Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. VIII.] EBRILL 1849. [Rhif. 88. ANFFYDDWYR YN NGLYN TEEFYNIAD. I.—VOLTAIR. «In times when erroneous and noxious tenets are diffused, all men should embrace some opporWnity to bt&r testimony agiinst them:"—Biawr Horne. Y mae enwogrwydd, yn mhob oes, yn demtasiwn gref i feibion dynion; ac yn ddilys gwedi temtio Uuaws heblaw gwrth- rych y byr-nodion canlynol i fforffedu eu dyogelwch presenol a thragwyddol er mwyn ei gyrhaeddyd. Rhaid fod Ilygredigaeth y wlad, a'r oes hono yn fawr, yn y rhai y cyrhaeddir y nod drwy anffyddiaeth; ond gwaethaf y modd, y cyfryw ydoedd llygre- digaeth Lloegr, a Ffraingc, yn yr oesoedd diweddar. Yr oedd ysgrifenu yn bleidiol i egwyddorion anuniongred yn llwybr i enwogrwydd, oes yn ol yn y deyrnas hon; ond yn Ffraingc, yr oedd hefyd yn sicrhau cyfoeth ac aiodurdod; o ba herwydd y bu yr olaf yn fwy nodedig nâ'r flaenaf am ei hanffyddwyr proffesedig. Ond, yn ddi- weddar, hyd y nod yn Ffraingc, y mae anffyddiaeth yn dyfod yn fwy fwy anmhobl- ogaidd; ac fel ag y mae yr ysglyfaeth yn dod yn llai brâs, y mae y bleiddiaid yn dod yn llai gwangcus.* O'r holl anffyddwyr diweddar, Voltaire, ar amryw gyfrifon, ydoedd y mwyaf nod- edig; yr hwn, er ei holl lygredigaeth, a ragorai ar ei holl gyfoedion.o ran athrylith a dawn natur; a safai yn eu mysg oll, gyda golwg ar rai o'i ysgrifeniadau, wrtho ei hunan. Ystyrid Voltaire gan enwogion ei wlad yn ysgolhaig; yn ddyn o ddarfelydd, o hyawdledd, ac o aspri tuhwnt i neb o'i gyd-oeswyr; a dilys fod ei dalentau yn gyfryw ag y gallasai ymffrostio ynddynt, oddieithr tnewn cysylltiadâ'iegwyddorion, y rhai a'u Hithiasant i'w troi oll i'w ddinystr ei hunan. Cyd-fwriadodd yr anwir-ddyn (a) Agorodd y chwyldröad diweddar ar gyf- nod tra gwahanoí i'r un blaenorol yn nghyflwr crefyddol Ffraingc. Cymharer gweithrediadau 1789 a'r eiddo 1848, a gwelir y gwahaniaeth. Gwedi llanw gwyllt, a thònau rhüadwyllt, y mae trai yn dechreu ar ddiluw anffyddiaeth ; y mae y tir sych yn dechreu ymddangos ar y gwastadedd gorchuddiedig ; a chyn hir, ceir gweled banierau tir Emmanuel ýn chwifiaw ar y Feiston. Cyf. vifi. hwn, nid yn unig yn erbyn "Duw yn Nghrist," eithr hefyd yn erbyn Duw yn mhawb, ac yn mhob peth;—yn mhob man, ac yn mhob dull. Ymosododd, nid yn unig ar Gristnogaeth, ond hefyd ar Iudd- ewiaeth, gan amcanu gyru y naill a'r llall oddiar y ddaear yr un pryd; ac nid an- mhriodol, canys os gallasai lwyddo i gym- mynu "cŷff Jesse," gallasai wneud a fynasai â'r " Biaguryna dyf o'iwraidd ef;" ond ar ol treulio ei nerth, a mîn ei fwyell, gorfu arno roddi fyny, heb fenu ar " bren y bywyd." Ni bu Voltaire ddim ar ei fantais o ymornestu â chewri gwledydd cred;—ni bu nemawr fwy ffodiog chwaith wrth dynu y dorch â phlant Abraham. O holl freninoedd, a phenaethiaid y ddaear, ni bu í neb ymosod, nac ymgyng- hori mwy " Yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef," nâ'r arch-anffyddiad hwn; a diau na chododd neb mewn un wlad, nac oes, a waeddodd yn fwy croch: "Drylliwn eu rhwymau hwynt, a thaflwn eu rheffynau oddiwrthym." Diau iddo am- canu diwreiddio Cristnogaeth, nid yn unig o Ffraingc, eithr hefyd o holl wledydd Ewrop. Llwyddodd i gael gan ei genedl ei hun roddi fyny y cyfnod Cristnogol a mabwysio prif-nod amseryddol gwahanol. Gwnaeth ymdrechion egniol hefyd i ddar- bwyllo amrywiol ffurf-lywodraethau Ewrop i wneud yr un peth. Myfyriodd yn ddwys, ac ysgrifenodd yn alluog er dadymchwelyd y ffydd; ond yn hyn bu iddo ef, fel llawer ereill, ^fyfyriopeth ofer; canys cafodd ef, acereülo'r " cyd-fwriad," weled caderníd, a theimlo pwys yr ymadroddion dwysion hyny, " Tr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd, yr Arglwydd a'u gwat- war hwynt."0 Yr oedd y Brenin wedi ei osod ar Sion cyn i'w llygaid hwy agor, (b) Dywedir i Diderot, D'Alerdbert, Mar- montel, ac ereill o gymdeithion athéistaidd Yoltaire, farw dan gynhyrfiadau cydwybod cyffelyb i'r eiddo yntcu.