Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T BEDYDDIWR. Cyf. VIII.] MAWRTH 1849. [Rhif. 87. YR EGWYDDORION DECHREUOL MEWN CRISTNOGAETH. LLYTHYR II. Athrawiaeth Bedyddiadau, ac Arddodiad Dwylaw. " Am hyny, gan roddi heibio egwyddorion cyntaf athrawiaeth Crist, awn rhagom at gyflawn oed, (" let us advance toward a mature state of reliyious knowledge."-~STVART.) heb osod i lawr drachefn y sylfaen gyda golwg ar ddiwygiad oddiwrth weithredoedd meirwon, ( " works which cause death."—Stuart.) a fíydd tuagat Dduw ; gyda golwg ar athrawiaeth trochiadau, ac arddodiad dwylaw, ac adgyfodiad y meirw a'r farn dragwyddol; a hyn a wnawn, os caniatà Duw."- Oraclau Bywiol, Heb. v, 1—3. * Egwyddor y 3ydd,—" Bedyddiadau." Yr anhawsder yma sydd yn y gair "bed- yddiadau;"—ei fod yn y lluosog, a nid yn yr unigol, yn ol fal y dysgwylid iddo fod. Paham " bedyddiadau," tra nad oes mewn Cristnogaeth namyn " un bedyddf' I gyfarfod y dyryswch hwn, ein beirniaid o oes i oes, ydynt wedi cynyg amryw dde- ongliadau. Caiff tri o honynt sylw. (a) Y golchiadau luddewaidd. Fod yr Iuddewon, o leiaf yn nyddiau yr Iachawd- wr, yn arfer golchiadau, neu fedyddiadau traddodiadol sydd amlwg oddwrth, Marc vii, 2—9, a Luc xi, 38. Myfi a ddyfynaf yma o'r " Oraclau Bywiol," er rhoddi mantais gwell i'r annysgedig i weled fod gwahanol eiriau yn cael eu defnyddio yn y wreiddiol, i osod allan wahanol weith- redoedd ac arferion. " Canys nid oedd y Phariseaid, nac yn wir yr holl Iuddewon a gadwent draddodiad yr henuriaid, yn bwyta nes y golchent eu dwylaw drwy dywallt ychydig ddwfr arnynt; ac osbyddent wedi dyfod o'rfarchnad, drwy eu trochi; ac y mae llawer o ddefodau ereill wedi eu cymeryd i fyny ganddynt, megis trochiadau cwpanau a photiau, efyddynau a gwelyau." Yn yr engraifft y cyfeiriwyd ati yn Luc. dywedir fod y Phariseaid wedi rhyfeddu wrth yr Iesu yn dynesu at ei giniaw cyn ymfed- yddio, neu ymdrochi yn gyntaf. Wel,yr oedd gan hyny, fedyddiadau traddodiadol, nid gwiw gwadu, yn cael eu harferyd gan y Phariseaid o leiaf, yn amser sefydliad Cristnogaeth, a chyn hyny. Ond pa beth a ddywedai Crist am danynt t " O rag- rithwyr! da yrydych yn ateb i'r nodwedd Cvp. viii. a roddes Isaia i chwi, pan ddywedodd, * Y bobl hyn a'm hanrhydeddantâ'u gwefusau, ond eu calon sy gwedi ymddyeithro oddi- wrthyf: ond yn ofer yr addolant fi, tra y maent yn dysgu sefydliadau nad ydyntond dynol yn unig.' O herwydd, gan adael heibio orchymyn Duw, yr ydych yn dàl traddodiadau dynion, trochiadau potiau a chwpanau, a llawer o ymarferion ereill cyffelyb." Pwy bellach ryfyga daeru, fod y fath arferion condemniedig yn angen- rheidiol i " ddechreu rhai yn Nghrist!" Ymddengys i fi fod yn rhaid i un fod wedi ei ddallu gan ragfarn neu hurtwch, cyn y gallai freuddwydo y fath annhebygiaeth. Yr Arglwydd Iesu, efo iaith mor gref, yn condemnio arferion, a'r arferion hyny, yn ol Paul, yn angenrheidiol er "dechreu rhai yn Nghrist!" Perffeithrwydd ang- hysonder fyddai hyny. Ond pe gellid profi, (a phwy a gymer y gorchwyl arno! canys ei gymeryd yn ganiatùol y byddis,) fod y golchiadau Iuddewig yn sylfaenedig ar ddeddf Moses, ac nid ar draddodiad dynol; gorchestwaith wedi'n fyddai dangos i foddlonrwydd, gysylltiad, heblaw ua dychmygol, rhwng y golchiadau hyny a "dechreu rhai yn Nghrist." Cydnabyddir, neu fe ddylid cydnabod, yr egwyddorion blaenorol, sef " diwygiad" a " ffydd," yn egwyddorion efengylaidd a Christnogol; pa gysondeb gan hyny, fyddai cydio wrth- ynt, heb y seibiant lleiaf, draddodiadau dynol, neu Foesenaidd! Mwy gwrthun hyn nâ iauo ỳch ac asyn ! Os yw teyrnas Crist yn deyrnas annibynol, paberygl sydd o'i chynabod felly yn y cwbl* " Dechreu