanes doniau yr Ysbryd Glân—"eglur-brawf yr Ysbryd a'r eiddo nerthoedd y byd a ddaw," i'r hwn yr aeth y " Cyntafanedig" i mewn wedi eí gyfodi oddiwrth y meirw. Eithr "y dysgybl yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu," a ysgrifenai ei epistolau ar "yrawr ddiweddaf," a hyny, nid am na wyddent, ond am eu bod "yn gwybod y>ob peth." Yn mhellach, os oedd yr eghvys yn bod o'r blaen mewn cyflwr llai perffaith;—os " yr un yw yr eglwys yn mhob oes o'r byd,"—pa fodd y dywed awdwr "Gweith- redoedd yr Apostolion," ddarfod i'r Iudd- ewon a ddychwelwyd ar y Pentecost, gael " eu chwanegu atynt," (y dysgybüon neu yr eglwys), a bod dychweliadaudilynol—o Iuddewon yn ddiau, gan fod y Cenhedloedd y pryd hyny heb eu galw,—"ynchwanegu beunydd y rhai cadwedig at yr eglwysT' Os " yr un yw yr eglwys yn mhob oes o'r byd," y mae yn canlyn—nid yn unig mai yr un yw yr eglwys Iuddewig a'run Grist- ionogol—ond fod eglwys yn mhob oes o'r byd, yn gymaint nas gellir haeru na gwadu dim am y peth nid yw. Canlyna hefyd, gyda hyny, nad oedd dychweledigion y Pentecost, a'r rhai a'u dilynodd yn union- gyrchol, yn cael eu chwanegu at y dysgybl- ion, ddim mwy nag yr oeddynt yn cael eu chwanegu at yr Ysgrifenyddion a'r Phari- seaid; neu at Abraham, Isaac, a Jacob, Noah, Enoc, neu Adda; ond chwaneguat y dysgybliou, a elwir " yn chwanegu at yr eglwys;" am hyny, nid y patriarchiaid neu yr Iuddewon ; nid Abel, Enoc, na Noah; Moses na'r pruffwydi yw "yreg- lwys"—dysgyblion i Iesu Grist ydyw. Ac, yn wir, os " yr un yw yr eglwys" Iudd- ewig a'r un Gristionol, nid yw yn beth hawdd iawn canfod pa fodd y gallent gael eu chwanegu o gwbl at yr eglwys, gan y rhaid eu bod yn perthyn iddi o'r blaen. Unwaith eto, er mwyn gorphen y prawf mai nid parhad o Iuddewiaeth mewn ffurf berffeithiach, yw y grefydd Gristnogol; ni a chwanegwn, ddarfod i'r Iesu ymddan- 2 G