gg AMRYWIAETH. iwyd ef pan yn ieuaingc gan Mr. Palmer, yn y Mwythig; er iddo dreulio oes lled faith a chyfarfod à llawer math o dywydd, eto ni wadodd y ffydd—syrthiodd ar ei daith droiau, ond yr Arglwydd a'i cyfododd ef drachefn, a bu farw â'i wisg filwraidd am dano, a'i obaith yn yr Iesu ; yr oedd yn dra adnabydus gan lawer. CYFAIt-L II?DO. Yn Merthyr, Ion. 10, 1849, bu farwẅs. Sarah James, gwraig Mr. Lewis James, Pant-tywyll, yn 56 mlwydd oed. Cafodd ei tharo yn glaf boreu dydd Mawrth, a bu farw dydd Mercher. Yr ydoedd yn aelod hardd a defnyddiol yn y Tabernacl, Mer- thyr, ac yn un o'r gwragedd mwyaf rhin- weddol yn y lle, yn ddiau. Dydd Gwener canlynol, claddwyd hi yn nghladdle y Tabernacl; ar yr achlysur darllenwyd ac anerchwyd gorsedd gras gan y Paroh. J. Jones, Abercanaid; ac anerch- wyd y gynulleidfa gan y Parch. S. Edwards, Rymni, oddiwrth 2 Cor. v, 1. Mae dymuniad taer a chyffredinol i'r Parch. B. Williams, Llynlleifiad, ysgrifenu cofiant i'r chwaer deilwng uchod, gan ei fod mor adnabyddus o honi. Hiraethwr. Ionawr 24, 1849, yn y 37aiu flwyddyn o ei hoedran, Sarah, trydedd ferch Benjamin Price, Ysw-, Fenni, gynt Fosemain, Aber- ystrwth, swydd Fynwy : " Am farw y myfyriom,- mae'n aros, Mewu oriau na thybiom 1 O! ddyrnod a ddaw arnom, Ma n d'od, yn barod y b'om."— T. W. AMRYWIAETH. Y SaiÃh Holion a ddodes Catwg Ddoeth i Saith o wÅ·r Doethion o'i Gôr yn Llanfeithin, ac ateb y gwýr hyny. 1, Pa ddoethineb sydd fwyaf ar ddyn ? Ateb—Gallu drwg ac heb ei wneuthur.— Teilo Sant. 2, Pa ddaioni goruchaf ar ddyn? Ateb—Cyfiawnder,— Talhaiarn. 3, Pa ddirieidi fwyaf ar ddyn? Ateb—Celwydd.— Taliesin ben Beirdd. 4, Pa gamp decaf ar ddyn ? Ateb— Cywirdeb.--CyrÃan ab Chudno Eiddin. 5, Pa ynfydrwydd fwyaf ar ddyn ? Ateb—Dymuno drwgcyd nas gallo.— Ysty- ffan Fardd' Teilo. 6, Pwy sydd dlotaf? Ateb—Y neb ni chymero o'i eiddo ei hun.— Arawn ab Cynvarch. 7, Pwy sydd gyfoethocaf ? Ateb—Y neb ni chwenycho ddim o eiddo arall.— Gildas. Ac felly terfyna y Myfyrian Arch. Cyf. III, tud. 39. Satan yn ytnranu yn erbyn ei hun.—Ar brydnawn Sabboth, Ion. 7, 1849, nid milldir o'r Eglwys Newydd, ger Caerdydd, daeth dau 0 achau yr un gynt, a " dramwyai ar hyd y ddaear, aca ymrodiai ynddi," y rhai a gyfenw- ant eu hunain " Saint." Wecli dethol y fan, dechreuodd un adrodd ei brofiad yn fuan, ac ar 01 dybenu yr ail a'i canlynodd - y goreu yn olaf wrth gwrs; ond ar waith yr olaf yn decnreu ei araeth, rhedodd hen filwr oedd yn aros gerllaw y lle, hyd nesoedd ofewn ychydig gamrauiddo; ac wrth ganfod ei agwedd ddefosiynol, ei ddwy- law wedi eu dyrchafu yn ogyfuwch a'i ddwy glust,a'i eiriau mor rasol ag eiddo Twm o'rTwlc; gyda hyny, gwaeddodd yr hen filwr heb gryn- dod, " Mai buddiol iddynt hwy fyddai myned ymaith, aconite!" Gyda'r gair, dwylaw yr areithiwr a ymollyngodd, ei dafod a ddystaw- odd, a gosododd ef a'i gyfaill pregethwraidd eu traed yn y tir, aethant yn ddioedi i'w ffordd eu hun—ond nid yn llawen. Ychwanegodd yr hen filwr eilwaith, "Na ddychwelwch yma mwyach, rhag digwydd i chwi beth a fyddo gwaeth." A'r ychydig blantach a gyfrifent hwy yn wrandawyr iddynt a synent, yn mron, yn gymaint a pwỳr Gadara gynt, pan aeth y sataniaid i r moch; agorent eu llygaid yn ar- swydus ar yr hen filwr, gan ddy wedyd ynddynt eu hunain, " pa fath ryw ddyn yw hwn, gan fod, hyd y nod Seintiau y dyddiau diweddaf yn ffoi rhagddo?" Fel yna terfynwyd y llith. Un o'r Plant. Gwellhwyr nâhwyrach. — Y mae Dr. Hamp- den, Esgob newydd Henffordd wedi ordeinio hen berthynas iddo yn ddiweddar yn offeiriad, yr hwn sydd dros driugain oed. Y mae hyn yn eglur ^aru brawd yn fwy nâ charu achos Crist— ac o ganlyniad yn annheilwng o hono. Galwyd amryw o fasnachwyr parchus dinas Caerodor gerbron yr Ynadon am wrthsefyll taliad y dreth eglwys. Gresyn fod plà o'r fath yn parhau i flino ein gwlad ; ond credwn fod y diwedd yn agos. Cynhaliwyd amryw eyfarfodydd lluosog a pharchus iawn yn mhrif drefydd y deyrnas, o blaid y cyffroad sydd am gael terfynu ymryson- au teyrnasoedd trwy gyflafareddiad ac nid trwy ryfel. Y mae y byd yn dechreu gweled fod rhyfel yn chwibanogl rhy ddrud ac erchyll i gael ei chanu. Y mae oes diolch i Dduw am gymorth i ladd dynion wedi myned heibio. Peth hawdd yw "bloeddio buddygoliaeth, ond teimla y werin yn awr maì nid peth mor hawdd ydy w talu am dano. Gardd Eden.—Cynhwysa y Daily Newt yr hysbysiad canlynol: —" O fewn y pum' mly- nedd diweddaf, cyflwynwyd i'r Parch. J. P. Eden, bedair o fywioliaethau yn olynol gan esgob Durham. Y'r olaf a gafodd, yw Bishop Wearmouth, yn werth 2,000p. yn y flwyddyn." Y mae pob amheuaeth o berthynas i leolrwydd pennodol Gardd Eden yn awr, o angenrheid- rwydd, wedi ei symud. tYmae yn blodeuo yn swydd Durham. — Punch. Genedigaethau Hynod.—Yià ddiweddar nid pell o'r dref hon, rhoddodd gwraig enedigaeth i dri o blant by w. Y mis ddiweddaf yn Westminster, Llundain, es^orodd gwraig i grỳdd ar bump o fechgyn— oll yn gyfluniaidd- ónd oll yn feirw ! CAERDYDD: ARGRAFFWYD GAN OWEN A ROBERT8.